Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

OddeatuPr Ddinas,

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH

News
Cite
Share

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. T. WILLIAMS, SHADWELL. Nos Sadwrn, Awst 2ofed, bu farw Mr. Thomas Williams, 298, Cable Street, Shad- well, o enyniad yr ysgyfaint, wedi ychydig ddyddiau o gystudd trwm. Brodor ydoedd o ardal Llanfair-Caereinion, lie y mae ei dad yn byw eto. Bu Mrs. Williams ac yntau yn byw yn nghymydogaeth Shrews- Dury am encyd, yna daethant i Lundain lie yr ymsefydlodd mewn masnach laeth eang. Yr oedd yn weithiwr diwyd, medrus, ac yn ddyn tyner, gofalus. Llwyddodd yn dda yn ei fasnach, ac yr oedd mewn amgylchiadau tra chysurus a dedwydd. Edrychid arno fel un o brif Gymry y ddinas, a chaed ef bob amser yn dra ffyddlon. i bob mudiad Cymreig yn y dref. Ar ei ddyfodiad i Lundain, unodd ef a'i briod ag eglwys y Boro, lle y cododd i barch a dylanwad mawr yn yr holl frawdoliaeth. Ni fu erioed yn ddyn cyhoeddus iawn, ond yr oedd yn un o'r dynion mwyaf caredig,. pur, ffyddlon, boneddigaidd, a hawdd ei drin. Bydd chwithdod mawr ar ei ol yn yr eglwys ac yn y cylch Cymreig yn y dref. Bu farw pan yn 49 mlw) dd oed, gan adael gweddw, dwy ferch a mab, i alaru eu colled ar ol priod caredig a thad tyner. Dydd Iau, Awst 24ain, claddwyd ei wedd- illion marwol yn medd y teulu yn Nunhead,. pryd y daeih torf o'n cydgenedl ynghyd i ddangos eu parch i'w goffadwriaeth. Gwein- yddwyd gan y Parchn. D. C. Jones (Boro) a D. Williams (Abergwili). Estynwn ein cydymdeimlad tyner i'w weddw a'i blant yn eu galar mawr a'u colled. Un o ragorolion y ddaear ydoedd Mr. Williams ac erys ei goffadwriaeth yn wyrddlas dros amser maith. Gweinyddodd lawer o gymwynasau i blant angen yn ei ffordd ddistaw, siriol. Gor- phwysa heddyw oddiwrth ei lafur, a'i weith- redoedd sydd yn canlyn yn mlaen. Huned yn dawel hyd nes toro y wawr.

ANRHYDEDDU COFFADWRIAETH BRODOR.

[No title]