Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Notes of the Week.

Am Gymry Llundain.

Nodiadau Golygyddol.

News
Cite
Share

hwy yn perthyn i un o'r tair Talaeth Gymreig. Ond bu cynnydd yn mysg y rhai hynny o 428, yn gwneyd cyfanrif o 1,485. Gwelir fod aelodau crefyddol y pedwar enwad gyda'u gilydd, gan gynwys yr eglwysi Seisnig yng Nghymru, yn cyrhaedd y nifer o 472,363. GWNAED difrod mawr yn rhengau pregethwyr Cymru gan angau yn ystod y flwyddyn. Cymerwyd ymaith gynnifer a 62 o weinidogion perthynol i'r Eglwys Sefydledig a'r pedwar Enwad Ymneillduol. Yn eu plith yr oedd rhai gwyr a fuont yn amlwg iawn am ysbaid hir, megis Canon Eleazar Williams, Llangefni; y Rheithior Williams o Landyrnog; y Canon Evan Jones o Drefdraeth; David Richards, Ficer Blaenau Festiniog; Owen Lloyd Davies, Lerpwl; D. Phillips, Abertawe; Evan Evans, Pennant; John Davies, Efail Isaf; Edward James, Nefyn a T. Dennis Jones, Llanllechid. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt wedi gwneyd diwrnod da o waith, a daw eraill i mewn i fedi cynhauaf lie y llafuriasant hwy. Ond er fod y tadau yn syrthio, gall C)mru fforddio gwynebu y dyfodol gyda hyder diofn. Fe geir, fel ffrwyth y Diwygiad, do o bregethwyr fyddanc yn cyfateb i bob galw, ac yn deilwng olynwyr i'r cewri sydd o oes i oes wedi bod yn addurniadau mor ddis- glaer i bulpud ein gwiad.