Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Professor Henry Jones criticises…

Llundain a'r Diwygiad.

Eisteddfod Memorial Hall,…

Adennill y Gemau Coll.

News
Cite
Share

lesu Grist oedd yn cael mwyaf o le yn '59 ond yr Ysbryd Glan yw y Person Dwyfol sydd yn llond Diwygiad 1904. Nis gwn pa mor fanwl y dylid bod wrth wahaniaethu fel. hyn. Sicr yw fod Cymru wedi cael golwg newydd ar lesu eto hefyd. Mae emynau y Diwygiad presenol yn orlawn o Grist fel y gwyr holl ddarllenwyr y Tyst"; a chredaf y gellir -dweyd yn ddios fod y Groes wedi dod yn amlycach i'r genedl gyfan. Angerddoldeb newydd yn nghariad pobl at Iesu fydd un o ffrwythau yr ymweliad Dwyfol hwn. Syniad newydd, gwell, a dyfnach, a chywirach am yr hyn a olygir wrth wasanaethu yr lesu teimlad newydd ardderchog o'n rhymedigaeth iddo ac ystyr newydd bur i'r gair "disgybl." Gellir .dweyd ym mron y bydd Crist yn Grist newydd i'n cenedl ni ar ol hyn. Yr oedd y deugain mlynedd diweddaf wedi magu to o grefyddwyr nad oeddynt erioed wedi gweld y Ceidwad yn iawn. Ond dyna yw natur y gyffes a wneid ar bob llaw ? Crist traddodiad, a llyfr, a phregeth yn unig oedd gan gorph mawr ein haelodau crefyddol o'r blaen; ond y mae wedi dyfod yn Berson agos, anwyl, a real erbyn hyn-yn Grist profiad personol. Croes bell, yn y niwl yn rhywle, oedd Croes y Prynwr o'r blaen; dim dirnadaeth gywir am dani, ac, yn wir, dim awydd mawr i dreio dod o hyd i'w hystyr aruthrol ychwaith; ond bellach, mae'r Groes wedi ymddangos-mae'r niwl wedi clirio oddiar gopa Calfari, ac y mae'r breichiau fu ar led drosom, y dwylaw fu dan y dur erom, yr arlais bigwyd gan y ddreinen wedi dod i'r golwg, a'r weledigaeth wedi siglo calon, a chyffroi cydwy- bod, a. gwneyd argraph annileadwy ar Gymru Neges 1905 fydd cadw yr olygfa yn fyw yn y meddwl. Diogelu yr argraphiadau a wnaed, a dyfnhau y teimlad gynyrchwyd gan y weledi- gaeth sanctaidd hon. "Pen Calfaria, Nac* aed hwnw byth o'm cof."