Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Eisteddfod Rhgl.

News
Cite
Share

Eisteddfod Rhgl. Owyi Fawr y Flwyddyn. Yr wythnos hon bu y genedl yn cynal gwyl ar làn m6r y Rhyl, a chaed cvnulliadau illawrion drwy yr wythnos. "Eisteddfod Genedlaethol" y'i gelwid ond rhaid addef Inai prin iawn ydoedd y nodweddion cen- sdlaethol ynglyn a hi, i'r Cymry, beth bynag. Qwir ddarfod i rai portion Cymreig fyned yno i gystadlu; ond mor bell ag a wnelai cherddoriaeth Gymra, gellid ya hawdd ei galw yn ornest i gantorion Seisnig. Arddangosfa, ac nid addysgfan, yw'r Hen y yl wedi myn'd er's talm. Nid ceisio cael allan dalentau goreu y genedl y mae ei nhOddwyr, eithr gwaeyd cymaint o dwrw sydd bosibl, a hel cymaint ag a ellir o bobl tawr y wlad, er mwyn i'r werin wasaidd ddod yno i'w haddoli a gwaeddi hwre o'u "ken. Beth bynag am lwyddiant arianol y cynulUaiau yn Rhyl, rhaid dyweyd na fu yr Wyl o fawr werth i ni fel cenedl-mewn na cherddoriaeth na llenyddiaeth; ac y mae yr adran farddonol, hefyd, yn ddigon llipa, a barnu oddiwrth y beirniadaethau a gaed. Dechreuwyd ar y gwaith, nos Lun, gyda chyfarfod arbenig o'r Cymmrodorion a'r mater pwysig i'w benderfynu ydoedd sefydlu LLYFRFA I GYMRU. Y Barwnig, Syr John Williams, oedd yn agor yr ymdrafodaeth, a dywedai ei fod yn tybio mai y llyfrgell Gymreig oreu y gellid meddwl am dani fuasai llyfrgell yn cynwys holl lenyddiaeth pob gwlad ddiwylliedigdan haul. Ond, fel pob drychfeddwl arall, yr oedd hwn yn un anhawdd i'w gyrhaedd, ac am hyny, gadawai yr agwedd uwchaf ar y cwestiwn, a cheisiai wneyd ychydig sylwadau ymarferol ar y lyfrgell genedlaethol, fel y gellid ei sefydlu yn Nghymru. Pa amcan gyrhaeddid trwy sefydliad o'r fath? Ua amcan goruchel ydoedd casglu a chadw engreifftiau o lenyddiaeth Gymreig-hen a diweddar. Gofidiai Syr John fod dosbarth Iluosog o ddynion yn y byd nad yw llyfrfa yn apelio ond pur ychydig atynt, sef y rhai ydynt yn rhy brysur neu yn amddifad o addysg i fanteisio ar y cyfryw sefydliadau. Ond y mae nifer luosog arall o ddynion ellir eu galw yn efrydwyr yn ngwir ystyr y gair. Treuliant hwy lawer o amser yn as- tudio ac yn ceisio ychwanegu at eu gwyb- odaeth yn mhob cyfeiriad. Dylai drysau y llyfrgell fod yn agored i'r cyfryw, a'i thry- sorau yn amlwg ac o fewn cyrhaedd. Cwestiwn arall ydoedd pa le dylid sefydlu Llyfrgell Genedlaethol? Ai yn y ddinas brysur yn nghanol twrf a bywiogrwydd mas- nach, ai ynte mewn lie tawel ? Credai Syr John mai'r olaf oedd ateb cywir y cwestiwn. Gan y bwriedid i'r sefydliad fod at wasan- aeth efrydwyr, byddai yn angenrheidiol i'r cyfryw dreulio dyddiau ac efallai wythnosau yn y gymydogaeth. Felly, byddai yn well i'r llyfrgell fod mewn treflan ddi-nod, lie buasai treuliau byw yn rhad. Dylai y llyfrgell gynwys llenyddiaeth pob gwlad wareiddiedig hyd ag y byddai bosibl; llyfrau ar unrhyw destyn ac mewn unrhyw iaith, a ysgrifenwyd gan Gymry; llyfrau yn yr ieith- oedd Celtaidd; llyfrau yn ymwneyd a Chymru a Chymraeg yn mhob agwedd. A llawysgrifau Cymreig. Yna byddai y Llyfr- gell Genedlaethol yn gyflawn. Cafodd y papyr wrandawiad a chefnog- aeth wresog, a dilynwyd ef gan bapyr oddiwrth SYR ISAMBARD OWEN, yr hwn a ddarllenwyd gan Mr. Vincent Evans, yn absenoldeb yr awdwr. Gwneyd apel arbenig at y Cymry am uno i sicrhau llyfrgell deilwng o'n cenedl ydoedd cenhad- aeth arbenig y papyr hwn. Yn ddilynol, caed sylwadau amserol ar y papyrau gan Esgob Llanelwy, Frank Ed- wards, Ysw., A.S., ac ereill. DYDD MAWRTH. Dechreuwyd o ddifrif gyda chystadleu- aethau yr Wyl, ddydd Mawrth. Cododd yr eisteddfodwyr yn foreu, ac aethant i'r Orsedd a gynhelid mewn 'man cyfleus ar ochr y dref. Yno gwelid yr Archdderwydd Hwfa, mor urddasol ag erioed, ac yno yr ymgynullodd y rhai a dderbynient y teitlau rhad. Yn mysg y beirdd," yr oedd un tywysoges o htl brenhinol, yn ogystal a nifer o wrageddos parchus na w/ddant air o Gymraeg. Caed areithiau hwyliog o gylch y Maen Llog, a chodwyd hw/1 hapus i ddechreu y gweithrediadau. Nid oedd y cynulliad yn y pafilion yn foddhaol iawn ar y dydd cyntaf. Cafwyd hici dymunol, ac hw/rach ddarfod i lawer o ymwelwyr fyned i fwyahau awel glan y mor, yn hytrach na m/ned i'r Eisteddfod i glywed y canu a'r cystadlu. Llywyddwyd y gweithrediadau gan Arglwydd Mostyn a William Jones, A.S., ac arweiniw/dgan T om John a Llew Tegid. Yn yr adran lenyd dol gwobrwywyd a ganlyn:- Drama Gymreig, gwobr 3op, rhanwyd rhwng Mr. Ivano Jones, Caerdydd a Miss Lilian Hughes, Amlwch. Can 1 Y Baledwr,' rhanwyd rhwng 4 Gwili ac Eilir.' Cyfieithu i'r Saesneg ddarn o 1 Lyfr Coch Hergest,' Parch. Robert Williams, curad Llandudno. Can I Y ffair gyflogi,' Mr. David Owen, Dinbych. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, rhan- wyd rhwng y Parch. D. Eurof Walters, Llanymddyfri a Gweledydd.' Llawlyfr ar 'Enwogion Cymru 1700— Ig00," gwobr 5op. Ataliwyd y wobr, er fod amryw wedi ymgeisio. Nofelig Gymreig, neb yn deilwng. Traethawd by wgraff/ddol ar 1 Ieuan Glan Geirionydi,'goreu GUri Meaai,' Llanfair- fechin. Yn yr adran gerddorol, gwobrwywyd Mr. Percy W. Hughes, Aberamin, am unawd ar y berdoneg Miss Lil f Fairney, Caerdydd, am unawd contralto Mr. H. Prothero a'i gyfeillion, o Lanelli, am badvvarawd a Mr. H. R. Davies, LUnfairfechan, am adrodd Morfa Rhuddlan.' Yn yr ail gystadleuieth gorawl, daeth tri chor Cvmreig yn mlien, a rhoddwyd y wobr i gor D/ffryn Nantlle, Caernarfon, a hyny gyda chymeradwyaeth uchel. Yn nghystadleuaeth corau y plant, daeth pump cor i'r maes, a chaed canu da gan- ddynt oil. Aeth y wobr i g6r Plant y Pen- tre' (Lerpwl)—Mr R T Edwards yn arwain. ARAETH MR. W. JONES, A.S. Anaml y ceir araeth a mwy o hwyl ynddi na'r un a gafwyd gan Mr. Jones ar y dydd hwn. Yr oedd yn llawn tan Cymreig ac yn gynhwysfawr o gynghorion amserol. Eisieu mwy o weithreda, a llai o benierfyniadau cenedlaethol sydd arnom, meddai Mr Jones; mwy o weithwyr a llai o siaradwyr. Dylai gwersi amserol yr aelod tros Arfon gael eu lledaenu i bob cwr o'r wlad. CANTAWD NEWYDD. Yn yr hwyr, cafwyd perfformiad o waith newydd Mr. Emlyn Evans, gan g6r dan arweiniad medrus Mr. Wilfrid Jones, Wrex- ham. I Y Gaethglud' ydyw testyn y gan- tawd, a rhoddwyd derbyniad cynes i'r gwaith am y tro cyntaf. Y mae'r beirniaid yn lied unfarn fod llawer o deilyngdod yn y gwaith. Yr unawdwyr oeddynt Miss Maggie Davies, Mri. Maldwyn Humphreys a David Hughes. DYDD MERCHER. Dydd y corau mawr oedd dydd Mercher, a phrofodd yn ddydd y torfeydd mawr hefyd. Yr oedd y pafilion eang yn orlawn; a chafwyd canu rhagorol trwy'r dydd. Daeth pedwar o gorau i'r ornest fawr eleni-tri o wlad y Sais ac un o'r Rhondda. Canmolai'r beirniaid waith y pedwar cor, a thystiai Dr. Cummings na chlywodd ef erioed well dad- ganiad o waith Handel. Yr oedd y pedwar yn agos iawn i'w gilydd, o ran teilyngdod, ond y goreu ydoedd cdr North Staffordshire, tra y deuai cor y Riondda yn dynn ar ei sawdl. Cystadleuaeth gyffredin gaf wyd ar yr un. awd tenor, a gwobrwywyd Mr. D. Ellis, Cefn. Y buidugwyr ereill oeddent:— Unawd baritone, rhanwyd rhwng Mri. G. E. Llewelyn, Port Talbot a Tom Lewis, Hengoed. Unawd soprano, Miss Jennie Ellis, Caer- dydd. Canu'r delyn, Mr. Tom Bryan, Pontypridd. Yn yr adran lenyddol, gwobrwywyd a. ganlyn:- Englyn' Y Dwyreinwynt,' rhanwyd rhwng Eifion Wyn a Dewi Medi.' Llawlyfr Hanesyddol ar Berfeddwlad, Mr. A. Morris, Casnewydd. Ataliwyd y wobr am y nofel Seisnig ac am draethawd ar I Achau Oarain Glyndwr.'