Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Cspdrem ar yr WyL

Y Cynghor Rhyddfrydig Cymreig-

Barddoniaeth. :^

News
Cite
Share

Barddoniaeth. Y BOREU. O'r dywell nos yn dlos daw'r wawr Oleua lawr ein dolydd; Rhydd wen ar ael y mynydd mawr Daw'n gorawr yn ysblenydd. Agora y gymylog nen A'r niwl uwchben ymgilia; Yr huan ter a gwyd ei ben A'r lleuad wen noswylia. Ymohwala y cymylau erch A nefol serch ymchwydda; Diflanant uwch mynyddau derch Gwedd nen fel merch ymhardda. Yn gadarn wr ymgoda'r haul Ac araul ymddisgleiria; 0 dan ei wres ar dyner sail Dail anian a benlinia. Yr'hedydd per a esgyn fry v A'i delyn gu chwareua; ,» Ei seiniau ter yn swyn a dry Llanerchau lu fendithia. Y ceiliog rydd foreuol gan Yn ddiddan dan ei gronglwyd A geilw'n nghyd ei deulu glan Heb arian i'w boreufwyd. Harrow-on-the-Hill. LLINOS WYRE. CAN BRIODASOL I Mr. Benjamin James, Claremont-rd., Queen's Park a Miss Dolly Richards, Malvern-rd., Kilburn. Tarawyd James fy nghyfaill Yn wael gan dwymyn serch, A'r unig beth i'w wella Oedd sicrhau ei ferch Fe welodd lawer geneth Rinweddol-uchel fri; Ond un a aeth â'i galon, A Dolly ydoedd hi. Fe ddaeth i'r penderfyniad (Trwy ganiatad y fun) Mai gwell oedd prynu modrwy A mwyach fod yn un; Fe ddaeth yr adeg ddedwydd I wneyd y cwlwm tyn,- Y cwlwm nas datodir Yr ochr hon i'r glyn. Ar ddeehreu'u cyfnod newydd Boed iddynt fod yn un, I deithio llwybrau rhinwedd Yn wrol a chytun; Maent heddyw wedi cychwyn Ar yrfa bywyd maith, Boed iddynt hedd a gwynfyd A llwyddiant ar eu taith. Mae Ben yn fachgen gweithgar, Caredig, parchus iawn, Tra Dolly'n ferch dalentog, A doniau ynddi'n llawn; Wel llwyddiant iddynt mwyach, A mwyniant is y nen; A goreu nef a daear A f'o i Doll" a Ben. Notting Hill. LEM LLOYD JAMES.

[No title]