Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Hyn a'r LiaiL

News
Cite
Share

Hyn a'r LiaiL Y mae Mr. James Travis Jenkins, yr hwn a benodwyd yn Superintendent y Lancashire and Western Sea Fisheries, yn medru Cym- raeg ac yn gallu siarad a physgotwyr y Gogledd. Y mae wedi cael cwrs o brofiad ymarferol ar lanau y Gogledd. Un o'i am- rywiol deitlau yw, Dr.Sc. o Brifysgol Cymru. Y mae pobl Caernarfon, rhwng ofn a blys cael eu hanfarwoli yn llyfrau Marie Colli. Ond ca'nt gysur wrth feddwl ei bod wedi gorphen ysgrifenu The Sorrows of Satan." Ar ol chwilota cwrs, y mae y bardd, lienor a'r cerddor—Mr. Robert Bryan, Caernarfon -wedi cyhoeddi blaenffrwyth ei lafur yn meusydd "Alawon yr holl Genhedloedd." Ceir alawon perthynol i'r pum' cenedl Celt- aidd gyda geiriau gaddo ef, Mr. O. M. Edward, Mr. T. Gwynn Jones ac ereill. Y mae tref Caernarfon, ar ol heppian am rai oesoedd, fel yn dechreu deffro ac yn enill enwogrwydd newydd. Hi yw y dref gyntaf yn Nghymru i gael croesawu cyn- rychiolwyr y pum' cenedl Geltaidd a bydd y darn Cymreig sydd i adeiladu Maen y Genedl" (Lia Cineil) yn aros yn meddiant yr hen dref hyd nes y dryllir Dydd y Byd am byth." Bu y Rhufeiniaid yn ceisio ei galw yn Segontium, a'r Normaniaid yn ceisio ei dychrynu a chastell; ond trech gwlad nac arglwydd, enw Cymreig y bobl sydd wedi glynu wrthi. Yn ol y Law Times, Caernarfon ydyw y porthladd ag sydd yn meddu y gallu eanguf yn y deyrnas. Rhaid talu toll, yn ol dyfarn- iad diweddar y Barnwr Kekewich vn achos Assheton Smith v Owen (dros y Carnarvon Harbour Trust) am bob nwyddau a allforir neu ddadforir o fewn terfynau can' mildir ar lan y mor (high water mark) i awdurdod Porthladd Caernarfon. Y mae Arglwydd Stanley -cadeirydd Pwyllgor Addysg yn Mon—yn selog o blaid dysgu'r Gymraeg yn ein Hysgolion Elfenol. Y mae Dr. Rudolf Imelmann-ysgolhaig gwych o'r Almaen, sydd yn aros yn Mangor -yn dysgu Cymraeg trwy gynorthwy Cym- deithas yr Iaith Gymraeg," a gobeithia ad- dalu ei ddiolchgarwch trwy ei dysgu i ereill. Y mae'n ymddangos fod pawb yn dysgu Cymraeg ond y Cymro Y mae Cymdeithas Ddirwestol Cymru wedi codi protest unfrydol yn erbyn cysylltu hen sefydliad cenedlaethol yr Eisteddfod a diod gadarn. Buasent yn hoffach o weled yr awen yn ddigon cadarn i beidio ymofyn help llaw Sion Heidden. Ei le ef yw y music hall, He mae canu comic yn gofyn peth cryf i'w dreulio. Ond y mae yn rhy hwyr; y mae y pwyllgor wedi amodi a'r gelyn-ddyn ac nis gallant yn awr edifeirio. Sylwant na ddaeth yr un cais yn mlaen am fwthyn dirwestol. Gresynus yw hyn, oher- wydd nid trwy wrthwynebu, ond trwy ddod a peth gwell, y mae gorchfygu'r drwg. Y mae y Parch. Dr. Griffiths, cenhadwr adnabyddus y Methodistiaid Calfinaidd yn Khassia, yr hwn sydd yn awr ar ymweliad &'r wlad hon, a'r hwn sydd wedi ei gynghori i beidio dychwelyd, ar gyfrif ei iechyd, yn debyg o ymgymeryd & gofal yr eglwys Saesneg yn Nhreffynnon, fel olynydd y Parch. J. Ernest Jones. Y mae Miss Pattie Jones, Llynlleifiad, trwy arddangos ei gwaith yn Arddangosfa Llynlleifiad, mewn cysylltiad a'r Welsh In- dustries Association, wedi cael y fraint o gyflenwi y Frenhines a chelf-waith ei Haw. Rhoddodd foddhad neillduol i'w Mawrhydi. Amlygodd y Dywysoges Louise ei dydd- ordeb yn Addysg Cymru, drwy agor bazaar ynglyn ag Ysgol Sirol Abergele. Erys y Dywysoges yn mhalas Mr. H. R. Hughes (arglwydd raglaw swydd Fflint). Y mae Deheudir Cymru yn atdynu llawer o fawrion Lloegr. Yn mysg y rhai fuont yn Llandrindod yn ystod y dyddiau diweddaf oedd, larll Coventry, Iarlles Coventry, Ar- glwyddes Dorothy Baroness Hambro, Ar- glwyddes Cavagnari, Cyrnol Anrhyd. F. C. Morgan, A.S., Syr Walter Smyth a'r Ar- glwyddes Smyth, Syr G. a'r Arglwyddes Ryder, Syr Augustus a'r Arglwyddes Hem- ming, Syr J. Puleston, Llyngesydd Hulton, Major-General Emerson, Arglwyddes Alwyne Compton, a Mr. Frank Edwards, A.S. Lied afler y torwyd llythyrenau ar gofgol- ofn Williams Pantycelyn, yn mynwent Llan- ymddyfri. Ni thorwyd hwy'n ddigon dwfn, a chyn hir bydd yr elfenau wedi eu dileu.

Oddeutu'r Ddinasm

Advertising