Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

OddeatuPr Ddinas,

News
Cite
Share

OddeatuPr Ddinas, Bu raid gadael allan golofn Pregethwyr y Ddinas "yr wythnos ddiweddaf, ond gwelir fod iddi ei lie arferol yr wythnos hon etc. Daw'r banes fod amryw o'r gweinidogion Llundeinig wedi bod yn cymeryd rban mewn cyfarfodydd yn y wlad yn ystod eu gwyliau, ac mae gair uchel o ganmoliaeth iddynt. Un o hen gymeriadau enwocaf y pwlpud Methodistaidd yn Ngheredigion yw'r Dr. Rees, Bronant; ond y mae ei olygon erbyn hyn yn pallu, a dyddiau henaint yn pwyso yn drwm arno. Yn ei bwlpud, yn y Bronant, y Sul o'r blaen, bu'r Parch. G. H. Havard, Wilton Square yn pregethu, pan y cafodd oedfa hynod o gynes. Yr oedd yr hen Ddr. ei hun yn cymeryd rhan ar ddechreu y gwasanaeth. Daw adroddiad calonogol am y Parch. J. Ossian Davies, fod ei lais yn dychwelyd a'r seibiant y mae'n fwynhau yn graddol ad- enill ei nerth. Ni fyddai yn syndod gan ei feddyg ei weled eto yn esgyn y pwlpud gan mor addawol yw'r gwellhad. Ni ddaw'r Parch. J. E. Davies yn ol cyn diwedd y mis ac erbyn hyny hydera gael llwyr wellhad. Yr oedd yn pregethu gyda hwyl, y dydd o'r blaen, mewn cymanfa nod- edig ar fryniau anhygyrch sir Gaerfyrddin. Golygfa hardd gaed yn Llandrindod y dydd o'r blaen. Pedwar meddyg yn myn'd o amgylch y gynulleidfa ar y Sul gyda'r blychau casglu, ac yn eu mysg Dr. Dan Thomas, Stepney. Gobeithio i'r pedwar meddyg gael casgliad iachus am unwaith. Cynhalia'r pobwyr arddangosfa fawr yn yr Agricultural Hall, yr wythnos hon, a daw pob masnachytid sydd yn cymeryd dyddor- deb mewn bara i'r lie ar ymweliad a'r nwyddau da a geir ynddi. Yn mysg yr ymgeiswyr am wobrau bu amryw o Gymry yn dra llwyddianus. Bydd yn dda gan liaws cyfeillion y Parch. Gwilym Rees, Glyntaf-mab Mr. William Rees (Llew Caron) —gael y cyfleustra i'w glywed nos yfory (Saboth) yn Eglwys Dewi Sant, Paddington, am 6,30. Bydd yn dda gan bobl Dewi Sant, hefyd, weled un sydd wedi cymeryd rhan bwysig yn hanes y Gen- hadaeth hono, yn eu plith am y tro cyntaf er pan yr ordeiniwyd ef. Ar ol clywed am farwolaeth May Elias- anwyl eneth Mr. a Mrs. Richard Elias, Harrow, fel hyn yr englynai R. J.:— Duw y Nef i'n blinfyd ni-anfonodd O'i fynwes dlos lili, Yn ei hoi Fe'i galwodd hi I lenyrch y goleuni. Llenyrch teg, nas gall yno-un awel I roi niwed dreiddio Na May fechan egwan, O Adwaenem fyth edwino. Willesden Green. R. J.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH

ANRHYDEDDU COFFADWRIAETH BRODOR.

[No title]