Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig.-XV. Y Parch.…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.-XV. Y Parch. J. E. Davies, M.A. GWLAD dda odiaeth ar lawer cyfrif ydyw gwlad Myrddin. Nid yw efallai mor amrywiol a rhamantus ei golygfeydd a rhai parthau eraill o Gymru, ond y mae ei dyffrynoedd yn llydain, ei thir yn gynyrchiol, ei hanifeiliaid yn freision, a'i hanneddau yn heirdd a llawnion. A gwlad yn magu meibion glewion ydyw hi, hefyd. Er dyddiau y Tywysog Rhys y mae bechgyn gwlad Myrddin wedi bod yn enwog am eu cariad at Gymru a'i harfer- ion, ac yn barod ar bob amgylchiad i'w gwasanaethu. Ni wiw dechreu enwi y gwroniaid a fagodd, onide 'does wybod pa hyd y deuid i ben. Ond y mae eu henwau yn britho rhestrau ein Duwinyddion a'n Pregethwyr, ein Beirdd a'n Llenorion. Ni raid aros mwy nag ychydig amser yng nghwmni y gwr parchedig ac anwyl yr ysgrifenir y braslun hwn ohono cyn gwybod mai Un o Blant Myrddin ydyw. Ganwyd ef mewn ffermdy bychan o'r enw Maes-yr-adwy, ym mhlwyf Llanfynydd, yn y flwyddyn 1850. Prydferthion Dyffryn Cothi ddysgodd ei lygaid i weled, yr afon droellog a red mor ami i ymguddio yng nghysgodion y llwyni gwyrdd a ddysgodd ei ysbryd i chwareu. Amaethwyr oedd ei rieni. Ychydig o fanteision addysg a gafodd yn nyddiau ei fachgendod, dim ond blwyddyn," meddai ef ei hun. Yr oedd yr ysgol ddyddiol ym mhell o'i gartref, a'r ffordd yn arw, ac nid oedd raid mynd i'r ysgol y pryd hwnnw, fel yn awr. Ac yr oedd ei eisieu i gynorthwyo ar y fferm. Ond ymaflodd ysfa darllen ynddo yn fore iawn, a'i hoffwaith gartref oedd bugeilio y defaid. Cai gyda y gwaith hwnnw fwy o amser i foddhau ei duedd ddarllengar na chyda'r un gorchwyl arall. Gyda'r Annibynwyr y cafodd ei fagwraeth grefyddol foreuaf, ond pan oedd ar drothwy ieuenctyd symudodd y teulu i fyw i ymyl pentref Llanfynydd. Ac yno ymaelododd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cyn hir Daeth Arno Chwant Pregethu, a gwelodd yr eglwys hefyd yr un adeg fod ynddo gymhwysderau amlwg ar gyfer y gwaith. Ond nid oedd hynny i ddod i ben heb" ym- drech mawr o helbulon." Nid oedd ei dad yn foddlawn iddo newid gwaith y tyddyn am waith Y pulpud. Ni chredai ym mhurdeb cymhellion ei fab, er o bosibl fod y meddwl am golli ei wasanaeth yn ei gwneyd yn anhawdd i'r hen wr ffurfio barn ddiduedd. Ac i wneyd profedigaeth y llanc yn fwy tanllyd cynygiodd ewythr cyfoethog iddo ei fabwysiadu yn etifedd iddo- os dilynai y ffenn a rhoi i fynu am bytlz y meddwl am bregethu." Ond daeth drwy y brofedigaeth yn ddiogel. Ac yn yr argyfwng pwysig hwnnw profodd Ei Fam yn Fam yn Wir Iddo. A pha wlad o dan haul sydd o dan gymaint o ddyled i'r mamau a Chymru ? Eithriad yw y Cymro a ddringodd yn uchel heb i'w fam mewn rhyw ffordd neu gilydd osod ei droed nr y grisyn cyntaf. Yr oedd Esther Davies yn fwy ei thalent, yn eangach ei syniadau, yn gryfach ei. ffydd, ac yn llawnach o haelfrydigrwydd a chydymdeimlad na'i phriod. A gwnaeth hi ei l hoto by~\ [ Arthur Weston, 16, Poultry, F.e. PARCH. J. E. DAVIES, M.A. meddwl i fynu na chai dim sefyll ar ffordd boddloni ei mab a dymuniad yr eglwys. Yr oedd yn berchen ar dyddyn bychan yn ei hardal enedigol, ac ebai hi, gyda phwyll tawel a arwyddai benderfyniad didroi yn ol — "Mi wertha'r lie bach, a chaiff pob ceiniog o'r gwerth, a 'chwaneg os bydd raid, fynd at I addysg John." Gwelodd y tad mai ofer ymryson rhagor Cafodd y bachgen y ffordd yn rhydd, ac ni ddaeth pang o edifeirw ch iddo ef na neb o'r teulu oherwydd y cwrs a gymerodd. Dechreuodd ymbarotoi ar gyfer y weinidogaeth. Aeth yn gyntaf i'r Ysgol Frytanaidd ym Mrechfa. "Ni wyddwn ddim Saesneg y pr\d hwnnw," meddai ef ei hun. Ond dangosodd yn fuan fod ynddo allu eithriadol i gymeryd addysg. Yn 1872 derbyniwyd ef i Goleg t Trefecca. Bu ei yrfa yno yn dra Ilwyddianus, yn enwedig mewn ieithoedd, a chipiodd amryw o'r prif wobrwyon. Yn 1876 Ennillodd Ysgoloriaeth Dr. Williams, yr hon a agorodd y ffordd iddo fyned i Brif- ysgol Glasgow am gwrs ychwanegol o addysg. Arosodd yn Glasgow hyd 1880, a chyn ) madael yr oedd wedi Ilwyddo i gymeryd y radd o Athraw yn y Celfyddydau, ac i ennill un o brif wobrwyon y Brifysgol mewn llenyddiaeth Seisnig. Nid drwg, wir, fu cynnydd y gwr ieuanc na feddai "ddim Saesneg yn Mrechfa yn 1869. Wedi gorphen ei efrydiau yn Glasgow, ym- sefydlodd yn fugail ar yr eglwys >11 Siloh, Llanelli. Yr un flwyddyn ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa Aberystwyth. Treuliodd chwe blynedd dedwydd iawn yn Llanelli, er eu bod yn flynyddoedd o lafur caled. Yn 1886 symud- odd i Lundain i gymeryd gofal Y Fam=Eglwys Fethodistaidd yn Jewin. Yr oedd yma yn dilyn cewri o ddynion o ran meddwl a hyawdledd — James Hughes, yr esboniwr; Dr. Owen Thomas, a David Charles Davies. Anturiaeth i brofi grym ac adnoddau unrhyw ddyn oedd ymgymeryd a llanw'r pulpud y safasai y fath addurniadau ynddo, a bugeilio'r praidd a gawsai eu harolygiaeth hwy. Ond y mae deunaw mlynedd o wasanaeth Ilwyddianus yn profi fod yn y Parch. J. E. Davies ddigon ar gyfer y galw. Er fod y boblogaeth Gymreig yn myned yn fwy gwasgaredig flwyddyn ar ol blwyddyn, ac er fod llu mawr o gapelau Cymraeg newyddion wedi eu codi yn y cylch yn ystod y blynyddoedd hyn, y mae eglwys Jewin yn llawer iawn cryfach nag ydoedd pan gymerodd ef ei gofal. Ac y mae y cynnydd mawr yn hanes y n Corph" yn Llundain yn y blynyddoedd diweddaf yn ffrwyth arbenig ei lafur doeth a'i ymroddiad diflino ef. Ond nid yw mewn un modd yn cyfyngu ei wasanaeth j'w enwad ei hun. Pa symudiad bynnag fo ar droed i ddyrchafu a llesoli Cymry Llundain bydd Mr. Davies, Jewin, yn sicr o fod a'i ysgwydd o dan yr arch. Y mae wedi cael pob anrhydedd a all ei gyfundeb roddi iddo ond un, a diau nad yw ond aros hwnnw os estynir ei ddyddiau. Yn Awst, 1901, etholwyd ef i Gadair Cymdeithasfa y De, ac ni chodwyd nemawr un i'r gadair honno mor ieuanc o ran dyddiau. Mae Mr. Davies, fel lliaws eraill o brif bre- gethwyr Cymru, yn fardd a lienor o radd uchel. Cipiodd liaws o wobrwyon mewn eisteddfodau