Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y Byd a'r Bettws.I

News
Cite
Share

Y Byd a'r Bettws. I Wythnos yr Wyl fawr yw'r wythnos nesaf, diau y ceir cynulliadau boddhaol yn y Rhyl. Mae'r cyfansoddiadau yn dra lliosog eleni leto, ond ofnir na fydd y safon yn rhyw uchel J81Vn. Ni esyd Eisteddfod Rhyl unrhyw berl fcrbenig i gyfoethogi llenyddiaeth ein gwlad. Cyhoeddir cofiant o'r diweddar Barch. Hugh Price Hughes un o'r dyddiau nesaf Yrna. Ysgrifenwyd ef gan ei ferch, ond ^ofiant i'r Saeson ac i'r Wesleyaid fydd yn oenaf. Dydd Llun diweddaf deuwyd o hyd i gyrff y glowyr anffodus a laddwyd yn nglofa newydd Ynysddu rai wythncsau yn ol. Y p-wll erbyn hyn o dan adgyweiriadau, j*pbarheir yn fuan i'w gloddio i'r dyfnder a flrriadwyd ar y cychwyn. "Cadrawd hardd" yw enw gomeddol y "larcwis o Fon—y gwr ieuanc haner gwallgof yna y sonir cymaint am dano y dyddiau rhain Pan yn gwerthu ei nwyddau. Wei, yr oedd o wisgoedd y gwr balch hwn yn cael ei S^erthu yn Petticoat Lane," un o ystrydoedd 21Vadaf Llundain, yr wythnos hon. Parhau i gynyddu y mae yr adran amaeth- yddol o Goleg Prifysgol Bangor. Y mae astudiaeth yn y gangen hon, yn awr, yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi gan y Survey- ors' Institute, a gellir ei hefrydu fel un o'r testynau angenrheidiol i gael y gradd Cym- reig mewn gwyddoniaeth. Y mae corpws yr hen ddaear mor ddyddorol, mor ddyrys, ac mor broffitiol ag yw y corpws dynol; a chyn hir bydd y meddyg tir mor enwog a'r meddyg corph, a'r hen ddull o drin tir yn cael edrych arno fel cwacyddiaeth. Yn Llanuwchllyn, fel arfer, y treulia Mr. O. M. Edwards, M.A., ei wyliau. Edrycha'n llawer gwell nag ydoedd flwyddyn yn ol. Mae symudiad ar droed yn sir Feirinydd i gynull cronfa tuagat godi cofgolofn neu gerf- lun i'r diweddar Ddr. Lewis Edwards yn y Bala. Yn sicr, ni fu Cymro erioed yn teilyngu ei goffa yn fwy na'r doethawr o'r Bala. Gan fod nifer o hen weithwyr wedi methu cael eu Ileoedd yn ol yn Chwarel y Penrhyn gwneir cais yn awr i ffurfio cronfa er sicrhau blwydd-dal i rai o honynt. Bydd yn ddydd- orol i wylied pa faint a rydd eu cyfeillion, sydd wedi cael gwaith, tuagat yr hen wyr. Y darganfyddiad penaf ynglyn a Hynaf- iaethwyr Cymru yn Aberteifi eleni ydoedd, fod pobl gwlad y Cardi yn dra esgeulus o bob creirfa henafol, Nid oedd ganddynt barch i hynafion y wlad, am nad oedd gwerth arianol ynddynt. A yw'r Cardi hefyd wedi mynd yn faterolwr rhonc Y mae y Cymry yn Patagonia wedi dod i'r farn nad yw Deheubarth Affrica yn addas i sefydlu trefedigaeth Gymreig. Erys y dosbarth mwyaf cyfoethog o ym- welwyr yn Abersoch, Nefyn a Morfa Nefyn eleni; ac esgynir yr Eifl a'r Gyrn Ddu gyda'r fath frwdfrydedd a phe baent Alpau yr Ysswisdir. Nid hawdd yw dringo i ben yr olaf gan fod y grug a'r perthi eithin yn drwchus; ond aeth y Parch William Pierce, a'i gwmni o'r Ddinas, i fyny y dydd o'r blaen, a chawsant eu hunain yn nghanol caerau hynod Tre'r Ceiri, ac olion tua 158 o dai. Nid yw yn wybyddus, am a wyddom, pwy a'u hadeiladodd. Dywedir fod y Parch. D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam, wedi codi cof-golofn o farmor gwyn yn Tanycastell, Dolwyddelen, er cof am y diweddar frodyr, y Parchn. John Jones, Talysarn D. Jones, Treborth a W. Jones, America. Y mae yno un yn awr, o gareg las; a'r hen dy y ganwyd y gwroniaid i'w weled. Dywed un a ymdeithia yn y Gorllewin, y bernir fod tua dwy fil a haner o Gymry yn perthyn i Seintiau y Dyddiau Olaf. Sylwa un cyhoeddiad addysgol yn y Brif- ddinas fod cael Prifysgol yn Nghymru wedi rhoi symbyliad cryf i astudiaeth o'r Hebraeg. Bu Dr. Witton Davies, Bangor, yn nghyf- arfodydd y Gymdeithas Brydeinig, ac erys yn awr gyda'r Proffeswr Sayce, Caergrawnt, yr hwn sydd yn enwog am ei ymchwiliadau i hen hanes yr Aifft. Y mae Mrs. E. R. Davies (Rahel o Fon) newydd gyrhaedd Cymru o'r America. Hi yw yr unig Gymraes sydd wedi ei hordeinio i lawn waith y weinidogaeth. Da genym glywed, o Landrindod, fod ein cydwladwr caredig, Mr. Evan Griffiths, Chelsea, a'i chwaer, yn mwynhau eu hunain, ac yn teimlo eu bod yn cael adnewyddiad i'r corph a'r meddwl yno. Y mae cofgolofn Glasynys yn nwylaw y cerfiwr, bron yn barod, ac ar ol Gwyl yr Oll-Geltiaid, yr Eisteddfod Genedlaethol, &c., fe'i dadorchuddir. Mae'r trefniant am y dydd hanesyddol yn llaw Mr. M. T. Morris (Meurig Wyn), o Gaernarfon. Gwahoddir beirdd a llenorion i fod yn bresenol yn nghwrdd y dadorchuddio. Ar waelod y golofn-gareg fe gerfir y Ilinellau cyfriniol hyn o gamp-gerdd yr awenwr ei hun: Sisial, sisial, mae rhyw seiniau—dwsmel Seiniau Gwlad yr Hedd, Er cael gair o Dragwyddoldeb, rho dy glust Wrth ddrws y bedd. Hefyd, y rhai hyn o Gan y Telynor Gobeithio caf delyn yn Ninas yr Hedd, A thelyn i nodi man fechan fy medd. Pe byddai Llywelyn Fawr fyw heddyw meddai I Carn yn Y Genedl, a i fyned i ben y Wyddfa hefo'r tren, ac i wibio o amgylch I Bedd ei Gi' gyda'r pererinion trydanol ? Ai nid naturiol fyddai iddo ofyn- Pa le mae'r ferfa lusg, A'r cawell cario mawn, A'r merlyn mynydd fu'n ein mysg Yn oes y dysg a'r dawn ?" Y Sul diweddaf caed pregeth amserol gan y Parch. D. Wynne Evans, Caer, yn Nghaer- narfon, yn erbyn hap-chwareu yr oes. An- aml, er hyny, y clywir pregethwyr yr oes hon yn condemnio'r pechod ofnadwy hwn. Yr wythnos hon rhoddwyd manylion o flaen Llys y Methdaliadau ynglyn a methiant mab John Bright. Yr oedd y gwr hwn wedi bod yn ymwneyd llawer a'r fasnach 16 yn y Deheudir, ac wedi cael ei hun yn golledwr trwm, fel y bu raid iddo ofyn nodded y llys. Hysbysir am farwolaeth amryw o Gymry adnabyddus yr wythnos hon. Yn eu mysg gellir enwi Syr W. Granville Williams, Bodelwyddan, Fflint, yn ei 55 mlwydd o oedran; y Cyrnol Edward Roberts, Phil- beach Gardens, gwr a hanai o hen deulu yn Mynwy a Mrs. Harford, priod i dirfedd- ianwr mawr yn Ngheredigion, a merch i'r Mr. Raikes hwnw a fu yn bostfeistr cyffredinol un amser. Beth yw ystyr Pan-Celt ?" ymholai gwr o Gardi y dydd o'r blaen. Ateb ei gyfaill- doeth ydoedd, mai crochanaid o Geltiaid cymysg oeddent, rhywbeth tebyg i gawl ei sir, yn gymysgfa blith draphlith yn yr un lie. Gwelwyd amryw o Lundeinwyr yn Mangor yr wythnos ddiweddaf, yn y Sassiwn, ac ni ddo'nt yn ol y tu hwn i ddyddiau'r Steddfod.