Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Y FEIBL GYMDEITHAS.
News
Cite
Share
Y FEIBL GYMDEITHAS. CYFARFOD YR ADRAN GYMREIG. Nos Fercher diweddaf caed y cyfarfod blyn- yddol ynglyn a'r adran Gymreig o'r Gymdeithas Feiblaidd. Er mai ychydig gyhoeddusrwydd a roddwyd iddo, ac er na chaed neb dieithr i siarad ynddo, yr oedd cynnulliad calonogol iawn wedi dod ynghyd i neuadd Capel Charing Cross, yr hyn a dystiai mai nid diffyg dyddordeb yn y Gym- deithas a'i chenhadaeth sydd yn cyfrif am y cyfarfodydd bychain yn y gorphenol, eithr yn hytrach diffyg trefnusrwydd ym mhenodiad y cwrdd. Os mai mewn neuadd Capel Methodistaidd ei caed, nid oedd hynny yn un rhwystr i enwadau eraill ddod iddo. Yn wir, llywyddid gan ficer Cymreig y ddinas-y Parch. J. Crowle Ellis, a thraddodwyd araeth oreu y noson hefyd gan reithor Cymroaidd Nutfleld-y Parch. G. Hartwell Jones, M.A., a phawb yn gytun yn uno mewn rhoddi derbyniad gwresog iddynt. Yr hybarch Ddr. Cynddylan Jones oedd yno i siarad ar ran y Gymdeithas fel cynrychiolydd Cymru, a chaed sylwadau amserol ganddo ar yr hyn a gynyrchid yn Nghymru heddyw o dan effeithau'r Diwygiad. Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr, 1903, aeth gwerth Z60 o Feiblau i'r Hen Wlad, ond y ddau fis cyferbyniol yn 1904 aeth dros werth £ 300 yno. Dyna, meddai, wna y Diwygiad yn ein plith heddyw. Apeliai am fwy o gefnogaeth i'r Gymdeithas fel y gallai gario allan ei chenhadaeth yn fwy hwyllog yn y dyfodol nag erioed. Yn Saesneg y siaradodd y Parch. Hartwell Jones, a chyfeiriai yn benaf at gyffredinolrwydd y Llyfr a'i ragoriaethau ar bob llyfr arall. Caed caneuon yn ystod y cyfarfod gan Miss Annie Thomas a Chor Meibion Mr. Merlin Morgan.
The Children's Column.
News
Cite
Share
The Children's Column. MY DEAR NIECES AND NEPHEWS, Here are the correct answers to the questions given you December 31st :■— 1. Wyddfa, Berwyn, Plunlumon, Mynydd Du, Cader Idris, Gogarth. 2. Deg, degfed dau ar bymtheg, eilfed ar bymtheg; hanner cant (neu ddeg a deugain), hanner canfed (neu ddegfed a deugain) cant, y ganfed. 3. Ceredigion, Llanbedrpontstephan, Blaenau Ffestiniog, Llanwrtyd. You will see by going through the above care- fully that not one of you has given the correct answer in every case. I do not know of any mountain in Wales called Garthog which several of you have given instead of Gogarth (Great Orme's Head). The three best this time are Angharad, Cyniro. and Aneurin Thomas. Angharad has failed with Gogaith," Aneurin Thomas has done the same, but Cymro has not attempted Llanbedr-pontstephan," and has also mis-spelt several words. Therefore the prize must be divided between Angharad and Aneurin. Here is your task this week:— i. Give the Welsh names ot all the Counties in Wales. 2. There are two articles in Welsh-y and .yr. When ought you to use the one and when the other. Correct the following—y eos, yr ceffyl, y haul, yr mae yr ddafad lIe y oeddy llo. 4. Give the plural of cawr, torf, caer, bore, diwrnod. cinio. Somebody has suggested to me that I ought to tell you a little story every week. If I knew you would like it I would do so. But somehow it is difficult to write a story in the same manner as one would tell it. But there are a lot of stories about Wales and the Welsh people that you would love if I could only tell them as they ought to be told. Suppose we begin with the story of the death of Arthur, no, not his death, for according to the story he did not die. Arthur was a great British King, in the days when the Ancient Britons, the ancestors of the Welsh people possessed the whole of Britain. He had a wonderful sword called in Welsh Caledfwlch, in English Excalibur." That sword had been given him by Arglwyddes y Ffynon (Lady of the Lake). In the battle of Camlan nearly all Arthur's men fell, and he himself was sorely wounded in his duel with Nudrawd the traitor and leader of the rebellion, whom he killed, when feeling faint from loss of blood, he handed his sword to one of his knights called Bedwyr, and told him to take it and throw it into a great lake that was not far off, and watch what would happen. Bedwyr took the sword, but was afraid to throw it, knowing how precious it was. He hid it, and told Arthur that nothing had happened. Arthur rebuked him for being unfaithful to his King's command. At last Bedwyr yielded, and flung the sword as far out as he could. Then a strange thing happened, a fair arm clothed in white satin rose out of the lake, and just as Caledfzvlch touched the water, the hand grasped it by the handle, waved it round three times, and then drew it under. Bedwyr took the strange news to Arthur, and the King understood the meaning of it all. He asked his knight to carry him to the shore, and when they arrived there, there was a barge waiting, and on it a throne covered with scarlet, and three maidens standing by it. Arthur was lifted into the barge, and he was rowed away by sailor-maidens to the Island of Afallon to be restored into health and strength, from where he is to return when the proper time comes to lead his people to victory again. That is the reason why the grave of Arthur has not been found anywhere. Send your answer to the questions by Thursday, to "WNCWL Huw," care of LON- DON WELSHMAN, 45, St. Martin's Lane, W.C.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
nghyfres cyfarfodydd yr eglwys ers blynyddau lawer, ac er fod y cychwynydd, Mrs. Davies Brecknock Villa gynt, wedi hen ymadael a'r fuchedd hon, gofalodd i adael swm sylweddol o anan ar log er cadw y cyfarfod i fynd bob Nadolig tra parhao'r eglwys i fod yn un Gymraeg. Daeth nifer fawr o'r plant yn nghyd y nos hon, a llywyddwyd y cwrdd gan y gweinidog, y Parch. H. Elvet Lewis, ac ar ol rhaglen faith o ganu ac adrodd gan y plant, anrhegwyd hwy oil a gwobrau hardd am eu ffYddlondeb i'r Ysgol Sul yn ystod y flwyddyn. Y n ystod yr hwyr gofalodd amryw o'r gwragedd am luniaeth i'r rhai bach, a buont yn piysur ddiwallu eu hanghenion gyda the a moethau o bob math, er mawr glod iddynt. EISTEDDFOD.—-Nid ym mysg y Cymry yn unig y cynhelir yr hen wyl hon, eithr yn ami celr fod nifer o'r eglwysi Seisnig yma wedi jttabwysiadu yr eisteddfod er meithrin y talentau Heol, fel y gwneir genym ni yng Nghymru. Y dydd o'r blaen gwelsom fod eglwys Bresbyter- aidd Seisnig yn Croydon wedi cael hwyl anghyffredin wrth ddilyn yr hen ddefod Gymreig, ac mae'n eglur i'r cyfan droi allan yn llwyddiant ^awr. Yn yr eglwys honno yr addola Mr. ^ugh Lewis, rheolwr Cwmni'r Central In- surance, ac efe a'i briod oeddent yn gyfrifol am roddi cychwyn i'r wyl. Caed rhaglen faith o gystadlu mewn canu, adrodd, barddoni, &c., ac ^Weiniwyd yr holl waith gan y Parch. Eynon IJavies. Fel, rhwng y cyfan, llwyddodd ardal- Wyr Croydon i gael gwelediad clir beth yw prif ^can a nodwedd y cynulliadau, a'r enw rhyfedd ^Wn, yn ein mysg. DECHREU HAPus.-Caed amlygiad yn nghyf- arfodydd ordeinio Mr. Edward Owen, B.A., yn ^rrett's Grove ddechreu yr wythnos hon fod fyn adfywiad yn y lie oddiar farwolaeth yr hen ijgail. Ar lawer adeg mae hen gapel y Gohebydd wedi bod yn hynod o ddigalon i neb ^gymeryd a'r fugeiliaeth ynddo, ond ar hyn o ryd mae pob peth yn dra chalonogol. Yr oedd oedfaon ar y Sul yn llawn, a dwysder eithriadol yn nghyfarfod y prydnawn, pryd yr aed drwy y gwaith o ordeinio gan y Parch. H. Elvet Lewis ac ereill. I ELFED A'R DDARLITH.—-Cymaint yw nerth y ^ygiad yng Nghymru nes y mae pob math o Vfarfodydd bron wedi cael ei gosod o'r neilldu. r wythnos ddiweddaf cafodd y bardd Elfed r°fiad eglur o hyn. Yr oedd i ddarlithio mewn Ppntref arbenig yn Ngogledd Cymru ar Williams r Wern, a chan fod cryn werthu wedi bod ar y cynau, yr oedd y lie yn orlawn ym mhell cyn § dechreu'r ddarlith. Pan ddaeth Elfed i'r e> a gweled dwysder y dorf, dyma fe'n gofyn E^n gwell fai ganddynt, gael hanes Williams o'r ern neu ynte hanes am Iesu Grist. Wele bob aW dros y yn CO(^j (jj-Qg jesu a throwyd y cwrdd yn gwrdd diwygiad nas anghofir ef yn an. ar y diwedd caed fod pedwar o ddychweled- Jpon o'r byd at y Groes. Dyma brofiad newydd. 0,:)1 yn talu am gael dod i'w hachub ■^ECHREU'R SENEDD.—Sonir gan rai yr agorir fjenedd ar yr ail o'r mis nesaf, ond y farn syttredin yw mai ar y i4eg o'r mis y cymer y rettioni Ie. Addawa'r Brenin fyned i'r Ty gyda tv S^°rc^ orwych, ac yna ceir dechreu ar waith y yinnor, y siarad yn bresenol yw y ceir Etholiad yttredinol cyn canol mis Ebrill, ond hwyrach yw hyny'n iawn os na cha'r bkid sydd airl^11 aw<^UI"dod ar hyn o bryd ryw gri boblog- u newydd—rhagor na'r cynllun o dolli bwyd awd ar amseroedd caled fel hyn iad^1STEDDF0D ALBERT HALL.—Mae'r trefn- yn V,U ?°gyfer a'r wy! h°n yn niynd ym mlaen Er r^7'lus iawn, a'r rhagolygon yn dra addawol. y N° cynnulliadau yng Nghymru ar adeg ^0(jaclo^§ wedi cael eu gohirio, y mae rhai wedi chv s^rwd y buasai'r wyl hon yn cael ei 1 ar ryw ddyddiad arall7 ond nis gall hynny ddigwydd. Y mae'r neuadd wedi ei llogi ar y dyddiad arbenig hwn, ac fe gynhelir yr eistedd- fod ar y dyddiad sydd eisoes wedi ei hysbysu. Boed i'r cystadleuwyr Llundeinig drefnu eu rhengoedd yn barod i'r ornest fawr hon. RADNOR STREET, CHELSEA.-Noson gym- deithasgar a gafodd aelodau y Gymdeithas Ddiwylliadol nos Lun diweddaf, a daeth cyn- nulliad da iawn ynghyd. Y mae y Gymdeithas yn treulio noson fel hyn ryw noswaith ym mhob mis, a theimla yr aelodau ei bod yn hyfryd dros ben i gael adnabod eu gilydd yn well, a mwynhau cwmni siriol eu cydgenedl yn lie bod yng nghanol unigedd estronol. Darparwyd danteithion gan nifer o foneddigesau caredig, o dan arolygiaeth Mrs. Davies, Rosebery Villa, a chaed wedyn awr a hanner neu ragor o ganu ac adrodd ac annerch. Yn absenoldeb Llywydd y Gym- deithas oherwydd afiechyd, llywyddwyd y gweithrediadau gan y Cynghorydd W. Davies, Y.H., Battersea. BARRETT'S GROVE.-Nos Sadwrn, y Sul, a nos Lun cynhaliwyd cyfarfodydd i ordeinio Mr. Edward Owen, B.A., yn weinidog ar yr eglwys uchod. Pregethwyd nos Sadwrn gan y Parch. J. E. Thomas, Meifod, a bore Sul gan Dr. L. Probert, Bangor, ar Natur Eglwys. Y cyfarfod prydnawn Sul ydoedd y Cyfarfod Ordeinio arbenig. Llywyddwyd y cyfarfod hwn gan y Parch. H. Elvet Lewis. Rhoddwyd gofyniadau arferol i'r gweinidog ieuanc gan Dr. Probert (yn absenoldeb y Parch. J. Machreth Rees, a luddiwyd gan afiechyd i ddod i'r cyfarfod). Offrymwyd yr urdd-weddi gan y Cadeirydd, a thraddodwyd siars i'r gweinidog gan y Parch. J. E. Thomas. Siaradwyd hefyd gan y Parch. Roderick Davies, Shepherd's Bush. Pregethwyd nos Sul gan Dr. Probert, a nos Lun gan y Parchn. J. E. Thomas a D. C. Jones, y Boro', yr hwn a draddododd siars i'r eglwys. Cafwyd cyfarfodydd nodedig, y gwlith a'r eneiniad ar yr holl wasanaeth. Cred pawb y bydd dyfodiad Mr. Owen i'r lie yn fendith ddirfawr i'r achos.-CVF AILL.