Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

--Aa-f,. I-----iI i---d-Byd…

[No title]

News
Cite
Share

Newydd gychwyn ar daith trwy yr Unol Dalaethau a Canada, mae Mr. David Davies, Llandinam yn bwriadu ymweled ag Aws- tralia cyn y dychwel yn ol. Dengys cynllun Arglwydd Hugh Cecil, o ganiatau i fesurau gael sylw a chymeradwy- aeth y Cynghorau Sirol cyn iddynt ddod i'r Senedd, fod hyd yn oed y Toriaid yn addfedu tuagat Home Riwl. Cymdogaeth yr Wyddfa, yn ol ymchwil- iadau diweddar Mr. J. R. Gethin Jones, De- ganwy, yw y lie mwyaf gwlyb yn Nghymru. Eto, addefa y gellid, ond ymchwilio yn ychwaneg, cael lie gwaeth neu well, yn ol fel y byddo dyn yn barnu, yn Lloegr a Chymru. Yn yr Alban y mae y mynydd uchaf, yn yr Iwerddon y llyn mwyaf, Lloegr sydd gan yr afon fwyaf, ond Cymru (medd ef) am olygfeydd prydferth. Er mai Lloegr, hyd yn hyn, sydd ar y blaen am wlyban- iaeth, creda ef y gall Cymru ei churo gydag ugain modfedd y flwyddyn.

Galon Genesis.

[No title]