Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Y Dyfodolm

ynhadledd Oll-Geltaidd.

Y " GENINEN EISTEDDFODOL."

[No title]

News
Cite
Share

Mae tref Caerdydd yn enwog am ei ham- rywiaeth pobloedd. Rhaid i'r swyddogion cyhoeddus yno, nid yn unig ddeall Saesneg a Chymraeg, eithr, hefyd, rhyw ddwsin o ieithoedd y cyfandir agos. Nid rhvfedd fod rhai o Ryddfrydwyr prif dref y Deheudir yn siarad llawer am eu hysbryd" cosmo- politanaidd "-beth by nag yw hyny. Yn ol y rhagolygon diweddaraf, ni fydd Eisteddfod Rhyl yn llwyddiant arianol en- fawr. Y mae'r costau eisoes wedi rhedeg yn dra uchel, ac nid yw'r dref wedi rhoddi yn hael iawn tuagat y mudiad, fel, rhwng pob peth a'u gilydd, bydd eisieu cynulliadau mawr er gwneyd y pwyllgor yn ddigolled. 'Does ond llwyddiant yn aros Eisteddfod Aberpenar yn 1935. Y mae'r Brenin a Thywysogog Cymru wedi dyfod yn noddwyr i'r wyl; ac, ond cael nodded gwyr mawr fel hyn, daw ceiniogach y bobl gyffredin yn llu. Trefnir i gael Mabon yn un o arweinwyr Gwyl 1905, yn Aberpenar. Yn wir, nis gellid cael Eisteddfod yn y Sowth heb Mabon. Hawdd, feallai, fydd cael gwr o'r North i'w hudo i drefn am foment; ond, os am gael llawn hwyl drwy'r dydd, rhaid dibynu am gymorth Mabon. Dywed yr enwog F. C. Gould, fod gwyneb Mr. Lloyd-George yn rhy blaen i'r gwawd- arlunydd wneyd fawr o hono. Pe gwisgai haner spectol fel Chamberlain, neu roddi tro i'w fwstash fel y diweddar Randolph Churchill, gellid gwneyd defnydd priodol wedyn o'i hynodrwydd. F'alle ond gwell genym ni wyneb plaen, a chalon onest, na holl arbenigion yr arlunwyr hyn. Son am ddamweiniau a cholli bywyd sydd o lawer i for-fan yn Nghymru y dyddiau hyn, a'r Sul diweddaf boddodd dau frawd yn y Teifi wrth ymdrochi. Ar eu ffordd i'r Ysgol Sul yr oeddent, a chaed eu cyrph mewn trobwll yn mhen ychydig oriau. Parhau i ymledu y mae'r mudiad ynglyn. a'r Gwrthodiad Goddefol i Ddeddf Addysg, a hysbysir fod yn agos i ddwy fil o wysion wedi eu gwasgaru drwy Bryste, un o'r dyddiau diweddaf yma. 0 dipyn i beth, fe fydd yn rhaid eangu ein llysoedd er mwyn rhoi digon o le i'r deddf-dorwyr. Gwneir parotoadau helaeth gogyfer ag ymweliad Mr. Winston Churchill a Gogledd Cymru. Tua chanol mis Hydref, y mae wedi trefnu i anerch cynulliadau yn Nghaer- narfon, Llandudno a Rhyl.