Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Newyddion Cymreig.

News
Cite
Share

Newyddion Cymreig. WI.Y PENILLION TELYN. Byth nag aed canu penillion gyda'r tarmau o'r Eiseddfod. Wele rai llinellau a ddadganwyd yn Rhyl gan Eos Dar (Watcyn Wyn ydyw yr awdwr):— Mae'r gan yn fyw, a. llais y cor Yn adsain mor a mynydd, Tra'r m6r yn fur i'r bur hoff bau, Tra'r bryniau'n dal wybrenydd Tra byddo Fflint yn taro tan, Fe aiff y gan ar gynydd. Ni waeth craig, ac ni waeth tywod, 0 dan Orsedd yr Eisteddfod, Dan ei sail ar hyd yr oesau, Mae'r tywod w edi troi yn greigiau. 0 rhoer imi, tra tir a mor, Iaith Cymru lan, a chân, a chor. ENILLWR Y GADAIR. )' Testyn y Gadair oedd Geraint ac finid," a'r awdl i beidio cynwys mwy nag wyth gant o linellau. Rhoddid gwobr o ugain punt a chadair dderw. Y beirniaid oeddynt, Proffeswr J. Morris Jones, Elfed a Berw. Y Bardd Cadeiriol buddugol ydoedd y Parchedig J. Machreth Rees, gweinidog yr Anibynwyr Cymreig yn Radnor-st., Llundain. Brodor o Lanfachreth, ger Dolgellau, ydyw. Bu yn gweithio yn Chwarel y Rhiw, Ffestiniog. Addysgwyd ef yn Ngholeg Anibynol y Bala. Cyn symud i Lundain, efe ydoedd gweinidog yr eglwys Anibynol yn Mhenygroes, Dyffryn Nantlle. Y mae yn bregethwr rhagorol. Bu droion yn ymyl cipio y Gadair. Llon- gyferchir ef yn awr ar ei lwyddiant. ARAETH GYMRAEG Y LLYDAWR. Dyma gopi o araeth Gymraeg a draddodwyd mewn modd effeithiol gan y Llydawr, M. Jaffrennou yn Eisteddfod Rhyl yrwythos ddiweddaf: Gyfeillion anwyl,—Dyma'r pedwaredd tro y cy- ferfydd y Cymry a'r Llydawiaid mewn gwledd frawdgarol, i ymuno dau haner y cleddyf 'ma, yr hwn a arwydda dwy gainc cenedl y Brythoniaid. Ac mewn gwirionedd, nid yn unig arwydd ofer a oifudd yw priodas y cledd hon; heddyw nid gair heb ystyr yw undeb y Celtiaid, pa beth bynag a ddywed yr estron. Y mae undeb y Celtiaid wedi ei gyflawni y mae iddi fodolaeth wirioneddol, a gwelwyd yn eglur y prawf o hyn yn Nghaernarfon yr wythnos ddiweddaf, yn ystod yr wyl brydferth hono, adlais yr hon sydd weai mynd allan trwy yr holl fyd. Yn awr, dylai Ewrop adysgu mai byw ydym ni'r Celtiaid, ac o hyn allan dymunwn gymeryd ein lie yn mysg y cenedl- oedd a gofynwn wrandawiad i lais ein d>liet,dau. Cyfrifa'r genedl Geltaidd bedair miliwn 0 boblogaeth yn ngwneyd defnydd beunyddiol o'r iaith hon a siar- edwyd erstalwm yn Ngorllewin Ewrop; a mynwn gadw yn fyw y trysor gwerthfawr hwn a adawyd i ni gan ein tadau. Trwy ei gadw, gwyddom y cadwn hefyd ein cymeriad cenediaethoi, ac y diogelwn ar yr un pryd ein cariad at foesoldeb ac at brydferth- wch, yr hon y mae y bobloedd ereill yn eiddigeddu wrthym. Cynrychiola y cleddyf hwn ein hundeb presenol yn o gystal a'n nherth. Nis defnyddiwn y cledd 'ma i ymosod ar genedloedd ereill, gyda pha rai y dymunwn fod yn heddycblon a chyfeillgar; ond ni a'i hysgydwn i amddiffyn hawliau cysegredig Keltia anfarwol, Kymru, Llydaw, a Cheltia am byth EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1906. Yng nghytartod blynyddol yr Orseda a Chym- deithas yr Eisteddfod Genedlaethol, yn Rhyl, pleidleisiwyd fel y canlyn pwy oedd i gael Eisteddfod 1906:—Caernarfon, 74 Gwrec- sam, 10; Amwythig, 3. Felly, Caernarfon aeth a'r maen i'r al yn anrhydeddus. YMWADU A CHAMBERLAIN. Un o wyr mawr Arfon yw Mr. Greaves, Arglwydd Raglaw y sir ac y mae, er mai Ton ydyw, wedi ym- wrthod yn hollol a chredo Chamberlain. Efe sydd i lywyddu mewn Sassiwn boliticaidd yn Nghaernarfon ar y Igeg o Hydref, pryd y siaredir gan Mr Lloyd-George a Mr Winston Churchill. Y mae rhengoedd y gwr o Fir- mingham yn lleihau, wythnos ar ol wythnos.

Oddeutu'r Ddinas.