Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Nodiadau Achlysurol.

News
Cite
Share

Nodiadau Achlysurol. O'r cylchgrawn bychan y cyfeiriwyd atto yn ein Nodiadau diweddaf, sef" Yr Ar- weinydd," fe gyhoeddwyd dwy gyfres, y naill o dair cyfrol (1862-'64), dan olygiad y Parch. Thomas Edwards, Penllwyn, a Griff- ith Davies, Aberystwyth a'r llall o chwe' chyfrol (1876-'81), dan olygiad y Parch. Llewelyn Edwards, M.A. Fel misolyn bychan ceiniog, a hwnnw yn un a gy- hoeddid dan nawdd un enwad neillduol, sef y Trefnyddion Calfinaidd, fe saif H Yr Arweinydd yn uchel iawn, os nad yn uch- af, ymhlith cyfnodolion cyffelyb pa amser bynag, ar gyfrif dyddordeb a gwerth arosol ei gynnwys. Gweir iddo farw yn niwedd 1864, adgyfodi ymhen deuddeng mlynedd wed'yn, yn 1876, a marw drachefn yn 1881 ond er trengu o hono ddwywaith, y mae efe etto yn lleiaru swm a sylwedd erthyglau oedd yn chwanegiad pwysig at ein llenydd- iaeth dduwinyddol. Pa gyhoeddiad o gy- ffelyb faint a phris, mewn unrhyw gyfnod, a all ymffrostio mewn cynnifer o ysgrifau gallucg gan brif feddylwyr y genedl? Ym mhlith y rhai hyn fe ddylid rhoddi y lie blaenaf i bennodau lliosog y Parch. D. Charles Davies ar Epistol Cyntaf loan, ac eiddo Dr. Lewis Edwards, y Bala, ar Berson Crist, dwy gyfres a gyhoeddwyd wedi hynny yn llyfrau ar wahan. Ond heblaw y rhai hyn, y mae eraill yn Yr Arweinydd o ddyddordeb mawr, ac attynt hwy yn bennaf y dymunem gyfeirio yma. Un o'r cyfryw ydyw erthygl y Prifathraw T. Charles Ed- wards er cof am John Jacob, un o'i efryd- wyr ef yn Ngholeg Aberystwyth a dorrwyd i lawr yn wr ieuanc pan nad oedd efe wedi pregethu ond rhyw bum' gwaith neu chwech. Golygfa annghyffredin a phrudd-swynol a gawn ni yma, sef gwr o enwogrwydd o'i wirfodd, heb unrhyw gymhelliad ond a ddeiliai o'i natur fawrfrydig ef ei hun, yn ymostwng yn ddirodres i dalu gwarogaeth i fachgen dinod, ond addawol, a hoffid ac a edmygid ganddo oherwydd ei gymmeriad pur a'i lwyr ymroddiad at waith y coleg dan anfanteision a lethasai un o yspryd llai pen- derfynnol; ac y mae hyn yn cael ei wneyd mewn iaith fyw o deimlad a hyawdledd a gywilyddiai lawer pryddest goffadwriaethol, fel mai anhawdd fyddai penderfynnu pa un ai i ben ai i galon ei hawdwr dysgedig y dylid rhoi'r clod mwyaf. Dyma ddyfyniad neu ddau:— Nid wyf yn sicr fod John Jacob wedi ei gynysg- aethu a galluoedd meddyliol anghyffredin. Ond rhaid cydnabod fod natur wedi ei wneyd yn hardd anar- ierol. Yr oedd ei enaid a'i gorff fel pe wedi eu llunio, nid 0 glai afrywiog, ond o'r rhuddin puraf. Y mae yn demtasiwn i ddychmygu fod enaid rbai dynion Wedi ei gyfansoddi o'r clai y gwnaed eu corff o hono. Yr oedd John Jacob yn un o'r dynion hynny y gallem bron gredu am danynt fod y corff wedi ei ffurfio o'r Un defnydd tryloew a'r enaid. Nid yn fynych y gwelid bachgen prydferthach. Ond yr hyn a'i gwnai yn hardd oedd fod y llvgaid mawr gleision, y talcen ilydan, y wyneb main, y cnawd gwyn a llyfndeg fel cnawd plentyn, gonestrwydd yr edrychiad agored, a thynerwch gwylaidd y gosodiad, yn eich argyhoeddi ar unwaith fod enaid pur, craffus, penderfynol, ac addfwyn, yn edrych arnoch trwyddynt." • • Digon tebyg fod y darllenydd yn barod i ddyweyd fy mod wedi gadael allan o'r darlun ddiffyg- ion ei gymeriad. Diau fod ynddo yntau wendidau a phechodau. Ond nis gwn i beth oeddynt. Ac nid peth bach i'w gredu a'i adrodd ar ol marw neb ydyw hyn, fod y rhai a'i hadwaenent heb wybod ei wen- didau. Nid oes dim yn argraffu ar fy yspryd argyhoeddiad llwyrach a mwy grymus o'r gwirionedd annhraethol bwysig fod byd ar ol hwn, ac y bydd pob un yn parhau yno yn ei gymeriad moesol a ohyfeiriad ei ddylanwad yr hyn ydyw ar y ddaear, na bywyd anorphenol, fel hanes pruddaidd a ded- wydd ein diweddar gyfaill ieuanc John Jacob." Nid yn guddiedig ar dudalenau cylchgrawn prin fel Yr Arweinydd y dylid gadael yr erthygl hynod hon, a brysied rhyw olygydd i'w hail-gyhoeddi a'i gosod yn nghyrraedd darllenwyr yr oes hon ac oesau a ddel. Un arall o'r erthyglau a nodasom ydyw nn Dr. Lewis Edwards er cof am Mrs. Davies, Aberystwyth, sef mam y Parch. David Charles Davies, a nain y Ilenor a'r hynafiaethydd adnabyddus, Mr. J. H. Davies, M.A., Cwrt Mawr. Gellid dyfynnu o hon etto, ond ni oddef ein gofod ini wneyd hynny. Hawdd yn wir a fyddai credu, ar sail tystiolaeth gwr llai enwog a chraff na Dr. Edwards, mai gwraig ami ei rhinweddau ac un o alluoedd tra anghyffredfn ydoedd mam y Parch. David Charles Davies, yr hwn a safai yn uchel yn rheng flaenaf duwinyddion a meddylwyr ei oes, a phwy a ddywed mai digynyrch o feddyliau disglaer oedd ei oes ef ? Gallem sylwi ar amryw ysgrifau ereill a adawodd argraff ar ein meddyliau wrth droi tu-dalennau y misolyn byehan rhagorol hwn, ond ymfoddlonwn ar un yn unig, sef John Elias yn Sassiwn Llanbebr-Pont-Stephan, yn y flwyddyn 1829," gan Kilsby, yr hon hithau a gaffai ddarileniad eang pe yr ad- gyfodid hi. Teilynga desgrifiad bywiog Kilsby o'r hwn a eilw efe yr unig rhetoric- ian, a fagodd Cymru erioed" ei osod ochr yn ochr a darluniad mwy adnababyddus Gwalchmai o'r un gwrthrych ac y mae hi yn ffaith led hynod mai i'r ddau weinidog Annibynol hyn yr ydym yn ddyledus am y darluniadau goreu sydd ar gael o bregethwr, pa mor fawr bynnag, oedd y tu allan i'w henwad neillduol hwy eu hunain. Oddiar esgynlawr a godasid ar y common y pre- gethai Elias, "ac nis gwelais," medd Kilsby, o hynny hyd yn awr ar gyfryw achlysuron y fath dorf liosog." Mae'r canu drosodd, ac yna mor ddisymmwth a bollt o daran y mae meistr y gynnulleidfa yn gwneyd ei ymddangosiad. Teifl olwg frysiog dros y lliaws; mae ei wyneb yn llawn pryder, ac y mae pob tenyn mor d)'n nes bron yn ymyl tori. Darllen ei destyn gyda phwyslais ag oedd bron yn banner esponiad ar yr adnod. Testyn y bregeth oedd Duwdod Grist; a chan fod Undodiaeth yn ffynu yn nghym'dogaeth Llanbedr, y mae yn ddigon tebygol i drefnwyr y Gymanfa roddi awgrym amserol i Mr. Elias i bre- gethu ar y pwnc." Yna hyspysir ni fod yn eistedd yn un o'r cerbydau agored, oedd yn agos i'r esgyn- lawr, athrawon Coleg Dewi Sant, sef Dr. Llewelyn, wyr yr enwog Jones o Langan Proffeswr Rice Rees; a Dr. Oliphant, wedi hynny Esgob Llandaf. Yn ystod y bregeth y mae yr areithiwr hyawdl yn cynnyg ad- gyfieithiad o ryw adnod, ac ebai ef, Mae'n dda gennyf feddwl fod yn bresennol ysgol- heigion dysgedig a fedrant farnu a ydyw y gweliiant yn unol deddfau yr iaitb a'i grammadeg; ac yna, gan wneyd ei foes fel Courtier, cyfeiriai ei lygaid eryraidd at y cerbyd a gynnwysai bennaethiaid y coleg. Hwythau yn eu tro, fel Courtiers, a blygasant eu pennau fel arwydd o'u cymeradwyaeth." Mae'r bregeth drosodd; nid oes ganddo ddim i'w wneyd yn awr ond tynu dau gasgliad. Yn gyntaf, os ydym ni, y Trindodiaid, fel y'n gelwir, yn gwyro, yr ydym yn euog 0 eilun-addoliaeth." Ac yna yn ei ddull diymhongar ei hun, adroddai restr o'r bygythion mwyaf dychrynllyd a geir yn yr Hen Destament yn erbyn eilun-addoliaeth, a chanlynid hyn trwy enwi rhestr arall o'r barnedigaethau trymaf a chwerwaf a weinyddwyd gan Arglwydd Dduw Israel oherwydd y pechod gwaeddfawr hwn. Yn ail, o'r tu arall, os ydym ni yn uniawn-gred, pa beth a ddywedaf am ein gwrthwynebwyr r" Yn fy ymyl y safai dau neu dri o Undodwyr, ac nid cynt y clywsant eiriad yr ail gasgliad nag y sisialai un yn nghlustiau ei gyfeillion,—" 'Nawr am dan uffern dyna lie y cawn ni ein danfon, 'y mechgyn i." Ymddangosent yn eithaf cellweirus, pres-wyneb, a heriawl, ond ar yr un pryd yn astud i'r eithaf, fel drwg-weithredwyr yn disgwyl clywed cyhoeddi eu dedfryd. Mae'r pre- gethwr yn ymddangos fel gwr a deimlai ei ymysgar- oedd yn terfysgu fel tdnnau'r mor; mae ei wefuaau yn crynu fel dail yr eithinen, a thynerwch yn ym- gasglu yn nghonglau ei lygaid mawrion. Mae ei fynegfys main prydferth yn gwau yn ol ac yn mlaen fel gwennol gwehydd. Mae yn ymddangos fel pe ar dorri gan eisieu dweyd, ao etto yn methu dweyd. Sut y medraf osod allan gyflwr y bobl hyn. Yr wyf yn ofni "-(attal dweyd drachefn, a'r bys yn chwareu yn ol ac yn wrthol gynymach-gynymach)—" yr wyf yn ofni"—(actal dweyd drachefn a'r bys drachefn wrth ei waith, yn cael ei ganlyn gan ochenaid a. gyrbaedda waelodion ei natur)—" yr wyf yn ofni eu bod yn cyfoiliorni 11" Digwyddais edrych i wyneb yr Undodwr cellweirus, a chlywais ef yn sisial wrth ei gyfeillion,—" Fechgyn," a'r deigryn wedi hanner rhewi yn nghil ei lygaid,—" fechgyn, mae hyna yn ofnadwy," oblegid yn nghyfrif Undodwyr eu hunain nis gall dim fod yn fwy peryglns na gau-atrawiaeth. Po. Ie mae y pregethwr ? Wedi diflanu fel mellten, a'r gynnulleidfa wedi ei tharo gan syndod a dychryn. Yr ydym bellach wedi dweyd a dyfynnu digon i brofi'r hyn a ddywedasom ar y dech- reu am Yr Arweinydd," yr hwn oedd yn anrhydedd i'w olygwyr, a thrwyddynt hwy i sir Aberteifi. Argraffwyd a chyhoeddwyd ef yn Aberystwyth, ac o ran ei argraffwaith a'i ddygiad allan efe a ddeil ei gymharu ag unrhyw gylchgrawn cyffelyb a ddeilliodd o'r wasg Gymreig. Coffa da am dano ac am y gwyr enwog a da a gyfoethogodd ei ddal- ennau a'u hysgrifau gwerthiawr. Y mae golygydd y gyfres ddiweddaf, sef y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., etto gyda ni, ac yn parhau yn ei ddefnyddioldeb, ond yn sicr ni lanwodd efe unrhyw sefyllfa erioed gyda mwy o anrhydedd iddo ei hun na phan y safai efe wrth lyw Yr Arweinydd.H. Gwelliant Gwall.—Yn y paragraff olaf ond un yn ein Nodiadau" diweddaf, darllener cyfaddasiadau yn lie cyfansoddiadau." Cyfeirio yr oeddym at donau wedi eu cyf- addasu at fesurau gwahanol i'r rhai y perth- ynent ar y cyntat, ac y mae eu henw yn Lleng."

Advertising

Oddeutu'r Ddinas.