Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Pobl a Phethau yn Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl a Phethau yn Nghymru. MAE Mr. Sam Evans, A.S., ar fin cymeryd gwraig eto. Merch o'r America yw ei ddewis yn awr. P'le mae merched Morganwg, tybed ? WEDI ei ddal gan anwyd trwm mae Mr. Humphreys-Owen y dyddiau hyn, ac y mae wedi torri ei gyhoeddiadau am rai wythnosau i ddod. Gobeithio y caiff adferiad buan. Bu farw y diweddar Mr. Isaac Ffoulkes yn ddi-ewyllys, ac mae ei eiddo mewn canlyniad i'w ranu cydrhwng ei weddw ieuanc, a'i blant o'r wraig gyntaf. Beirniad parod oedd y "Llyfr- bryf" druan ar ffaeleddau pobl ereill, ac wele yntau yn gorfod mynd cyn trefnu yr oil i ber- ffeithrwydd. AR ol ei afiechyd blin y mae'r Cadben R. Davies, meistr y dociau yn Barry, yn graddol wella y dyddiau hyn; a'r wythnos hon gallodd fyned allan am dro i'r awyr agored. BVDD yn flin gan lawer o gyfeillion y prif- fardd Job glywed ei fod yn bur wael ei iechyd, ac fod y meddyg wedi gorchymyn iddo gymeryd seibiant am beth amser. Mae'r gweithio caled a'r teithio parhaus wedi effeithio yn ddirfawr ar ei gyfansoddiad gwan. Ar ol methu cyfyngu dylanwadau'r Ysbryd Glan i na sect na phlaid yng Nghymru y mae rhai pobl yn awr yn awyddus am sicrhau hawliau arbenig ar hanesion ynglyn a bywyd y gwr leuanc, Evan Roberts y Diwygiwr. Oddiwrth hysbysiad mewn papyr enwadol darllenwn nad Oes gan neb hawl i gyhoeddi ffeithiau hanes ei fywyd mewn unrhyw iaith ond Dr. Phillips," sef y Parch. D. M. Phillips, Ph.D., Tylorstown. Mae'n biti nas gallai rhai enwadau sicrhau hawl- ysgrif i'r Beibl. MOR wahanol i hyn yw ysbryd y papurau anghrefyddol yng Nghaerdydd. Yno mae'r South Wales Daily News a'r Western Mail yn Hyned allan o'u ffordd i roddi cymaint o Syhoeddusrwydd i'r mudiad a'r Diwygiad ag fydd yn bosibl. Cyhoedda'r olaf hefyd oamphledau achlysurol yn rhoddi yr holl ffeithiau am y gwaith, heblaw son am gael special Revival edition o'r Express yn yr hwyr yn awr ag eil- waith. Pe buasai'r ysbryd crebachlyd uchod ynglyn a'r newyddiaduron hyn diau na fyddai'r stori am y Diwygiad ond un fechan iawn. PARHAU i feirniadu polisi Mr. Lloyd-George ^glyn ag Addysg mae Mr. Bryn Roberts, a chred na fydd i'r Llywodraeth atal ei llaw pan aaw'r adeg i daro. Dyma ddywed yn un o'i ythyrau yr wythnos hon, Ni fydd swyddfaau ■^lywodraethol y wlad yn arfer gwneyd rhyw Qrwst ac ymffrost mawr cyn gweithredu na fne'deg a phob peth i'r papur newydd. Y Celt, ruan, sydd fwyaf agored i'r gwendid o alw ar yr holl fyd i synu uwchben y gwrhydri y mae yn mynd i'w gyflawni." V BETH yw cynhauaf y Diwygiad yng Nghymru ? mae'r heolydd eisoes yn mynd yn fwy sobr yn yr holl drefi, iaith yn burach, a'r bywyd cyffredin yn fWy nawen a siri0i. Ceisir gan rai i gyfrif• y dychweledigion yn y gwahanol gapelau, °nd y maent eisoes ym mhell uwchlaw ugain Dywed Evan Roberts y ca can mil o yrnry eu hachub cyn y bydd iddo orphen ei j. rtn. Dyna nod gwir ragorol i wr ieuanc osod °1 flaen Dim un nifer yn ormod i'w hennill i'r Meistr Mawr. GOHEBYDJD o Dalysarn, ardal y seraph- fnH^et^Wr Jones gynt, a ysgrifena i ddweyd ry yr. ^oll le ar dan yno o dan effeithiau y '^ygiad presenol. Dyma ddywed, Treuliais ch f "yn ardal Penygroes a Thalysarn, a Cvells *awer o gyfarfodydd bendigedig yno. yrddau gweddi am ddeg neu ddeuddeg awr, ugemiau yn cael eu hachub, a phawb yn effro dros y gwir. Gwasanaethid eleni yn y gymanfa flynyddol gan y Parchn. D. LI. Morgan, Pontardulais, a T. Mardy Rees, Buckley, ac ni chlywais erioed bregethu mwy gwresog a mwy i'r pwrpas. Vr oedd Mr. Rees yn nodedig o ffodus yn ei destynau a bydd ei bregeth nos Lun ar 'Rhed, llefara wrth y llangc hwn,' a'r effeithiau a gynyrchodd yn hir yn nghof pawb a'i clywodd." DYCHWELODD Mri. Lloyd George, Frank Edwards, a Herbert Lewis yn ol i Lundain o'r Eidal nos Fawrth diweddaf. Buont yn aros rhai dyddiau ar eu ffordd adref gydag Arglwydd Rendel yn ei hafod gerllaw Cannes, ac yn ystod eu harosiad yno ymwelsant a'r ystafell yn yr hon y bu Tom Ellis farw. Mae Mr. Lloyd-George wedi galw Pwyllgor Gweithiol y Cynghor Cenedl- aethol i gyfarfod yn y 'Mwythig yr wythnos nesaf, a chredir y bydd cenadwri bwysig oddi- wrth yr athrawon elfenol ynghylch y cad-oediad ynglyn ag addysg i'w hystyried yno. Mae y teimlad yn ffafr gwneyd ymdrech egniol i adfer heddwch yn cynyddu yn barhaus. COLLED fawr i Wrexham a'r cylch fydd marwolaeth Mr. Edward Evans, Y.H., Bron- wylfa. Yr oedd yn un o golofnau cryfaf pob mudiad diwygiadol mewn gwladwriaeth a chymdeithas. Mab iddo ef yw Mr. Edward Evans, Lerpwl, cadeirydd Pwyllgor y Cynghrair Rhyddfrydol Cenedlaethol. MAE Syr Alfred Thomas wedi bod yn mynychu llawer iawn o'r cyfarfodydd Diwygiadol yn y Deheudir yn ystod y pythefnos diweddaf, ac mae'r gwaith da sydd eisoes wedi ei gyflawni yn ei etholaeth yn brawf mai nid rhywbeth i'w anwybyddu yw'r don ysbrydol bresenol. PARHAU i feirniadu polisi Mr. Lloyd-George mae'r Athro D. E. Jones, o Goleg Caerfyrddin, ac mae mor gywrain wrth ddefnyddio ffigyrau i brofi ei bwnc ag yw Mr. Chamberlain ynglyn a'i hoff-gri ynglyn a'r diwygiadau trethol. Ac mae'n amlwg mai yr un gwrandawiad a ga'r ddau foneddwr gan y wlad pan ddel dydd y prawf. BVDD rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Caer- narfon yn cynwys un testyn newydd o leiaf. Rhoddir gwobr gan Mr. Edward Roberts, Arolygwr Ysgolion yng Ngogledd Cymru, am y Gramadeg Lladin Cymraeg goreu ar gyfer ysgolorion Cymreig. Bydd llawlyfr o'r fath yn gaffaeliad gwerthfawr dros ben i blant Cymru. Ond rhyfedd fel mae'r byd yn troi. Ysgrifenu Gramadeg Cymraeg yn Lladin fyddai hi stalwm. DVWED Mr O. M. Edwards, yn y Cymru am Ionawr, mai yn nhref Aberystwyth y mae yr ysbryd cenedlaethol Cymreig wanaf o un lie yng Nghymru y gwyr efe am dano. Felly, ai tybed ein bod oil wedi camgymeryd wrth dybied mai yn Aberystwyth y mae y coleg lie bu Thomas Charles Edwards yn Brifathraw a Tom Ellis yn efrydydd ? ———— YMDDANGOSODD Dirprwyaeth, yn cynrychioli Cymdeithas Ddirwestol Meirion, o flaen Pwyll- gor Gweithiol Arddangosfa Amaethyddol y sir yn erfyn arno gau allan y diodydd meddwol o faes yr arddangosfa. Addawai y Gymdeithas fyned yn gyfrifol am unrhyw golled arianol a allai hynny achosi. Yn y diwedd pasiwyd drwy fwyafrif o un i gydsynio a'r cais, a chau y diodydd allan.
Y DYFODOL
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y DYFODOL LDymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon. ] 1905- Ion. 18. Mile End Road. Cystadleuaeth Gadeiriol ar Unawd 19. Cyngherdd Blynyddol Jewin. 26. Barrett's Grove. Te a Chyngherdd Blynyddol. 31. Little Alie Street. Darlith gan y Parch. T. Shankland, Rhyl. Chwf. 5. Cyfarfod Pregethu Stratford. 9. Stratford. Darlith gan y Parch. S. E. Prytherch. 16. Annual Eisteddfod, Harecourt Chapel, Canonbury. Chwf. 21. Little Alie Street. Eisteddfod Flynyddol. 23. Eisteddfod Gadeiriol yn y Royal Albert Hall. 25. Cyngherdd Cenedlaethol yn Heol-y-Castell. 25. Darlith yn Clapham Junction gan y Parch. F. Knoyle, B.A., ar "Y Diwygiad Protestan- aidd." 28. Gwasanaeth Cymraeg yn St. Paul. 28. Cymanfa Unedig yr Ymneillduwyr yn y City Temple. Mrth. 9. Cyfarfod Cystadleuol Morley Hall, yn Jewin Newydd. 16. Cyfarfod Cystadleuol Wilton Square. 23. Eisteddfod Eglwys St. Padarn, Hornsey Road, yn Myddelton Hall, Upper Street, N. „ 30. Eisteddfod Flynyddol Shirland Road. Ebrill 6. Cyngherdd Blynyddol Ysgol Camden Town. 13. Cymanfa Ganu y M.C. yn Jewin.
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0, Parch. Howell Watkins, B. A. 6.30, J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, Paddington- 11. o a 6.30, Eglwys St. Padarn, Hornsey Road- 11.0 a 6.30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- 11.0 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- 11.0, Mr. Evan Williams, Rhydychain. 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Parch. J. E. Davies, M.A. 6.30, JJ J. Wilson Roberts. Charing Cross Rd. 10.45, Parch. P. Hughes Griffiths. 6.30, W. Williams, Tredegar. Wilton Square 10.30, Parch. G. H. Havard, M.A. 6.30, Supply Wood Green. Falmouth Road 10.45, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, R. O. Williams. Mile End Road 11.0, Parch. D. Oliver. 6.30, J. Tudno Williams, M.A. Shirland Road 10.45, Parch. O. B. Jones, Ffynon- groew. 6.30, F. Knoyle, B.A. Holloway 10.30, Parch.R. O. Williams. 6.30, S. E. Prytherch. Hammersmith 11.0, Parch. F. Knoyle. B.A. 6-30, O. B. Jones, Ffynon- groew. Stratford 11.0, Parch. J. Wilson Roberts. 6-30, J. E. Davies, M.A. Clapham Junction 11.0, Parch. W. Williams, Tredegar. 6.30, P. Hughes Griffiths. Walham Green 11.0, Parch. J. Tudno Williams,M.A. 6.30, D. Oliver. Willesden Green 11.0, 6.30, Parch. LI. Edwards, M.A. Lewisham 11.0, Parch. R. Silyn Roberts, M.A. 6.30, J. Garnon Owen. Tottenham 11.0, Parch. J. Garnon Owen. 6.30, R. Silyn Roberts, M.A. Walthamstow 11.0, Parch. LI. Edwards, M.A. 6.30, Supply Willesden Green. Wood Green 11.0, 6.30, Parch. G. H. Havard, M.A. YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross- 11.0, Parch. D. C. Jones. 6.30, H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0, Parch. J. Machreth Rees. 6.30, D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea— 11.0, Parch. H. Elvet Lewis. 6.30, J. Machreth Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0 a 6.30, Parch. Edward Owen, B.A, East Ham, Sibley Grove- i i. o a 6.30, Woolwich, Parson's Hill- 11.0 a 6.30, Parch. Llewelyn Bowyer. Battersea Town Hall- 11.0 a 6.30, Parch. J. W. Price, Troedyrhiw. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11.0 a 6.30, Mr. J. Glynn Edwards, Coleg Regent's Park. Little Alie Street, Aldgate- 11.0 a 6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham—11.0a6.30, Parch. W. Rees. Y WESLEYAID. City Road- 11.0, Mr. E. Williams. 6.30, Parch. T. Jones. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. E. Evans. Poplar, Duff Street- 3.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. E. Williams. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan bellaf.