Hide Articles List

2 articles on this Page

Pobl a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yn Nghymru. RHODDIR coes bren Ardalydd Cyntaf Mon ar werth yn fuan yn Beaudesert, Sir Stafford. Fe gofir mai ynglyn a'r goes hon yr anfarwolodd y Bardd Cocos ei hunan. GADAWODD y diweddar Mr. Morris Owen, Bryniau, ger Beaumaris, y swm o £ 40,942 ar ei ol. YR wythnos ddiweddaf bu farw y Parch. R. Thomas, gweinidog yr Annibynwyr ym Mhen- rhiwceibr, Morganwg. Hyd nes i'w iechyd roddi ffordd ychydig flynyddoedd yn ol ystyrid Mr. Thomas yn un o bregethwyr mwyaf poblog- aidd ei enwad. Ym Mhenrhiwceibr yr ordein- iwyd ef o ugain i bum-mlynedd-ar-hugain yn ol, a bu yn hynod lwyddianus fel gweinidog. Adeiladodd eglwys gref yn y lie cynyddol hwnnw. Cydymdeimlir yn fawr a'i deulu. Mae mab iddo yn Yorkshire College yn parotoi ar gyfer y weinidogaeth. YCHYDIGamSer yn ol dygodd y Parch. W. A. Jones, gweinidog y Bedyddwyr, Llandegfan, gynghaws am enllib yn erbyn gwr a gwraig o Borthaethwy. Yr oedd yr enllib honedig yn gynwysedig mewn cyhuddiad a wnaed gan y diffynyddion i'r perwyl ddarfod i'r achwynydd ladratta nwyddau ar amryw achlysuron o siop ym Mhorthaethwy a gedwid gan ddiacon o'r un enwad ag ef ei hun. Gwrandawyd yr achos yn y Cwrt Bach o flaen Syr Horatio Lloyd. Y dydd o'r blaen rhoddodd y Barnwr ei ddyfarniad o blaid y diffynyddion, ac felly yn euogi yr achwynydd o'r hyn y cyhuddid ef ohono. Os oes eisieu Diwygiad yn rhywle yng Nghymru yn fwy na'i gilydd, Aberystwyth yw y lie. Ffraeo a'u gilydd fel barbariaid a wna aelodau y Cyngor Trefol yno o gyfarfod i gyfar- fod. Gadawodd y Maer y gadair droion am na fedrai gael ganddynt ufuddhau iddo, ac am eu bod yn bwrw enwau drwg a chabl-eiriau at eu gilydd. Pa un ai Coleg y Brifysgol neu y Cambrian News sy'n gyfrifol am bethau fel hyn ? Y MAE Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon wedi mabwysiadu yn unfrydol gynllun yr Is-Bwyllgor i ddysgu Cymraeg yn yr Ysgolion Elfenol. Yr Athro John Morris Jones fu a'r llaw flaenaf yn narparu y cynllun, ac efe a'i heglurodd yng nghyfarfod yr awdurdod uwch. Rhydd y Prif- athraw John Rhys, Syr Isambard Owen, a Mr. Owen M. Edwards y ganmoliaeth uchaf iddo. Ar ol gwyliau yr haf nesaf y daw i rym. BYDD yn chwith iawn gan lawer yng Nghymru, ac oddiallan i Gymru o ran hynny hefyd, glywed am farwolaeth y Bonwr Lewis Jones, o Bata- gonia, tad yr awdures dalentog, Miss Eluned Morgan. Yr oedd gan Mr. Lewis Jones fwy i wneyd na neb arall, oddigerth y diweddar Brif- athraw Michael D. Jones, a sefydlu y Wlad- ychfa. Aeth yno gyda'r fintai gyntaf, a daliodd yno drwy bob tywydd ac anffawd. Gwelodd yno amser caled ar y cychwyn, ond gwenodd ffawd arno ym mhen tipyn. Colledwyd ef yn ddirfawr wedyn drwy y llif-ddyfroedd, ond daliodd i gredu mewn dyfodol gwell o hyd. Yr oedd ers llawer blwyddyn yn farnwr yn y lie, ac yn fawr iawn ei barch yngolwg y Cymry a'r Hisbaenwyr. YR wythnos ddiweddaf cychwynodd y Prif- athraw Dr. John Rhys a Mrs. Rhys am fordaith i Jamaica. Mae Mrs. Rhys wedi bod dan afiechyd trwm a pheryglus yn ddiweddar, a gobeithir y bydd i'r fordaith ei hadfer yn llawn a llwyr. Dyna ddymuniad didwyllaf miloedd o galonnau. Cyhoeddir erthygl o eiddo Dr. Rhys ar Darddiad yr Englyn" un o'r wythnosau nesaf. DAETHPWVD o hyd i'r llinellau a ganlyn ar glawr ysgrif-lyfr sydd yn 270 mlwydd oed :— Ni thycia i'r cywaethogion Eu haur yn y siwrnai hon, Yr aur ei adel sy raid Yn dwrr i ryw ddyn diriaid Na fydd gybydd celfydd call I ddwyn aur i ddyn arall." Mae cymaint o angen y cyngor ar ddynion heddyw ag oedd ar bobl dair canrif yn ol. UN o'r cymeriadau mwyaf gwreiddiol yng Nghymru oedd Sion Owen, Maesyneuadd, Sir Gaernarfon. Hen lanc tal, gwallt llaes, llym ei olwg, ag awdurdod yn ei ddawn a'i lais, a chyflym ei gerddediad ydoedd. Gwnaeth daith un diwrnod ar ei draed o'i gartref i Gaernarfon ac yn ol, pellder o chwe milldir ar hugain, rhwng boreufwyd a haner dydd, ac am na chafodd ei neges yn Nghaernarfon aeth drachefn i Bwllheli ac yn ol, pellder o un filldir ar bymtheg, y cwbl yn bedair milldir a deugain, yr hyn a orphenodd yn gynar ar y dydd. Er fod golwg batriarchaidd a barddonol arno gyda'i wallt llaes, am ei fod ar ei ben ei hun, heb neb arall yn debyg iddo, yr oedd y teulu, yn arbenig y rhai ieuengaf ohonynt, yn teimlo cywilydd o'i blegid. Daeth nith fechan iddo i bwyso yn drwm arno am gael torri ei wallt. Canlynodd ar ei ol i bob cyfeiriad am amser hir, gan ofyn yn daer am gael ei dorri, ond yn aflwyddianus. Wedi cau arno mewn ystafell neillduedig o'r ty llwyddodd i'w berswadio, a dechreuodd ar y gwaith o'i dorri. Ha," meddai wrth un o'r teulu ddaeth i mewn atynt, "yrwyf finnau o dan law Dalilah yrwan." Cyn hynny atebai yn sarug wrth bob un a ofynai am gael torri ei wallt, gan ddweyd, Stand back," wrth bob un. Yr oedd eisieu penderfyniad a medrusrwydd mawr yn y nith ieuanc i ddal ac i lwyddo i'w berswadio. Yr oedd unwaith yn dod a llwyth o wrtaith glan y mor i fyny o'r tir. Gan fod yr anifail yn arafach nag y credai Sion Owen y dylasai fod, defnyddiai y chwip yn lied fynych. Galwodd cyfaill arno gan ddweyd, Y cyfiawn fydd drugarog wrth ei anifail, Sion Owen." Y mae adnod arall llawn mor bwysig heddyw," meddai Sion Owen, sef Gydar cyndyn yr ymgyndyni, so drive along, Darbi," gan roddi fflangell arall iddi, yr hyn a gyflymodd ei gamrau ef a Darbi o hynny i ddiwedd y daith. Bu digwyddiad hynod yn nglyn a chadair Eisteddfod y Temlwyr Da yn Lerpwl adeg y Nadolig. Y bardd i ennill y gadair oedd Gwilym Deudraeth, ac roedd yr hen greadur mewn carchar ar y pryd am drywanu ei wraig pan o dan effeithiau gwirodydd beth amser yn flaenorol. Y canlyniad fu i'r gadair gael ei gadael yn wag, ond hyderwn y gwna'r buddugol ymuno a'r Temlwyr Da o hyn allan; os gwna hynny bydd yn fuddugoliaeth ddyblyg iddo. Yn yr un eisteddfod a gynhaliwyd flwyddyn yn flaenorol, tafarnwr oedd y buddugol ar yr englyn. Wel, mae Temlwyr Da Lerpwl yn bur atdyniadol i'r beirdd.

Lien a Chan,