Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Adgofion oV Gwyliau.

News
Cite
Share

Adgofion oV Gwyliau. CYSTADLEUAETH Y "CELT." Dyma gystadleuaeth ddifyr a da. Y mae yn eglur fod y cystadleuwyr wedi cael amser hapus dros ben, ac, a barnu oddiwrth yr .ysgrifau, y mae yna haid go hapus o wyr ieuainc ar ol yr amser doniol a gawsant yn Nghymru. Daeth 14 o bapyrau i law, a'r rhai hyny oil wedi eu hysgrifenu mewn dull rhagorol. Dengys hyn fod y cystadleuwyr yn ymarfer a'r Gymraeg, er eu bod yn mhell o'u cartrefi, y mwyafrif o honynt; a rhaid eu canmol hwy am barchu iaith a lien gwlad eu tadau. Ond, yn eu gwahanol ddesgrif- iadau o'u gwyliau, y maent yn rhy benagored. Gormod o'r amhenodol sydd ynddynt; a des- grifio'r lleoedd yr ymwelwyd a hwy, yn hytrach na rhoddi portread o'r cymeriadau a geir yn yr hen wlad. Tawelwch y llan- erchau, prydferthwch y bryniau, adgofion yr hen fagwyrydd, a'r cyffelyb, sydd yn myn'd a bryd yr ysgrifenwyr yn hytrach na donioldeb y bywyd gwerinol, symlder y wlad, straeon y pentrefi, a digwyddiadau y teulu, y rhai a glywir son am danynt bob amser pan ar wyliau haf. Rywfodd neu gilydd, nid oes ond rhyw ddau neu dri o'r cystadleuwyr wedi gweled Llundeinwr arall yn ystod eu teithiau. Y mae hyn yn syndod Aeth yr ysgrifenydd i Aberystwyth un diwrnod, a gwelodd yno ddeugain o'r Llundeinwyr, mor llawen a'r gog. Ddiwrnod arall aeth i Lanwrtyd, lie y cafodd tua dau ddwsin o'i gyd-ddinasydd- ion; ac yn unigedd bryniau Caerfyrddin, yn mhell o swn y byd a'i helyntion, gwelodd Mr. Davies, Jewin, yn pregethu, a rhyw ddwsin o'i ddefaid arferol yn gwrando arno I Yr odd plant y ddinas yn mhob parth o'r wlad, ond ychydig o sylw a rydd y cystad- leuwyr hyn iddynt. Dim ond hunan-fwyn- iant a groniclir yma. Enwau y 14 ydynt: Ap Towy, Hwntw Cymro, Mor-awel, Dafydd Ddwywaith, Hir- aethus, Gwilym Meirion, Llethian, J.J. R., Wern Trefan, Llewelyn, T. P. Lewis, Hen Wladwr a Gwladgarwr Mwy. Y ddau oreu ydynt eiddo Wern Trefan a T. P. Lewis.' Y mae un yn ddoniol a'r llall yn hanesyddol, ond y ddau yn rhy was- garog i enill y gamp y tro hwn; felly, rhenir y wobr cydrhyngddynt. Cyfeiriad Mr. T. P. Lewis yw, 68, Whitecross Street, E.C., ac os enfyn Wern Trefan ei enw a'i gy- feiriad, caiff yntau ei ran o'r pres. AR FINION TIR EIFIONYDD. Ar foreuddydd tawel yn niwedd mis Gor- phenaf 1904, cychwynais i orsaf Padding- ton a'm calon yn orlawn o lawenydd wrth adael berw a dadwrdd Caerludd, a meddwl am gael treulio pythefnos, o leiaf, i sugno awelon mynydd a mor yn hen wlad y cym- anfiioedd. Gadawodd yr agerbeiriant yr orsaf yn brydlawn am chwarter wedi wyth, ac wedi prysur olwyno trwy wastadeddau Lloegr, daeth bryniau a mynyddoedd Cymru i'r golwg, yn gynar yn y prydnawn. Wedi teithio trwy ei dyffrynoedd a'i chymoedd neillduedig, a syllu ar y golygfeydd ymrith- ient fel breuddwydion o flaen fy llygaid dynesais at ODRAU MEIRION, a chroesais bont yr Abermaw uwch llanw r eigion. Yn y pellder gwelwn y Moelwyn fel Tabor yn y mynyddoedd a'r Panorama fel Carmel yn y mor a chamlas y Fawdd- ach yn ymestyn fel dol lyfndeg i fynwes yr hen Feirionydd. Ar ol hir absenoldeb clywn swn y mor ar draethelli Ardudwy a gwyliwn ei fan donau yn cwmanu'n mlaen ac ol ar hyd ei wyneb. Ar y ddeheu, dacw ddrws Ardudwy yn ym- agor o fy mlaen a safodd y cerbyd tan ar hyn gyferbyn a Chastell Harlech, a gwelwn fod oesoedd wedi gadael 61 ei llaw yn drwm arno. Prysuro yn mlaen hyd odrau Pen- rhyndeudraeth (ys dywedodd Havhesp) a chyn cyrhaedd glanau Madog, dacw yr hen Eryri yn dod i'r golwg, a'r Wyddfa gyr- haeddfawr, yn uwch o'i hysgwyddau i fyny na'r un o'i brodyr. Cyn pen ychydig, daeth diwedd y daith, a safodd fy nhraed unwaith yn ychwaeg ar finion tir Eifionydd' yn NGORSAF CRICCIETH. D) wed traddodiad mai ystyr yr enw hwn jdyw Cri-certh "-gofid y rhai a ddiangas- ant o Gantre'r Gwaelod pan y gwelsant eu tref wedi ei gcrlifo. Mae yma hen gastell henafol, ac y mae yr olwg a geir o'i ben, ar y wlad a'r mor oddiamgylch yn hynod o ddeniadol, rhyfedd y cynydd sydd wedi cymeryd lie yn y dref brydferth hon y blyn- ycdoedd diweddaf. Telir ymweliad a'r fan yn flynyddol gan luoedd o ymwelwyr o bob parth o'r deyrnas. Yma y mae cartref D. LLOYD-GEORGE, YSW., A.S., ac ychjdig islaw y dref, ar fin y mor, y mae ei breswyliod. Rhyw filldir a haner oddiyma yn nghyf- eiriad Pwllheli y mae pentref gwledig LLANYSTUMDWY, a chyfeiriais fy nghamrau tuag yno, gan mai djma'r fan y bwriadwn osod boelion fy mhabell i lawr. Cefais lety cysurus gydag un Evan J ones- blaenor y gan yn ngbapel Anibynol y lie. Yn y pentref hwn y treul- iodd Lloyd-George ddyddiau ei fachgendod, a bydd y lie, ac yntau, yn gwlwm wrth eu gilydd tra yr hardda irlas goed lenydd y Ddwyfawr loyw. Gwelais ei hen gartref a chymerais hynt hyd lanau yr afon Ddwy- fawr-swn rhaiadrau pa un ddadebrodd y galluoedd hyny yn mynwes 1 Parnell Cymru' amlygir heddyw pan y tarana dros iawnderau ei wlad o'r tu fewn i furiau St. Stephan. Dyma olygfeydd, ddarllenydd, hyd lanau Y DDWYFAWR: man i Gymro o Lundain dreulio ei wyliau; gweirgloddiau a dolcliroedd blodeuog; llwyni meillionog ar bob Haw, a'r tyner awelon yn chwareu inan-ddail y goedwig, a'r hen afon yn cordeddu drwy eu canol nes gwneyd y lie yn rhyw fath o Eden ddyfradwy. Yr oedd y nawnddydd a dreuliais yma yn ddigon o dal am ddod o Gaerludd i'w gweled. Dranoeth, ar ol boeubryd, aethum ar wibdaith i gyfeiriad y RHOSLAN, lie bu Hughes Tegai yn gweinidogaethu ar y chwith yma, y mae y Bettws Fawr, hen gartref Ap Gwilym Ddu, awdwr Mae'r gwaed a redodd ar y Groes"&c.,ac heb fod yn mhell oddiyma y mae'r Gaerwen, lie bu Dewi Wyn yn nyddu ei awdlau adfarwol. Wedi teithio ychydig daethum at hen balasdy Plashen, lie y dywedir i Hywel y Fwyall fod yn byw, ac ar ei gyfer dros yr afon Ddwyfach y mae Castell y Gwynfryn, preswylfod Syr Hugh Ellis, Nanney. Y mae pont heb fod yn nepell oddiyma a elwlr Pont Rhyd y Croesau, ac odid y gwelir man mor gauedig gan goed a'r lie hwn, o'r braidd y gall haulwen haf anfon ei belydrau rhwng y dail, a phan y gwna, bydd yn rhaid i'r awel chwalu y Ileni. Rhyw ddeng munyd o gerdded a'm dygodd i le a eilw y trigolion yn Ben y Groeslon, a'r olygfa a gefais oddi- yma ddeil i'w cydmaru bron a'r olygfa o ben Nebo. Islaw y mae BAU ABERTEIFI. Yn y pellder gwelir bryniau Lleyn ac Ynys- oedd St. Tudwells fel efeilliaid yn y mor, trwyn yr Abermaw, Castell Harlech, a Moch- ras yr ochr draw, a Moel y Gest fel angel gwarcheidiol yn gwyliaw mynediad a dyfod- iad llongau Madog ar eu teithiau. Prinder gofod sydd yn lluddias i mi fyn- egu haner y digwyddiadau a'r golygfeydd awelaisjnyr ardal enwog y bu'm ynddi. Ehedodd yr amser fel gwenol gwehydd hyd o fewn diwrnod cyn fy ymadawiad o'r lie, a daeth y gwr caredig y lletywn gydag ef yn arweinydd i mi y diwrned hwnw. Cychwyn- asom yn foreu pan oedd swn eingion y gof pentrefol yn canu toriad y dydd. DynaV Felin Fach, hen gartref Camber Williams, Tydde^i; yn mlaen yn y coed y mae here ffermdy yr Aberkin lie y lladdwyd HYWEL AB MADOG FYCHAN gan John Owen ab John ab Meredydd. Wrtfe groesi caeau yr Aberkin y boreu hwnw, digwyddodd fod y tarw mewn tymer ddrwg,. ac fel pe am wrthsefyll ein hawl i fyned trwy ei diriogaeth. Wrth weled ei ystyfnig- rwydd, a gweled mai ofer oedd dadleu a'i fawrhydi corniog, ymddatododd y Iwynau, a chymerwyd y goes, trwy ddrain a mieri, dros y clawdd yn ymyl adwy, nes sangu o honom yn ddiogel o'i dir gwaharddedig. Cerddasom hyd linell y rheilffordd i AFON WEN. Dyma orsaf y Cambrian, unigrwydd pa un sydd yn ddiarhebol yn mhlith teithwyr. Oddiyno cerddasom i bentre bach Chwilog lIe y cyfanedda Myrddin Fardd, a gwelsom awdwr u Gleanings from God's Acre yn ef elfen. Tramwyasom Llanystumdwy cyn y nos ar ol treulio diwrnod hynod ddifyrus. A rhaid oedd parotoi gogyfer a chychwyn boreu dranoeth yn ol i'r brifddinas a phan oedd haul y nen yn yfed man-wlith y boreu cefais fy hunan yn canu'n iach i'r golyg- feydd, a chyn machlud o hono yr oeddwn yn ol drachefn yn Nghaerludd, wedi derbyn, nerth ac adnewyddiad er pan ymadewais o honL-WERN TREFAN. HEN GAERFYDDIN GARAF FII Gwyliau haf 19041 A'u hadgofion i gael eu cofrestru mewn dwy golofn o'r CELT Mr. Golygydd anwyl, a ydych chwi'n meddwl fod dwy golofn oer o "printer's ink"yn ddigon i Gymry ieuainc Llundain i dori maes mewn gorfoledd wrth feddwl am y dyddiau hyfryd? Byddai'r papyr ei hun. yn llawer rhy fach Ond rhaid gwneyd y goreu o'r gwaethaf, onite ? Wel, dyma hi, am agor a dangos cyfrinion y galon hon. DYDD SADWEN, fel rheol, yw adgof gyntaf ac hapusaf y Cymro Llundeinig ieuanc. Dyma'r dydd y cychwynir, fel rheol, ac mae'r contrast rhwng y Sadwrn a'r Gwener yn yr wythnos hon yn rhoddi pwys arbenig iddo ef. Cychwynais i--fachgen diniwaid, yn ceisio dysgu cyfrin- ion masnach yn un o warehouses mawr y Oity-un Sadwrn braf yn Awst i Euston, gan ofyn am docyn i Llamymddyfri—lie ag sydd wedi ei ysgrifenu mewn llythyrenau bras yn hanes Cymru. Cyrhaeddwyd tref y Ficer Pritchard a'r hen" Bantycelyn yn gynar nos Sadwrn. Er fod dolydd hyfryd glan y Towy, a'u mheusydd breillionog, a miwsig yr adar yn y goedwig yn gaiw yn uchel am ychydig o amser y Llundeinwr llesg, heb son am adgofion o'r hen goleg anwyl lie codwyd llawer o fechgyn ag ydynt heddyw yn addurno cyfraith a chrefydd, ysgoloriaeth a meddygwriaeth, yr oedd yna lais mwy swynol yn galw arno i frysio tuagat yr hen ffermdy anwyl ar y llecyn rhyw filldir c Caio-pentref Dafydd Jones yr emynwr- pentref Crugybar, cryd Methodistiaeth, ac yno y brysiwyd. Cefais' ride' mewn I gambo gyda Dafi,' coachman' y Dolau, canys nid oeddwn wedi hysbysu neb o fy nyfodiad. Syndod pleserus oedd hyn i fod. 'Roedd Dafi'n ddoniol iawn. Yr oeddwn yn gwybod y cwbl yn mhen dwyawr: am naenoriaid newydd Capel Caio y fath gae o wenith oedd gan fy nhad eleni; faint o foch oedd Joseph, gweithiwr Penlan, wedi werthu yn nghyd a hanes pob carwriaeth, pob priodas, a phob marwolaeth yn y llanerch I Ondr o'r diwedd, gwelwn yr hen ffermdy anwyl. Dyma adgof fendigedig ydyw hon Mamr druan, a'r dwr yn tasgu o'i llygaid, yn rhoddi croesaw i'r "boy" o Lundain, a'r cryts acw yn holi fath le ydoedd. Cof- iwch, hefyd, fod cawl wedi ei ail-dwymo n i swper, bod Carlo (yr hen gi) yn fyw o hyd ac yn agos o'i go' gan lawenydd pur, a Boxer-