Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

OddeatuPr Ddinas,

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH

ANRHYDEDDU COFFADWRIAETH BRODOR.

News
Cite
Share

ANRHYDEDDU COFFADWRIAETH BRODOR. Dyry un o newyddiaduron Awstralia fan- ylion dyddorol am gof-faen harddwych a roddwyd i fynegu man fechan bedd y gwr rhinweddol, Mr. J. W. Jones, Adelaide, yr hwn a fu farw yn ddisymwth yn Ysbyty Breifat y ddinas, ar y iSfed o Hydref, y llynedd, yn 58 mlwydd oed. Dringodd i sylw goreugwyr rhanau helaeth o'r wlad hono, trwy ei garedigrwydd a'i amcanion cywir. Parodd ei golli alaeth mawr yn mysg llu o'i gyfeillion. Mab ydoedd i'r hen wladwr Mr. William Jones, Bwlch Llechog, Nan- mor, a adnabyddid fel yr Hen Gipar." Dringodd y mab John i anrhydedd ar ei deilyngdod ei hun yn hollol, ac heddyw fe goffheir ei enw a'i gymeriad da mewn modd ardderchog-er mewn gwlad estronol. Yr oedd y maen yn pwyso dros dunell, yn saith troedfedd o hyd, wrth dair troedfedd o led, a phump a haner troedfedd o drwch. Tystir ar goedd byd mai dyma'r g6fgolofn dalaf a godidocaf a wnaed erioed yn y rhanbarth. Dyma dystiolaeth i gymeriad glan a bywyd pur, ymdrechgar, bachgen o Gymro, o fro Beddgelert, bachgen aethai i'r ysgoi yn ei glocsiau, ond yn ei farwolaeth a gerid gan filoedd 1 6 Yr oedd Mr. Jones yn adnabyddus iawn i ysgrifenydd y llinellau hyn tua 25 mlynedd yn ol, pan yr oedd efe yn aelod blaenllaw ac yn weithiwr egniol gyda'r achos yn eglwys Jewin. Bu yn arolygwr yr Ysgol Sul ac yn athraw ffyddlon; cymerai ddyddordeb ar- benig yn y bobl ieuainc, ac yr oedd yn gyfaill caredig i'r rhai a ddaethent i Lundain o'r hen wlad. Y mae eisieu mwy o'r ysbryd a'r ysgwyd Haw cynes hyn arnom y dyddiau yma. Tua'r flwyddyn 1880, ymfudodd Mr. Jones o Jewin i Awstralia; ac, fel y gwelir uchod, daeth yn mlaen yn dda yn y byd, gan ofalu am grefydd ei wlad a'i genedl. Bu yn selog gyda'r achos yn Adelaide hyd ei farwolaeth; a daeth y diwedd yn sydyn, er mawr ofid i liaws o gyfeillion yn Nghymru ag Awstralia.

[No title]