Hide Articles List

2 articles on this Page

Cyfaredd y Wlad.

News
Cite
Share

Cyfaredd y Wlad. Aeth wythnos o awch heibio, ac wele fi ar garn o geiyg llwydion, yn eistedd ar Ros Pengraig. Oddiamgylch y mae giug y m) n- ydd yn dechreu agcr eu blodau porphor; y mae'r eithin yn goroncg eto gan aur, a blodau gleision yr harebells, a fflur by chain y potentil, yn dry frith hyd y rhos. Chwyth awel hyfryd o'r mor yn fy ngw) neb, ac y mae'r awyr yn glir a disglaer, oddigerth yn nghyfeiriad Llangranog, lie mae'r wybren o liw opal, a lleiniau hirion o gymylau ys- geifn yn ymsaetbu i bob cyfeiriad o un pwynt yn y ffurfafen uwch y mor. Felly, gwnaf fy ngoreu o'r dydd, gan y bydd yfory yn dra sicr o ddwyn i ni ei gyfran o wlaw ac ystorm. Yn fy nghlust y mae su isel freuddwydiol y gwenyn, yn casglu mel yn ddiwyg ar rug y rhos. Nid oes ddy' Sul yn eu hanes hwy tra y mae gwaith ganddynt heb ei orphen. Ag eithrio swn yr awel, a su y gwenyn, a chan ceiliog ar glos y ffarm yn y pellder, mor dawel a distaw y mae! Y mae hyd yn oed can yr ehedydd wedi peidio erbyn hyn ar y bryniau. Gwelaf gryn ddwsin o amaethdai garynion yn eu nyth o goed yn y pellder, ond nid oes fod dynol i'w weled yn unman. Ar fy chwith cyfyd capel moel, diaddurn, Bwlchygroes, a'i reng o larwydd gwyrddion yn gwylio ei fynwent wledig; a thros ysgwydd Banc Blaen- cerdinfawr gwelaf gwr o fynwent hen yr Eglwys Fach, a'i ywen hynafol, ac haul y iieioedd yn rhy egwan i dreiddio caddug eu mil blynyddau-" their thousand years of glocm "-chwedl y bardd. Gyda'r eithriad o'r ffermdai, a'r capel, a'r Eglwys Fach, 'does ond bryniau eithinog Ceredigion yn ymestyn o fy mlaen, ac ambell i gae o gyrch ac haidd a gwenith yn gwynu yma a thraw hyd eu llethrau a meusydd o borfa dlod- aidd yn dechreu gwawr-gcchi hyd eu bron- ydd. Dyma fi yn eistedd ac yn sylwi eto ar fy mam-fro, ys dywed y Llydawr. Wythnos i heddyw eisteddwn ar un o fryniau moelion Gwent, a mwg y glofey dd yn cyrlio wrth fy nhraed a phythefnos i heddyw yr oeddwn yn demigyn dinod yn merw a thwrw Llun- dain. Y fath wahaniaeth rhwng twrw di- derfyn y cerbydau a'r cerbydresau a swn di-daw pum' miliwn o ddynion, ag unigedd gor-dawel y rhos, heb ond sisial y chwa, a su y gwenyn yn tori ar fy nghlust. Anhawdd dadansoddi y teimladau ymdon- ant droswyf bob tro y dof yn ol ar ymweliad a fy ben gymydogaeth. Y mae yn rhyw gymysgedd rhyfedd o lawenydd a phrudd- der. Y mae'r garn hon o geryg yn dwyn yn ol i mi gofion blynyddau lawer, a phob careg ynddi yn pregethu yn hyawdl, "Y mae dy ddyddiau yn cyflym fyned heibio." Ydynt, y mae y blynyddau, o'r fangre hon i'w gweled yn diflanu gyda buanrwydd ofn- adwy. Y mae'r dydd yn darfod a'r gwaith a drefnwyd i mi gan fy ieuenctyd heb ei orphen, ie, heb ei ddechreu, lawer o hono. Pa le mae'r palas gwych a drefnais i fy hun yn mreuddwydion bore oes ? Nid yw ei gareg sylfaen wedi ei gosod eto. Pa le mae'r ddysgeidiaeth eang a fwriadwn enill i mi fy hun cyn cyrhaedd haner oes ? Y mae yn gerwedd rhwng cloriau llyfrau sydd i mi eto yn anhysbys. Pa le mae'r enw a fwriedais gerfio ar femrwn hanes ? 'Does yr un lyth- yren wedi ei thori eto. Pa le mae'r cyieill- ion y meddyliwn gyd-gwmnia â hwynt wedi cyrhaedd oedran gwr, y rhai a gerais pan oeddwn yn blentyn ? Y maent oil bron o gyrhaedd swn fy llais ofer gwaeddi am danynt, canys eu lie nid edviyn mohonynt mwy. Ond am enyd yn unig y pery'r prudd-der sm y colledion a fu yn rhengau bywyd, a daw'r fuddugcliaeth o flaen llygad y meddwl. Da i mi na ddaeth fy mywyd i ben yn ol dyheadau breuddwydion fy ieuenctyd. A oes genyf iy golud y gobeitbiwn am danG yn J r c dau euraidd hyny? Pell, pell .o o fcd Ond y mae genyf afael gref ar y gwirionedd mawr nad )W dedwyddwch bywyd wedi ei osod i lawr ar sylfaen o aur. A yr aur a'r arian: ymaith oil a hwy. Na wrando chwaith ar swn rhyw dabwrdd pell. Dyna adsain y bardd-seryddwr o Bersia drwy rodfeydd y canrifoedd, ac y tnae'n cynwys egwyddor gwerthfawrocach na'r adamant. Gwyn fyd nas dysgesid hi gan ariangarwyr y dyddiau hyn. Yr wyf wedi dysgu nad yw mwyniant bywyd yn gorwedd ar y wyneb. Na, megis peil yn nghudd dan lawer gwrhyd. 0 ddyfr- oedd heillt y mor y mae Mwyniant Bywyd. Daw galar i'm bron am y rhai a gerais, ond a gollais gynt," ond y mae ereill wedi codi yn eu lie. Diolch i'r nefoedd am gyfeillion y presenol. Y mae'r ddaear yn cynyrchu toraeth o honynt o hyd. Na ddi- ystyrwn y cyfeillion hoff Gerddasant gyda ni Rodfeydd y dyddiau gynt; ond eto, gogoneddwn geraint y presenol. Hoffwn i fod yn blentyn eto ar ben y garn- edd hon ? Beth pe bawn yn cael fy nghario 'n ol ugain mlynedd, i ganol tymor fy ieu- enctyd. Gyfaill hoff sydd yn y brifddinas, ffarwel iti. Nis adwaenwn di y pryd hwnw. Febyn llygad-las non ar lin dy fam, hoffwn i hedeg yn ol ugain mlynedd a'th adael di 3 ma ? Na, gormcd y gwarth. Gwell genyf dy gwmni di, fy mhlentyn anwyl, nag hyd yn oed ffryndiau anwylaf y gorphenol. Feinwen hoff fy mynwes, garwn i fyned yn ol ugain mlynedd, a'th adael di yma yn y presenol? Na, na, rhy wag hyd yn oed freuddwydion euraidd mebyd oes hebddot ti. Amhosibl ymadael a thi. Na, nid hawdd fuasai aberthu'r presenol er mwyn pleserau'r dyddiau gynt. Ond dyna, yr wyf wedi lladrata digon ar Oliver Wendell Holmes, heb wella dim ar ei ddarn ardderchog ef ar yr un testyn. Nid wyf yn cofio yn mha un o'r Break- fast Table Series "y ceir y darn barddon- iaeth The poet dreams ond diau y gwyr llawer o'r darllenwyr. Ond hyn yr wyf am yru ato llwyr gredaf fod caffaeliadau bywyd yn fwy na'i golled- ion. Gwir fod i fywyd ei ofidiau. Ond, onid yn nhan gofidiau y purir aur ein bywyd ? Hollol hen ffasiwn yw'r syniad, fel y gwn yn dda. Ond nid oes dim casach genyf na cynicism ysgafn ieuenctyd ein dydd. Ond dyna, ar ddyddiau clir y canfyddir brychau ar yr haul, ac yn nghanol oes ddi-ofid y gwelir diffygion bywyd. I mi, y mae rhyf- edded bywyd yn ddigon i gadw fy nyddor- deb yrddo. Os blinodd neb ar ei fuchedd, rhaid fod ei organ of wonder wedi ei mawr amharu, os nad wedi ei llwyr ddifodi. I mi, y mae'r byd yn llawn prydferthwch an- hysbydd, a llawn dirgelwch amhlymiadwy. Cofiwch am frawddeg ardderchog Emerson: —" Give me health and a day, and I will make the pomp of Emperors ridiculous." Ie, dim ond dydd fynai'r athronydd American- aidd, heblaw iechyd. Waeth pa un ai dydd o wlaw ai eira, gwynt ai gwres-dim ond iddo fod yn ddydd newydd o law Duw. Dydd, pa fath ddiwrnod sydd i mi heddyw ? Heulwen haf yn pelydru, cymylau gwlanog yn nofio dros wybren bur ac asur, bryniau ardderchog Cymru yn codi mil o benau ar bobllaw, y cynhauaf yn gwynu ar eu Ilethrau, coed irlas yn ymdoni areu godreuon, afonydd arian yn rbedeg hyd y dyffrynoedd, preiddiau fel yr eira yn pori eu copaon, blodau porphor y grug a blagur aur yr eithin yn harddu'r rhosydd am filldiroedd meithion o'm cylch, a draw yn y gorllewin adliw cyfrin yr ardderchog f6r! Onid yw natur yn gyfrin a phrydferth, onid oes digon o wirioneddau cuddiedig i'w cloddio allan o fynwes hynafol anian ? Am gyfrinion y fynwes ddynol ni ddywedaf air ond hyn, mai cynefindra yw gelyn penaf gwirionedd. Ac nid oes genyf fawr feddwl o'r un cynic na ddeallodd erioed syniad anfarwol Keats; Beauty is truth, and truth beauty Is all we know on earth, and all we need to know. Dyma rai o'm meddyliau ar ben y bryn yn mro fy ngenedigaeth. Anhawdd tros- glwyddo a phin na gwrychell, wir gyfaredd y wlad i wyneb papyr na chynfas. Yn wir, nis gwn a oes un bardd Cymreig eto wedi; cyfleu magic rhyfeddol bryniau breuddwyd- iol Gwalia. 'Does yr un Cymro nas teimla'r gyfaredd ryfedd hon-y gyfaredd nas erys iddo ef ar benau'r un mynyddau ereill ar y ddaear. Y mae'n dod gyda su y wenynenr gyda galarnad y gwynt ar noson dawel o- haf, gyda bref y ddafad wrth lwyn eithin- unig, gyda threm y graig oedranus lwyd at gropia allan o gesail y ddaear, gyda miwsig di-sain blodau gleision yr harebells, a chydag arogl hyfryd grug y mynydd. Daw'r gyf- riniaeth gyda disgyniad pell y rhaiadr draw, gyda chanig felus nant y mynydd, a chyda dirgel ddwndwr y don, pan dyr wrth draed y creigiau pell yn nistawrwydd caddugawlr yr hwyr. Y mae Islwyn wedi gweled golwg; rhy Hebreaidd ar fryniau Cymru; nid yw Ceiriog wedi deall dyfnderoedd eu cyfrin- ion, o leiaf, nid yw wedi eu trosglwyddo i'w farddoniaeth ac am lawer o'n beirdd Cym- reig ereill, braidd y mae'r mynyddoedd yn ymddelweddu ar eu barddoniaeth o gwbL Y mae genym ddigon, a gormod, o grach- feirdd cul, sectyddol, a mil mwy o fan bryd- yddion ysgeifn y dyffrynoedd, ond y mae beirdd cawraidd penau'r mynyddoedd hyd, yn hyn heb godi i ganu yn eu plith. Y mae Ceiriog wedi prophwydo am fardd o'r cyfryw radd :— Fe gyfyd bardd yn ein plith ryw ddydd, A brenin fardd ein bryniau fydd. Buan y delo dydd genedigaeth y cyfryw fardd, i ganu cariad ei genedl at ei bryniau a'i mynyddau, ac i draethu teimlad calow Cymru am "gyfaredd y wlad.'—S.

[No title]