Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y Byd a'r Bettws.

News
Cite
Share

Y Byd a'r Bettws. Tra Hwfa Mon, tra Eisteddfod. Lleoli y Llyfrgell Genedlaethol ydoedd gwaith cyntaf y Cymmrodorion yn y Rhyl, ac Aberystwyth aeth a'r gamp. Aeth yr Oll-Geltiaid i'r Rhyl, ond nid y Celtiaid oil. Arosodd rhai yn Llundain gan ddilyn eu gwaith. Daeth Mr. Lloyd-George yn ol o'r Cyfan- dir mewn pryd i fod yn nghyngerdd olaf yr 011-Geltiaid ond ymddygodd y rhai hyny yn anfoesgar ddigon iddo. Yr oedd rhai gwallau digrif yn rhaglen Eisteddfod Rhyl. Rhoddwyd darlun o rhyw ddyn dieithr i gynrychioli W. Jones, A.S., a rhoed llun Arglwydd Stanley, y postfeistr cyffredinol, yn lie Arglwydd Stanley o Alder- ley, fcl un o gadeirwyr yr Wyl. Hwyrach mai wedi meddwi oedd y trefnwyr, oherwydd bu cryn siarad am gysylltiad yr Eisteddfod a'r cwrw cyn dechreu yr Wyl! Am adael anifeiliaid i grwydro ar yr heol yn Marshfield, dirwywyd Miss Madge Price gan ynadon Casnewydd, ddydd Sadwrn, i dalu punt. D/ma'r pedwerydd-tro-ar-hugain i'r amaethyddes hon dderbyn y fath gosb. Dywedodd y clerc wrthi, pe digwyddai i'r da ddymchwelyd car-modur, y buasai yn rhaid iddi hi dalu am dano. Nid oes son iddo brophwydo beth fuasai'r canlyniad pe dymchwelid un o'r gwartheg gan y modur. Dyma'r mil flwyddiant wedi dod," ebai Cymro pybyr, y dydd o'r blaen, pan ddeall- odd mai gyda'r Esgob, yn Llanelwy, yr oedd Mr. Lloyd-George yn mynd i aros yn ystod dyddiau Eisteddfod Rhyl. "Y blaidd a'r oen a drigant yn nghyd welwch chi." Ond ni ddywedodd pa un yd oedd y blaidd na. pha un ydoedd yr oen. Y mae pabell sefydlog wedi ei chodi yn Aberpenar, a defnyddir hono ar adeg Eis- teddfod 1905. Byddhyn yn arbediad llawer o gost, a chan y deil o 12 i 15 mil o bobl fe dal yr Wyl yn gampus os llwyddir i lanw y lie. Yn Rhyl, eleni, rhaid addef mai siom- iant oedd y cynulliadau. Yn y Welsh Leader, am yr wythnos hon, ceir llythyr dyddorol iawn gan yr ymwelydd Bretonig-M. Jaffrennou. Y mae wedi ei eirio mewn Cymraeg glan a phur; a dylai godi cywilydd ar y plant hyny a h6nant nas gallant gael amser i ddysgu'r Gymraeg. Barn Mr. William Jones, A.S., yw, mai Caerdydd yw pi if dref Cymru. Hawlia hyny, medd ef, ar gyfrif ei phoblogaeth a'i dylan- wad; ac os ydyw yn pallu yn y Gymraeg,— wel, rhaid ei dysgu Gorchwyl anhawdd iawn fydd hyny, debyg iawn. Daw'r Parch. T. C. Edwards, D.D. (Cyn- onfardd) drosodd o'r America, er cymeryd rhan yn Eisteddfod 1905. Y mae wedi addaw i bobl Aberpenar, yr ymgera ran o'r swydd fel arweinydd. Mae Prifysgol Caerdydd yn un ar hugain oed, a dathlir yr amgylchiad ar y 14eg o fis Hydref, mewn modd hapus. Rhydd y llyw- ydd-Syr Alfred Thomas, A.S.-wledd i bwyllgor y coleg, yr athrawon, a nifer luosog o gyfeillion y dref a'r brifysgol. Yn Nghaerdydd y cynhelir Gwyl Hydrefol Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru, ac y mae parotoadau helaeth yn cael eu gwneyd yno er croesawu rhyw wyth cant neu fil o ymwelwyr. Dywed hen ymwelwyr fod mwy o Gym- raeg yn cael ei siarad yn Llandrindod eleni nag erioed. Rywfodd neu gilydd, y mae wedi dod yn beth "respectable" i siarad yr hen iaith, ac mae'r offeiriaid a'r pregeth- wyr hyd yn oed yn gwneyd hyny. 0 dipyn i beth, fe ddaw Cymru Fydd yn Gymru. Gymreig. CROESAWU'R CELTIAID. Ar ddaear Gwyllt Walia, hoff Geltiaid 0 draw, Anadlwch yn rhydd, a chymerwch ein llaw. I'r Alban a'r Manaw, i'r 16n Ynys Werdd, I Lydaw a Chernyw, mae'n calon a'n cerdd. Yn ngwres y berthynas sydd fyw, er yn hen,- Yn ngwres y berthynas sydd wynias ei wen, Codasom y Golofn glymedig ei llun A ddywed fod Celtiaid y gwledydd yn un. Os tua'r Gorllewin y gwthiwyd ni gynt,- Os buom yn brudd a di-hyder ar hynt, Yn nwyrain ein gobaith mae wyneb y wawr Yn d'weyd fod dydd newydd yn ymyl yn awr. Fe wel ac fe ddengys y gwawl fod ein bryd Ar geinion prydferthwoh a heddwch 0 hyd; Fe wel fod ein bywyd mor ddeiliog a'r coed- A'n lien a'n peroriaeth mor fyw ag erioed. Hen ieithoedd ein tadau nis bwrir o'r byd: Fe'u codwn, fe'u gloywn, fe'u harddwn 0 hyd Ac fe saif ein clwm golofn yn eofn is nen I dd'weyd fel daw cariad a'n bwriad i ben. ALAFON.