Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Y Dyfodolm

ynhadledd Oll-Geltaidd.

News
Cite
Share

ynhadledd Oll-Geltaidd. Llwyddiant a brwdfrydedd arbenig oedd nodwedd cyfarfyddiad y pum' cenedl yn Nghymanfa yr Oll-Geltiaid yn Nghaernar- ton yr wythnos hon. Nid oedd y tvwydd yn ffafriol ar y dechreu wylai natur ddagrau wrth adgofio am yr amser, ganrifoedd yn ol, Pan oedd y pum' cenedl ond llwythau un vgenedl dan awyr las Prydain, ond sydd ^fbyn hyn wedi cartrefu yn yr Iwerddon, Cymru, Ucheldir Ysgotland, Llydaw ac Ynys Manaw. Daeth cynrychiolwyr y pum' cen- edl hyn i Gaernarfon, yn eu hamrywiol lyisgoedd o'r hen wr a gwallt llaes a'r dillad amLliwiog a'r kilt" o'r Ucheldir Ysgotaidd i'r Llydawwr a'i glos llydan. Y mae y ^ymry yn canu yn anterth eu hwyl, y Gwyddel yn dawnsio i'r bib gydag ymgoll- iant gwresog, y Gaelics o'r Ysgotland yn siarad eu hiaith yn fan ac yn fuan ac yn adgofio y naill a'r Hall am ganeuon gwerth- fawr eu cenedloedd. Dechreuwyd yr Wyl trwy orymdaith pryd- ferth a golygus o orsaf y rheilffordd i hen Gastell y dre yna adeiladwyd y Lia Cineil (maen y genedl) o bum' rhan maen, tra y chwyfiai banerau y rhanbarthau yn yr awel. Clywyd son am undeb yr il Anglo-Saxon World"; ond prin y gellir ystyried fod y peth eto wedi dod i ffurf cyfarfyddiad os na ystyrir y ddwy Jubilee yn gyfryw. Nid oedd rhwysg milwrol yn undeb a chyfarfyddiad yr Oll-Geltiaid; nid oedd yna gleddyfau ond cleddyf heddwch a thros y cyfan taenai prydferthwch ei haden. Wrth agor y cyfarfod cyntaf, dywedai Arglwydd Castletown, o Upper Ossory, yr hwn sydd yn Wyddel pybyr, fod hen nod- wedd henafol y Celtiaid wedi cael ei ar- ddangos yn Nghymru, sef yr hen groesawiad calon a lletygarwch a nodweddai y cyff. Amcan y Gymanfa oedd dwyn y naill gen- edl i wybod pi beth oedd y llall yn ei wneuthur, a thrwv hyny ddod i gydweith- redu ac hefyd i estyn cynorthwy y naill i'r llall, fel ag y byddai, pe angen, Iwerddon, Cymru, Ucheldir Ysgotland, Llydaw ac Ynys Manaw yn erbyn y byd." Y rheswm na werthfawrogai rhai lenydd. yddiaeth v Celtiaid oadd, nas gallent ei darllen. Ond yr oedd ef yn sicr fod yn haws cael o hyd i Poet Laureate Cymreig nac un Seisnig. Siaradodd y Marquis de L'Estourbillion yn Llydawaeg, a chyfieithiwyd ei araeth mewn geiriau Cymreigaidd braf gan M. Jaffrennon, Llydawr arall. Cafwyd cyfarfodydd dyddorol ar bynciau cenedlaethol, megis mater yr iaith, diwyg a choelhanes, hen donau, ac ymgais i gael un iaith i'w harfer gan y pum' cenedl, ddyddiau Mercher a lau yn cael eu dilyn gan gyng- herdd pum' cenedl; ac ymweliadau a'r wlad oddiamgylch. Dyddorol neillduol oedd clywed rhai o'r pum' rhanbarth yn ymgolli yn nwysder teimlad hen gan "Gwlad fy Nhadau." Yr ysgrifenyddion oeddynt Mr T Gwynn Jones a Mr. Gwyneddon Davies.

Y " GENINEN EISTEDDFODOL."

[No title]