Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

FFARWEL I

News
Cite
Share

FFARWEL I UNIAD Y "CELT" A'R LONDON WELSHMAN." Bydd yn syn ac yn flin gan ganoedd Ulywed mai hwn fydd y copi olaf gyhoeidir 0 GELT LLUNDAIN. Mae'r CELT wedi ym- drechu ymdrech deg ac wedi gwneyd, ni gredwn, wasanaeth nid b/chan i Gymry Llundain yn ystod y deng mlynedd di- weddaf. Llawer gwatth cyn i'r CELT gael ei gychwyn, gwnawd ymirech i sefydlu papyr wythnosol er gwasanaeth i Gymry'r brifddinas ond methu waaeth pob antur- laeth o'r fath. Yn mis Ionawr 1895, cych- wynwyd y LONDON KELT gan Mr. T. J. Evans ac ychydig gyfeillion fel papyr dwyieithog. Vn tnis Medi 1896, sefydlwyd cwmni new- ydd i'w gario ymlaen, trowd y CELT yn bapyr Cymraeg o glawr i glawr, bu'r ysgrifenydd yn ei olygu am ryw ctl we' mis, ac ar ol hyny daeth Mr. T. J. Evans yn ol i'w hen gadair ol- ygyddol. Ni fyddai'n weddus i ni ddyweyd gair am waith a gwasanaeth a dylanwad y 'CELT yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf and credwn y galtwn, gyda phriodoldeb, ddyweyd cymaint a hyn. Mae wedi bod yn gyfrwng i uno Cymry'r Brifddinas at eu gilydd, i'w gwneyd yn fwy adnabyddus o'u Silydd, ac hefyd, ni obeithiwn, i'w gwneyd yn well Cymry, yn fwy iaithgarol, llengarol a gwladgarol. Os ydym wedi llwyddo i wneyd hyn, yr ydym wedi ateb dyben ein bodolaeth," a thra boddlon ydym i ganu ein" Nunc Dimittis," fel Simeon gynt. ———— Yr ydym yn gosod ein heinioes i lawr, nid o angenrhaid, ond o lwyrfryd calon. Fe wyr ein darllenwyr fod y Mri. Harrison, St. Martin's Lane, wedi penderfynu cyhoeddi wythnosolyn newydd i Gymry Llundain dan yr enw," THE LONDON WELSHMAN," Y Parch J. Machreth Rees, bardd cadeiriol Eisteddfod y Rhyl eleni, ac un o lenorion gwychaf ein cenedl, fydd y gol yg-ydd, a sicrheir ni y bydd y LONDON WELSHMAN yn bapyr teil- wng o Gymry Llundain. Teimlem, dan yr amgylchiadau mai anoeth fyddai i ddau bapyr Cymraeg ymladd a'u gilvdd yn Llun- dain, ac ofnem mai'r canlyniad fyddai llawer o "ddigasedd a phob anghariadoldeb," ac efallai marwolaeth y ddau bapyr yn y di- wedd. Nid oeddem erioed wedi meddwl na bwriadu gwneyd arian o'r CELT. Ein hunig amcan oedd cael papyr Cymraeg oedd yn talu ei ffordd. Gan mai meddyliai o hedd a goleddem ni, nid anhawdd oedd i wr mor dangnefeddus a siriol a Machreth ddod i delerau teg a ni. Yr wythnos hon daethpwyd i gydwelediad, ac ar ol heddyw bydd CELT LLUNDAIN wedi ymuno yn y LONDON WELSHMAN." Ond er mai o'n badd yr ydym yn gwneyd hyn, nid yw'n anaturiol ein bod yn teimlo'n flin wrth ffarwelio â,'n hen d darllenwyr a'n cyfeillion. Yn ystod y deng mlynedd o'i fywyd, mae'r CELT wedi gwneyd Uu o gyf- eillion, wedi gwasanaethu llawer achos, ac wedi gwneyd caredigrwyddadegauo Gymry tylawd y brifddinas. Ni ofynoid ac ni chwenychodd dal gan neb am garedigrwydd, ac, o'r ochr araU, gwasanaethwyd iddo gan ugeiniau o ohebwyr yn rhad ac am ddim. Ni thalwyd dinau i neb am erthygl na pharagraph na chan. Gwirfoddolwyr oedd yr oil o'i ohebwyr. Rhoidodi Mr. T.J. Evans oriau lawer bob dydd a phob wythno3 i'w wasanaeth, ac ni dderbyniodd dal na gwobrwy o fath yn y byd. Credwn fod Cymry Llundain dan rwymau mawr i Mr. Evans am ei ffyddlondeb diflino, a'i hunan- aberth parhaus. Nis gwyddom am neb arall fyddai wedi gweithio fel y gwnaeth ef, ddydd ar ol dydd, a blwyddyn ar ol blwyddyn,—yn unig am ei fod yn "caru ein cenedl ni." Teimlwn ein rhwymedigaeth personol i Mr. Evans am ei sirioldeb dan bob amgylchiad, ei garedigrwydd dihafal, a'i amynedd didolc. Yn ystod ein bywyd, daethom ar draws llawer math o ddyn, a buom yn cydweithio a degau ac ugeiniau o wyr y wasg yn Lloegr a Chymru; ond o bawb adnabyddom erioed, ni welsom gym- rawd ffyddlonach na chyfaill mwy dilwgr na Golygydd y CELT. Wrth difla ein meii vl ya ol dros yr w/th mlynedd diweddaf, rhuthra i'n cof eiw llawer un wnaeth gymwynas a charedigrwydd i'r CELT. Mie'r rhun f.vvaf o hoiyit eta ar dir y byw,—Mr. J. EI. Davies, Blfed, y Parch. D. C. Joies, y Parc i. J. E. Divies, M.A. y Proffeswr Lewis Janes, y Proffeswr Anwyl, Eilir, Watcyn W/n, Mr. David Rhys, Mr. R. Morris Lewis, Dr. Morgan Divies, Pair Alaw, Mr. Tudor Rtlys, Mr. Winton Evans, a llawer ereill nas gallwn eu henwi ymil. Iddynt hwy oil dymunem dalu ein diolchgar- wch llwyraf am yr hyn a wnaethant erom. Diolchwn hefyd o galon i Mr. Isaac Davies am ei wasanaeth fel cyssodydd, a. gohebydd, yn ogystal a golygydd. Llawer wythnos bu raid iddo ef ein gwasan- aethu fel cyssodydd, gohebldd, a golygydd, a blin iawn genym feddwi fod ein cysylltiad dedwydd ag ef yn ca.el ei dori heddyw. Mae gair o ddiolch hefyd yn ddyledus i Mr. Grellier a'i Fab, y rhai fuont yn wir ffyddlon i'r papur, ac a'i argraphasant yn ddirwgnach am yn agos ddeng mlynedd—mewn gair ni chawsom ond sirioldeb a chymhorth ym mhob man, ac nid oedd 11 d-I y wasg mewn bod ond yn nychymyg Bardd Bach yr Oftis I Un gair arall. Teimlaf y dylem ni, Gynvy Llundain, wneyd rhywbeth i ddangos i Mr. T. J. Evans ein bod yn cydnabod ei waith hunanaberthol yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Bwriadwn ffurfio pwyllgor i drefni cinio gyhoeddus, complimentary dinner, i Mr. Evans, ac i gyflwyno tysteb iddo fel ar- ddangoseg bach o'n parch a'n hedmygedd a'n diolchgarwch. Byddwn yn dra diolchgar os gwna'r rhpi hyny o ddarllenwyr y CELT sydd yn cydweled a'r syniad ymohebu a ni yn Lamb Building, Temple, E.C. Ac yn awr, am y tro diweddaf, ffarwel! LLEWELYN WILLIAMS.

Trefnu'r Gadoedd.