Hide Articles List

2 articles on this Page

Nodiadau Achlysurol.

News
Cite
Share

Nodiadau Achlysurol. Anfynych iawn y ceir tonau Cymreig mewn casgliadau Seisnig. Nid yw hyny yn peri ini feddwl dim llai o'n tonau, mwy nag o iai Seis- nig am na welir hwythau mewn casgliadau Ellmynnigyrunmor anfynych. O'r ocbrarall, ni feddyliwn yn uwch o ambell don Gymreig am iddi gael lie mewn llyfr 16nau Seisnig. Yr un cedd ein barn am y don Caeisalem vedi i S} r Arthur Sullivan ei rhoddi i mewn yn ei l)fr a chyn bynny. Ond yr hyn a ach- lysurodd y sjlwadau h)n ydyw ymddangcs- iad tair Ion o'r eiddom y n nghasgliad y Wes- ley aid Seisnig, sydd newydd ei g) hoeddi, sef 4' Aberystwyth," gan Dr. Joseph Party; Hyf- rjdol/gan R. H. Pritchard y Bala; a Brjn Calfaria," gan W. Oven, Piysgolj )r olaf gyda'r ncdiad hwn wrtbi,—" Sung in Wales to the words Guaed y Groes." Fel y gallesid disgwyl, ni chjffyrddcdd y golygydd- Syr Frederick Bridge, fig alaw na chynghanedd y flaenaf, ond efe a i gadawoèd hi yn hollcl ftl y daeth hi o ddwylaw Dr. Parry. Ar y Heill gellir canfod 61 Haw oljg)ddol Syr Frederick ond yn y cyfan efe a arddengys fedr a barn. Yn Mryn Calfaria y cwbl a wneir ganddo ydyw jchydig gyfnewidiad doeth yn y cynghaneddiad. Yn ei waith ar y don Hyfrydol,' fodd bynnag, ni a gan- fyddwn gynganeddiad hollol newydd, a chyf- newidiadau bychain yn yr alaw gyda hynny. Er mor wrthwynebol ydym i ymyrriad ag alawon, yr hyn a deimlwn wrth sylwi ar y cyfnewidiadau prinion hyn yn alaw Hyf- rydol" ydyw, gofal eiddigus Dr. Bridge am gadw mor agos ac y gallai efe at ffurfiau gwreiddiol alawon; ac yn hyn y mae efe yn rhoddi esiampl ragorol i olygwyr llyfrau ton- au. Y mae ei gynghaneddiad o'r don hon yn effeithiol, a thra chyfaddas i gynnulleid- fsioedd. Diammeu fad llawer Cymro cerdd- orol nas gwyr am gynghaneddiad gwych oedd genym ni eisoes o d Hyfrydol" gan un o'n cenedl ein hunain, sef y diweddar Mr. W. J. Hughes, B.A., y Rhyl. Y mae trefn- iadau rhyw ychydig o'n hen donau o v neuth- uriad mor odidog fel ar ) r olwg gyntaf yr edd)f fob ceiddcr nad yw ei lygaid wedi eu pylu gan hunandyb neu lagfain eu rhagor- iaeth eitbriadol. Ac )n y dosbaith cyfyng- edig hwn yn nghwmni anrhydeddus trefn- iadau S) r F. Ouseley o Edinburgh," Syr John Stainer o Gaerllyngoed," a Dr. Joseph Parry o "Alexander," y gosodem ni" Hyf- r) dol" fel y gadawyd hi ini gan Mr. W. J. Hughes, ac "Alexander," wedi ei threfnu gan ) r un law gelfydd. Yn eu harddull, iodd b) nnag, fe vahaniaetha trefniadau Mr. Hughes o'r ddwy don a enwyd yn fawr. Dengjs y naill fel y Hall feistrolaeth ar ad- noddau cynghanedd yr un mor amlwg; ond prin y gtllir ystyried C) nghaneddiad Hyf- rydol" mor gynulleidiaol ei nodwedd ag eiddo Alexander," nac, yn wir, a gwaith Mr. Hughes yn gyffredin. Y mae cynghaneddiadau Mr. Hughes o donau Cymreig yn lliosog, ac y mae eu rhagoriaethau yn gyfryw ag y bwriadwn eto ddychwelyd attynt mewn erthygl arbennig. Anffodus ydyw eu bed yn guodiedig mewn casgliadau nad ydynt mewn arfeiiad cyffred- inol. Paham y gadawyd y fath drysorau Salmyddol allan o lyfrau diweddar sydd ddirgelwch na cheisiwn ni ei ddadrys, ond yn sicr nid am na ulddai eu golygwyr am veithiau Mr, Hughes, nac ychwaith oher- wydd unrh) w anallu cerddcrol i farnu eu teilyngdod uwchraddol. Rhoddodd Mr. Am- brose Llo)d le i amryw o honynt yn ei "Aberth Moliant," a phwy a lyddai yn ddigon ehud i ammeu cywirdeb a dcethineb ei lain ef? Ond nid mewn dinodedd yr erys y gcrchest-v. eithian hyn fe gyfyd etto yn Nghymru ddosbarth o olygwyr, teilwng ol- l ynwyr i Mr. Ambrose Llcyd, y ibai a ad- felant y cyfryw glassurcn Salmyddol, ac a'u gcscdant unwaith yn rhagor gerbron cy- hcedd a'u gwerthfawrogant ac a'u gwnant yn gyfryngau arosol o fawl. Llawer sydd ag y gallem ei ddywedyd am gjnvys cjfhecinrl y gyfrol hon, sef Llyfr Tcrau newydd y Wesleyaid yn Lloegr, ond nid dyma'r lie i adolygu yn fanwl gasgliad Seisnig. Etto gall sylw neu ddau ar faint a natur gwaith mor bwysig fod o ddyddordeb yma. Pan ddywedwn fod ynddo tua mil o dci au, ie welrr ar unwaith ei fed o ran hel- aethrwydd ei gynwys yn gyfr) w nas gall eiddo un enwad arall ymgystadlu ag ef o gwfcl. Fel) mhob casgliad ymron a gy- hoeddir yn awr y mae ynddo yntau gyfien- wad digoncl o'r tonau mwyaf cymmeradwy o bob ffynnonell. Ar yr olwg gyntaf a gym- merasom drwyddo, ni tharawyd ni gan lawer o bynodrwydd yn yr hyn sydd hollol new- ydd ynddo, er ei fod yn cynnwys cynnifer o donau a gyfansoddwyd yn arbennig ar ei gyfer. Er hynny ni a gyfarfyddwn ag am- bell don yn y llyfr sydd yn chwanegiad pwysig at Salmydaiaeth Lloegr, ac nis gall- wn ymattal rhag cyfeirio at un engraifft nod- edig, sef "jubilate," gan Syr Hubert Parry. Y mae yn hon holl elfennau ton fawr, wedi ei harfaethu i lyw. Ami yw ei phrydferth- ion, ac y mae hi yn orlawn o ddyddordeb i glust a Ilygad. Nid oes yma ddim o'r gor- felusdra afiach, merchedaidd hwnnw a nod- wedda gynnifer o donau Seisnig poblogaidd y coined presennol. Diffyg ceinder alawol nid oes ynddi, ond ceinder ydyw, llawn urddas a defosiwn. Prif ogoniant y don, wedi'r cwbl, ydyw ei gwisg gynghaneddol; ac yma y mae y meistr yn datguddio ei hun mewn cyfun- iadau cyfoeihog a S) mmudiadau tarawiadol na welir mohonjnt ond yn anfynych mewn cyfansoddiadau mor gyfyngedig a thon gyn- nulleidfaol. Un nodwedd arbennig i'r casgliad hwn, sydd yn ei wahaniaethu oddiwrth rai di- weddar eraill, ) d) w yr ymdrech a wneir ynddo i adgyfodi tonau a fwriwyd allan o arfer er's hanner can' mlw) dd bellach. Pe cawsai'r gwyr a wnaethant fwyaf tuagat sef- ydlu yr arddull sillafol mewn cerdaoriaeth gynnulleidiaol yn Lloegr a Chymru fyw i weled dadbl)giad fel hwn, pa beth a fuasai eu teimladau? Onid arswydo a wnaethai Havergal, Turle, Monk, John Mills a Ieuan Gwyllt wrth "eled" Calcutta," "Lingham," I I Cranbrook," a'r cjffelyb ) n ymgripio i gy- boeddusrw)dd unwaith yn rhagor, ac yn cymeryd eu lie ) n y casgliad diweddaraf o'r wasg Seisnig? Er y credwn ni fod y gwyr da uchod wedi myned i eithafion trwy gaethiwo yn ormodol lais y gynnulleidfa at donau sillafol, etto ni a gredwn yr un mor gryf mai yn yr ebargofiant y syrthiasent iddo y dylesid gadael y tonau hyn a groch- floeddid gan ein cyndadau. Dylid dweyd nad oedd a fynno Dr. Bridge ddim ag ym- ddangosiad y cyfryw ddosbarth o gyfansodd- iadau mewn Ilyfr ag yr oedd ef yn olygydd iddo, ond mai pwyllgor oedd yn gyfrifol am yr holl ddetholiad. Ni fu gennym ni erioed nemmawr ffydd mewn pwyllgorau at y fath waith a hwn, ac yn sicr ni chwanegwyd dim atti wrth droi dalennau'r llyfr hwn. Y mae dwy don yn y llyfr a ddylai fod o ddyddoideb neillduol i Gymry, sef Dies Irce a Barnabas," am eu bod mewn ffurf- iau eraill yn boblogaidd gyda ni. Y flaenaf ydyw'r don henafol o'r hon y cyfaddaswyd St. Peter" (8.7 4) gan Ieuan Gwyllt, a chredwn nad ymddangosodd hi o'r blaen yn Mhrydain mewn dull mor agos i'r gwreidd- iol a hwn. Yr un don yw'r llall ag "Aber- dar" (6.6.8.6, neu M.B.D.) ond yma (ar 7.6.7 6.7.7.7.6) y mae hi yn agosach i'w dull cyntefig nag oedd hi gan 1. Gwyllt. Yn y Salmyod Firengig, 1565, yr ymddangosodd hi gyntaf, ac yno ar y mesur 7au, 6 llinell, y ceir hi. Yn ein hjmchwiliad maith i dardd- iad tonau nadyd)nt end ffurfiau newidiedig ar donau tramor, neu yr hyn a elwir yn "gyfansoddiadau," ni a gawsom fwy o draff- erth g)da"St. Pettr" ac "Aberdar" nag cdid unrhyw donau eraill, am nad ydynt hwy yn eu dull gwreiddiol i'w cael ond mewn ychj dig iawn hyd yn oed o'r lliaws casgl- iadau Ellmynig sydd yn ein m eddiant, ac na ddaeth yr ych>dig lyfrau hynny i'n dwylaw ond yn gymmharol ddiweddar. Priodol a fyddai ini byspysu jma mai nid a thestynau cerddorol yn unig y bydd a f) nnom ) n ein Nodiadau," ond y bwriedir iddynt fod o ncdwedd fwy C) ffredinol. Yn ein hysgrif nesaf ni a obeithiwn sylwi ar ddau gyhoeddiad Cymreig dyddorol sydd bellach yn anhawdd eu cael, er nad yn hen iawn. Y naill ydyw llyfryn John Morganr, Cadnant, a elwir "Mari Phylip, neu Helynt- ion Gwladcl a Cbrefyddol Mon yn y Can' Mlynedd diweddaf" (Caernarfon, 1881); a'r llall, cylcbgrawn bychan a gyhoeddid gan Fethodistiaid sir Aberteifi, sef "Yr Arwein- ydd" (Aberystwyth, i862-64a 1876-81).—3,

EISTEDDFOD RHYL.