Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

T. R. THOMAS & Co.,

Adgofion oV Gwyliau.

News
Cite
Share

<(yr hen gel gwyn) yn prancio fel ebolyn dwy-flwydd. Chwi welwch fod cwpan fy iapusrwydd yn llawn ac yn tori drosodd ADGOF HYFRYD OEDD Y SUL CYNTAF. Hen gapel anwyl a seti fel boxes mawr; ipregethwr o ganol gwlad dim organ fel yn Llundain, ond dim llai yr hen gapel serch hyny; lie yr oeddet yn teimlo, fy nghyfaill, fod y lief ddistaw fain wedi seinio ynddo lawer gwaith! Hapusrwydd oedd yr Ysgol, ac hefyd oedfa'r nos a chwestiynau yr hen bobl. Yn ystod y pythefnos a basiwyd, cymer- odd cymaint o bethau le fel y mae'r adgof- ion o honynt yn tori dros fy nghalon FEL RHAIADR YN RHUTHRO ac yn bwrlwmu dros y creigiau tragwyddol. Bu'm yn pysgota yn afon Cothi; yn edrych ar Goleg St. David's, yn Llanbedr-Pont- Stepan; gwelais y Teifi ardderchog yn ym- droelli rhwng y dolydd bras; gwelais, hefyd, yr hen balas hwnw lie y lladdwyd mab anwyl yr hen Ficer Pritchard bu'm yn agos i golli dagrau pan yn rhoi tro i ardal Llanymddyfri, wrth feddwl uwch ben bedd "u per ganiedydd Cymru, ac wrth basio hen dy awdwr Canwyll y Cymry "-yr hen Ficer godidog! Ie, hyfryd oedd meddwl am yr hen gewri a godwyd ar lanau'r Ty wi, Bran a Chothi. Bu'm yn y llanerch hyfryd hono, Cilycwm, a phasiais hen gartref Mr. Daniel Williams, yr hwn sydd yn flaenor parchus yn jewin heddyw. (Mae mwy o dangnefedd yn ardal Ty-issaf, Mr Williams, nag sydd yn Cheapside, onid oes?) Tra yn yr ardal hon, gwelais gneifio rhyw ddwy fil o "ddefaid bach," a hoffwn ddesgrifio yr olygfa, ond y mae'r Golygydd yn rhy an- nhrugarog. Bu'm, hefyd, yn Ogof Tom Sion Catti ac yn Ystrad Fflur, heb son am Lanwrtyd a Llandrindod-" Mecca mas- nachwyr Llundain. Dyddorol iawn oedd yr hen ogofaau a wnaed gan y Rhufein- wyr rhwng Pumsaint a Chaio, a'r hen han- esion sydd ar lafar gwlad yn eu cylch hyd heddyw. Cynhelir Eisteddfod fawreddog y blynyddau hyn lie y bu byddinoedd god- idog Caesar yn troedio yn yr amser gynt. ',Gwlad y gan a'r delyn a'r englyn yn concro y cwbl, onide ? Cefais y fraint o fod yn yr OEDFA FENDIGEDIG hono, nas ceir ei bath yn unman ond yn Ng-hymru, sef un o'r cyfarfodydd gweddi hyny a gynhelir yn wythnosol mewn gwa- hanol ffermdai, lie y gwelid yr Hen Feibl Mawr a'r clasp yn cael dod i lawr oddiar y "u dresser" igoreu dim un llyfr hymnau, —mae'r hen bererinion anwyl yn gwybod u Pen Calfaria" yn rhy dda i deimlo angen hwnw-ac yna gweddi, na chlywir mo'i bath am wir deimlad a dawn gan flodau harddaf y Bala a Threfecca. Dyna un o'r adgofion Qiwyaf blasus. Bu'm yn yr ysgol fechan yn 7 pentref lie dysgais fy A B C, a lie dysgwyd y Parch Cunllo Davies, Dowlais. Hyfryd oedd galw i siarad a, "James y Siop," a chofi) am yr amser pan oeddwn yn grwtyn, ac yn gofyn am "haner pound o siwgwr nielyn" a phethau ereill. 'Roedd siop y gof a siop y crydd yn debating societies" fel arfer. Wrth geisio dangos hyawdledd naturiol darllenwyr y CELT yno, cefais lawer noson ddifyr ac adeiladol. Mae yna fil a mwy o adgofion ereill, a rhyw dro arall, feallai, ceir ychydig yn Thagor o honynt ond, ar hyn o bryd, rhaid boddloni ar ond un adgof arall yn unig, a .,Chewch chwi mo'r cwbl o hono 'chwaith, §an fod yna ranau o honi i aros byth yn ^ynwes yr ysgrifenydd. Dyma hi: hoffwn ^dywedyd wrthych fod Myfanwy Roberts, Plas-yDderwen yn un o ROSYNAU CYMRU. Mae Myfanwy yn bsrchen ar ddysg a dawn a phrydferthwch. Cafodd yr ysgrifenydd swil y fraint o gasl te yn y berllan (Dyna grampogau mae Myfanwy yn goginio!) a cherddodd dros y caeau yn nghwmni rhyw- 4111 tuagat hen ffynon yn tarddu o'r graig a chofiodd am lawer o tenors Llundain yn canu "Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi." Wyddoch chi beth, mi fyddai Myfanwy yn edrych yn iawn yn sedd flaenaf Jewin neu Charing Cross, ond mi gadwn hi fel yna'n awr, er mi fyddwch yn deall mai hon ydyw yr adgof ddiweddaf, ac felly y fwyaf bles- erus ac hefyd y fwyaf pwysig. AMSER SAL OEDD Y DYCHWELIAD, ac, am hyny, tvnwn fantell drosto. R)edd mwg Euston Road a sulphur yr 11 under- ground yn cytuno dim ag awyr glanau'r Tywi nag a mwyniant y te yn y berllen. Dim 'chwaneg o Cromer a Brighton-ardal Williams Pantycelyn a Glan- yr-anell-fech an i'r bachgen hwn.—T. P. LEWIS, 68, White- cross Street, E.C.