Hide Articles List

4 articles on this Page

Y Gymanfa Geitaidd.

News
Cite
Share

Y Gymanfa Geitaidd. MAEN Y GENEDL. Dydd Sadwrn, y 3ydd o Fedi, am naw o'r gloch y boreu, ymgynullodd y cynrychiol- wyr Celtaidd i hen Gastell Caernarfon i ddatod undeb y chwe' careg-canys rhowd careg Cernyw yn nghymundeb y pump ereill tra y taranai mellt Eryri eu cymerad- wyaeth y dydd Mercher cynt. Gwnaetbant yn ffurfiol ac yn arwyddocaol yr hyn y mae amser ac amgylchiadau wedi ei wneuthur a'r cyff Celtaidd, sef eu banfon i ororau yr Ynysoedd Prydeinig a gwlad Ffrainc. Rhaid oedd canu ffarwel i hen dref Caernarfon, lie y tystiai y cynrychiolwyr y treuliasant rai o ddyddiau bapusaf eu bywyd. Ar ol ymweled a Gwyl y genedl Gymreig yn Rhyl, aiff pob un i'w ranbarth ei hun i lafurio ac i arwain ei Iwyth i sefyllfa ucbel yn Maen y Genedl. Yn un o'r cyfarfodydd anfonodd y Prif- athraw Rhys fellten o oleuni trwy y caddug a'r hwn y cuddia amser yr oesoedd a fu oddiwrthym. Galwai sylw y rhai a ddaeth- ant o'r Iwerddon, o Ynys Manaw, o Llydaw, o Ucheldir yr Alban ac o Gernyw, at y ffaith eu bod ar dir clasurol y Mabinogion. Gall- ent weled bron, o hen dref Caernarfon, y clawdd-dir a elwid Dinas Dinlle, lie y mag- odd Gwydion ab Don, y magician mawr, Llew Llawgyffes. Dros yr Aber sydd wrth draed yr hen Gastell, y mae lie a elwir Coed Alun, sydd yn cael son am dano yn chwedl Maenor Coed Alun. Nid yw Dinas Dinlle ond rhyw bedair milldir o'r dref, ac y mae plant yr Ysgolion Sabothol yn hen gynefin a'r fangre henafol. Dyma chwedl, neu ystori, sydd yn myned yn ol yn mhellach lawer na'r castell a adeiladwyd gan y Normaniaid, er fod hwnw tua 700 mlwyddyn o oedran. A ystori Gwydion yn ol yn mhellach na dyfod- iad y Khufeiniaid, yn mhellach yn ol na dyfodiad Cristionogaeth y mae tua dwy ill o flwyddi o oedran. (i Yr oedd Bendigaid Frân" meddai yr ail gainc o'r Mabinogion, "yn rhy fawr i'r un ty ei gynwys." Y mae y dywediad fel pe yn arwyddocaol o'r Celtiaid. Nid oes iddynt fawr lwyddiant mewn pethau gweladwy. Nid oes iddynt lynges yn ymrwysgo ar hyd y moroedd ni ddarfu iddynt adeiladu Eg- lwysi cadeiriol, hardd, yn rhyfeddod y byd ac y mae hyd yn oed y castelli sydd yn britho gwlad y Cymry wedi eu hadeiladu gan estroniaid. Hyd yn oed mewn celf a cherdd, lie y mae eu hathrylith uchaf, nid oes iddynt brin dy parhiiol. Nid Celt ddarfu baentio y Swper Olaf," ac nid efe arluniodd Apollo; nid oes iddo oratorio nac opera o iaint ac o esgeiriau y "Messiah" neu y "Niebelung's Ring." Y mae Bendigaid Fran, y mae'r Celt, hyd yn hyn, beth bynag, yn rhy fawr i'r un ty ei gynwys. Alawon, teimladau anelwig fel geir yn Ossian, y mae, hyd yn hyn, wedi ei arddangos. Nid yw y Celt eto wedi cael chance, meddai un o'r cynrychiolwyr yn llawn eiddigedd. Pan y daw ef i addfedrwydd, pan y gall ddyweyd yr hyn a deimla, bwyrach y bydd ef fel y dderwen sydd yn cymeryd cymaint o amser i dyfu yn gadarnach, ac yn benaf ar holl genhedloedd y ddaear. Yn y dyfodol y mae ei ymherodraeth ef. Brydnawn gwaith medd y gainc hon, is yr oedd (Bendigaid Fran) yn Harlech yn Ardudwy, mewn llys iddo ac yn eistedd yr oeddynt ar gareg Harlech uwch ben y weilgi. Ac fel )r oeddent yn eistedd felly, hwy a welent dair-llong-ar-ddeg yn dyfod o dde- heu'r Iwerddon, ac yn cyrchu tuagatynt, a nofio'n dawel a chyflym yr oeddynt,-y gwynt o'u hoi yn eu neshau'n ebrwydd tuag atynt." Llongau imatholmch-brenin Iwerddon— oeddynt, yn dod i fyny i ymgyfathrachu a Bendigaid Fran ac i ofyn Branwen Feich Llyr. Priodwyd Matholwch a Branwen yn Aberffraw. Ond brawd (o'r un fam) i Ben- digaid FrSn a achosodd anghydfod rhwng Cymru a'r 'Werddon. Aeth Bran i'r 'Werdd- on, ac yno y brathwyd ef yn ei droed a gwenwyn waew ac ni ddiangodd ond saith yn ol i Brydain. Ac yna meddai y gainc (ac y mae hyn yn sicr yn arwyddocaol o'r hyn y mae amser ac amgylchiadau wedi ei wneuthur a'r Corph Celtaidd), y parodd Bendigaid Fran iddynt dori ei ben." Ar ol tori y pen, yr oedd ded- wyddwch neillduol i ddod i'r seithwyr. A chymerwch chwi y pen ebe Bran, a dyg- wch ef i'r Gwynfryn yn Llundain, a chledd- wch ef yno a'i wyneb at Ffrainc, a chwi a fyddwch ar y ffordd yn hir. Yn Harlech y byddwch saith mlynedd ar ginio, ac adar Rhianon yn canu i chwi. A bydd cystal geny ch gymdeithas y pen ag y bu oreu genych pan fu arnaf fi erioed. Ac yng Nghwalas ym Mheniro y byddwch bedwar ugain mlynedd. A gellwch fod yno a'r pen yn ddilwgr genych hyd nes yr agoroch y drws sy'n gwynebu Aber Henfelen tua Chernyw. Ac o'r pan agoroch y drws hwnw nis gellwch fod yno, ond cyrchwch i Lun- dain i gladdu y pen, ac ewch ymlaen rhag- och." Felly fu, yn Harlech daeth tri aderyn gan ddechreu canu rhyw gerdd-ac o bob cerdd a glywsant, di-fwyn oedd pob un wrthi hi. Ar ol saith mlynedd, aethant tua Gwalas ) m Mhenfro ac yno yr oedd iddynt le teg brenhinol uwchben y weilgi, a neuadd fawr oedd yno iddynt. Ac yno y treuliasant hwy y pedwar ugain mlynedd, fel na wybuant idaynt erioed dreulio ysbaid mor ddifyr a hylryd a hvnw. Ond un boreu, agor y drws a wnaethant, ac yna daethant i wybod eu holl golled. Y mae yr banes fel pe ) n aiwyddocaol o'r Corph Celtaidd sydd wedi cael ei ysgaru, pen oddiwrth gorph ac aelod oddiwrth aelod, a'r rhanau wedi myned i drigo i ororau Ynys Prydain a goror gwlad Ffrainc. Er i aelodau y Corph Celtaidd, fel hyn, gael eu gwasgaru, erbyn heddyw y mae pen Bendigaid Fran wedi dod ag amser hyfryd a difyr cyd-gynulliad, ac adar Rhianon yn canu iddynt-yn y Wyddelaeg, y Gaelaeg, Llydawaeg a'r Gymraeg. Erbyn hyn, y mae yr alaw Gwlad fy Nhadau wedi cael ei mabwysiadu fel anthem genedlaethol yr holl lwythau Celtaidd. Nos Wener-noson olaf y Cynghrair Oll-Geltaidd-dadganodd Miss Treacy dros yr Iwerddon, Mr. John Jones (Caernarfon) dros Gymru, M. Jaffrennou dros Lydaw, Mr. Jenner dros Gernyw, yr hen alaw werinol sydd yn anwybyddn bren- hinoedd a brenhiniaethau; a chydganodd y werin, y werin sydd mor hen, mor anfarwol a mynyddoedd Eryri, y werin sydd wedi gweled gorymdeithiau y Rhufeiniaid, y Nor- man a'i drwst a'i drum, y Sais a'i osgorddlu milwrol y werin sydd yn siarad yn iaith y Mabinogion, ac hyd heddyw yn siarad am Goed Alun y werin sydd eto yn fyw yn nwyf ac asbri y plant pan yn rhagflaenu gor- ymdaith yr Oll-Geltiaid, ac yn ysgwyd ac yn plygu fel coedwig gan ei chwerthiniad a'i boddhad yn orielau y Guildhall a'r Pafilion enfawr; y werin ag sydd eto i fyw am oesau y dyfodol ac i gynyrchu a chreu Cymru Fydd. ====_=__===_

[No title]

Bwrdd y ' Ce/f. '

" RHODDI CEIRCH IDDO."