Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Cspdrem ar yr WyL

Y Cynghor Rhyddfrydig Cymreig-

News
Cite
Share

Y Cynghor Rhyddfrydig Cymreig- LLWYDDIANT ANARFEROL Y DRY- SORFA AMDDIFFYNOL. MAE CYMRU'N EFFRO Mae arwyddion ar bob Haw fod meibion a merched Cymru ar y tyrau yn disgwyl am y rhybudd lleiaf o orfodaeth bellach llyw- odraeth Balfour i orthrymu ein hawdur- dodau lleol o dan y Ddeddf Addysg newydd. Un o'r arwyddion amlycaf fod yr alwad i'r gad a seiniwyd gan yr Aelodau Seneddol Rhyddfrydig pan yr ymadawsant a Thy y Cyffredin yn ddiweddar fel gwrthdystiad yn erbyn afreoleiddiwch Balfour a'i ganlynwyr, ydyw parodrwydd y werin i gyfranu at y Drysorfa Amddiffynol a gychwvnwyd yn Mhenybont-ar-Ogwy yn mis Mehefin di- weddaf. Gwyddis fod Mr. Lloyd-George wedi llwyddo i gasglu dros bum' cant o banoedd yn mis Gorphenaf diweidaf. Oiiiar hyny y mae swyddogion y Cynghrair Rhydd- frydig, sef yr Henadur Edward Thomas (Cochfarf) a'r Henadur W H Hughes (Pont- ypwl), wedi trefnu cyfarfodydd ar hyd a lied y wlad, ynghyd a phwyllgorau i gasglu o dy i dy at y drysorfa wir genedlaethol hon. Mae yn agos i saith gant o bunoeid yn awr yn y drysorfa. Nid yw y gwaith o gasglu wedi mwy na dechreu er hyny, a cheir brwdfryd- edd na phrofwyd ei fath o'r blaen yn hanes diweddar Cymru yn mhob man lie y mae wedi ei gychwyn. Mewn amryw ardaloedd mae pwyllgorau wedi ymgymeryd a chasglu o ddrws i ddrws at y drysorfa hon. Cyr- haedda y cynllun hwn amcan deublyg, sef cynull I cregyn rhyfel' a phregethu rhyddid crefyddol ar bob trothwy drwy y wlad! Dyma beth newydd yn hanes gwleidyddiaeth Gymreig yn ddiau, a phe buasai'r ysbryd hwn wedimeddianau ein cymdeithasu Rhyddfryd- ig yn y gorphenol, ni fuasai genym Aelodau Seneddol Toriaidd —pleidwyr gorfodaeth- yncamgynrychioli'n gwlad.' Rhyn syddeisieu yn awr yw i bleidwyr egwyddorion Rhydd- frydig ffurfio pwyllgorau c/ffelyb i'r uchod yn ddioed, a thrwy hyny hyrwyddo gwaith swyddDgion y Cynghor Cinedlaethol. Yn Z> awr yw yr amser i gisglu cyn y byddo yr ergyd cyntaf yn cael ei diro yn y frwydr sydd wrth Jaw-" brwydr" (fel y d/wed Mr. Lloyd-George) a effeithia ar hane3 dyfodol Cymru am genedlaethau." Yr etholiad nesaf, hefyd, a benderfyna pa un a yw ein hysgol- ion, lie y mae miloedd o blant yn derbyn addysg, i fod o dan iau offeiriadol, neu yn rhydd oddiwrth ddylanwad trais y clerig- wyr. Cydnebydd pleidwyr rhyddid cref- yddol drwy yr holl fyd mai Cymru sydd yn arwain yn y mater hwn ar hyn o bryd. A ddiffygiwn ni, ynte, gan roddi y fraint a'r anrhydedd sydd i ni i ereill ? Na wnawn. yn siwr Am hyny, torched pawb eu llewys i ychwanegu at y Drysorfa Amddiffynol, ac yn ddiweddarach i daro ergyd dros ryddid cydwybod, a fydd yn destyn i haneswyr yn hir ar ol i'r frwydr gael ei henill. Anfoner cyfraniadau i,- MR. EDWARD THOMAS (Cochfarf), Caerdydd (Cadeirydd Pwyllgor y Cynghor). MB. C. E. BREESE, Morfa Lodge, Porth- madog (Trysorydd). Neu i'r Ysgrifenydd, MR. W. H. HUGHES, Y.H., Ltwyn-Onn, Pontypool.

Barddoniaeth. :^

[No title]