Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

The Revival in Wales.

Adennill y Gemau Coll.

Enwogion Cymreig.—XV!. Yr…

News
Cite
Share

y mae wedi gwneyd enw iddo ei hun. Ni bu ei hafal yn y cymeriad hwn ar ol Caledfryn, ac y maent yn ddigon tebyg i'w gilydd mewn llawer o bethau. Medr fod yn llym fel ellyn, eithr nid oes un dig na dial yn ei galon. Gwledd yw ei glywed yn traddodi beirniadaeth oddiar lwyfan yr Eisteddfod. Mae ei sylwadau mor loyw, ei gynghaniad mor eglur, ei lais mor gyrhaedd-bell, a'i oslef a'i osgo mor drwyadl Gymreig fel na flina y dorf fwyaf yn gwrando arno. Nid yw yn credu yn yr Orsedd na'i defodau, ond cred yn yr Eisteddfod, cred yn y delyn, cred yn y gyng- hanedd, cred mewn i Gymro fyw a siarad fel Cymro-cred mewn pobpeth y gwyr yn sicr ei fod yn Gymreig.