Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

--Aa-f,. I-----iI i---d-Byd…

News
Cite
Share

A a f, I -i -d- Byd y$"j "■*=* Gan. tti A Bydd llawer yn cyfeirio eu camrau tua'r Rhyl, yr wythnos nesaf, i'r Eisteddfod. Mae'r corau Cymreig wedi cilio o'r golwg am y tro, a rhwng corau Seisnig y bydd y gornestau bron i gyd. Daw cor cymysg a chor o ferched i'r Wyl o Ynys Manaw, a merch fydd yn eu harwain. Pob llwydd iddi. A barnu oddiwrth y cystadleuwyr eistedd- fodol yn y Deheudir yn ystod y misoedd diweddaf yma, gellir disgwyl nifer fawr o gantorion addawol i golegau cerddorol y ddinas yma yn ystod y gauaf eleni eto. Ar yr 2ofed o'r mis hwn, yn y Royal Academy of Music, y cystadlir am yr ysgol- oriaeth Gymreig a sefydlwyd trwy ymdrech Mr. John Thomas (Pencerdd Gwalia). CERDDORIAETH GYMREIG. Ysgrifenai Cerddor i'r Faner, yr wythnos o'r blaen, ynglyn a cherddoriaeth Gymreig a'r Eis- teddfod Genedlaethol, fel a ganlyn Onid ydyw yn drueni na ddangosid mwy o sel a chenedlgarwch at ganeuon Cymreig gan ein cantorion Cymreig yn yr eisteddfodau, fach a mawr, yn gystal a'n cyngherddau ? Ac edrych ar bethau o safle arweinydd cor, teimlaf nad ydym yn dangos digon o barch i gyfansoddwyr Cymreig, ac nad ydyw ein cantorion cyflogedig yn gwneyd eu rhan i ddwyn caneuon Cymreig i sylw nid yn unig yn Lloegr, ond yn Nghymru hefyd. Ai tybed nad ydyw Dr. Parry, R. S. Hughes, D. Pugh Evans, a llawer o gyfansoddwyr Cymreig galluog sydd yn fyw, wedi cyfan- soddi caneuon teilwng i'w canu yn ein cyng- herddau ? Beiddiwn ddyweyd eu bod, ac yn rhagori ar rai o'r sentimental songs o waith y Saeson. Y peth lleiaf a allai ein cantor- ion cyflogedig ei wneyd ydyw dwyn y can- euon goreu i sylw ein cydgenedl, ac, hefyd, yn Lloegr. Mae ein Seneddwyr yn dadleu ac, erbyn hyn, yn hawlio lie a pharch i bethau Cymreig, a'r peth lleiaf fedrai ein cantorion wneyd gyda'r cyfleusderau beun- yddiol sydd yn agored iddynt fyddai dilyn eu hesiampl. Gwelaf fod pwyllgor Eistedd- fod Rhyl wedi sicrhau mwyafrif o Gymry fel beirniaid a chantorion, ac edrychaf yn mlaen gyda dyddordeb neillduol at y ddau waith Cymraeg sydd i gael eu perfformio am y tro cyntaf, sef 'Caethglud' (Emlyn Evans) nos Fawrth, a 'Job' (David Jenkin) y noson ganlynol (nos Fercher)."

[No title]

Galon Genesis.

[No title]