Hide Articles List

6 articles on this Page

1 Llyfrau Newyddion.

News
Cite
Share

Llyfrau Newyddion. Y PORTH PRYDFERTH. Dyma enw un o'r llyfrau diweddaraf a gaed o suyddfa y cy- hoeddwyr enwcg Hughes a'i Fab, Gwrecsam, ac o ran diwyg a throad allan y mae yn gyfrol hynod o ddeniadol. Rhagor, amcara iod yn fath o ragredegydd i g)fres o lyfreu ereillo dan yr un teitl, a hyderwn y eyr- liaeddant y nod neuilduol a pmcenir yn y gyfrol yma 0 "geisio enill y Cymro ieuanc i weled ac i garu pob gwir Brydterthwch." Y lienor campus Anthropos sydd ) n gyf- Tifol am ei chynwys, a gwyodom sm dano ei fod bob amser yn rhoddi o ffrw) th goreu ti feddwl i ddarllenwyr ieuanc ei geneal, ac ar y cyfan y mae'r cynwysiad yn hawlio ein hedmygedd a'n carmoliaeth. Casgliad bychan ydyw o nifer o anerchiadau hapus a draddodwyd o bryd i bryd o flaen cymdeith- asau llenyddol ein gwlad, ec wrth hyn gallwn gasglu fod rhai o'r cynulliadau yma wedi cael gwleddoedd gwerth gwrando arnynt. Mae hyd yn oed y syniad o gadw ar glawr rhai o berlau cymdeithasau llenyddol Cymru yn hawlio gair o galondid. Ar lawer adeg yr ydym wedi gwrando areithiau gwerthfawr mewn cyfarfcdydd cyffelyb, ond ni cha neb o'r tu allan i gylch cyfyng y gwrandawyr fantais i fyfyrio uwch eu penau, a chollir ami i drysor rhagorol oherwydd hyny. I ambell i gynulliad hwyrach y byddai clywed traeth- iadau o gynw) s y llyfr yn beth rhy sych, am nad ydynt ar destynau "hwyliog." Mae'n rhaid i'r "darlithydd poblogaidd" heddyw gael math o destyn haner-digrif, rhywbeth a digon o fynd igodi gwen neudynu deij; ryn drwy arwoithio ar deimladau tyner y gwran- dawyr ond yma nis ceir dim o hyny. Traethiadau syml a esyd Anthropos ger bron a phob un o honynt yn Uawn gwersi ac yn britho o'r tlws a'r cain, ac un o anghenion mwyaf y t6 ieuanc heddyw yw ei dysgu i garu y pethau hyn. Bydd darllen y llyfr—a gobeithio y caiff ddarlleniad lawer-yn sicr o wneyd gwell dynion o honom, ac yn gymorth i ni ganfod mai nid peth di-werth a di-sylw yw camrau bywyd yn yr hen fyd yma, ac yn allwedd deg i ni agor y porth prythferth a sonia y gyfrol am dano. Yr unig benod a hoffem ei gadael allan yw'r un a ymdrinia ar awyr llenyddol Cymru Fu. Nid rhan o'r porth prydferth mo honi ac mae agor drws i wawdiaeth ac awgrymiadau am anonestrwydd amheus yn beth anaddas i'w osod o flaen pobl ieuainc ein cenedl. Yr ydym yn disgwyl llawer eto oddiwrth Anthropos, ac yn sicr fe ddylai y llfryn hwn o'i eiddo gael cefnogaeth barod, a chan nad yw'r pris ond swllt, nis gellir cwyno ei fod allan o gyrhaedd y werin." MYFYRION AR FIN AFONYDD. Pan welsom mai pregethwr poblogaidd oedd awdwr cyfrol yndwynyfath enw, cymerasom yn ganiatol mai math o draethodau athrawiaethol prudd- aidd cedd yn ein hares, rhyw fath o fyfyr- dodau a gafodd ein tadau oddiar ygrifbin cynyrchicl yr hen Azariah Zadrach er's talwm. Yr oeddem, yn wir, wedi gosod y llyfryn o'r neilldu i fod yn fath o gydymaith addas i awr o'r pruddglwyf, a phan ddaeth yr adeg troisom iddo am ysbaid fer. Rhyfedd fel y'n siomwyd. Yn lie traethiad trymaidd ar bynciau dyrus y bywyd a ddaw, wele ym- gomiadau dyddan am yr oesau a fu. Hanes a barddoniaeth wedi eu cymlethu i fod yn fath o ddesgrifiad tlws o rai o brif afonydd Ceredigiop. Dyna yw cynwys y llyfryn, ac y mae'r enw yn ei andwyo. Dawr hanesydd i lawer brawddeg o gynwys y gyfrof, ond y bardd a'r myfrdraethwr sydd yma yn fwyaf arbenig, ac y mae cael portreadau prydferth o lanau yr afonydd hyn yn yr hen oesau a fu yn brawf mai nid peth diweddar-nid cynyrch yr ugainfed ganrif yn unig—yw arwriaeth. Mae cenedl gref wedi bod yn Nghymru cyn yn awr, ac mae darllen y penodau hyn, i ymhyf- rydu uwchben hanes brwydrau ac ymdrechion y tadau dros ryddid, yn ysbrydiaeth i ni mewn oes faterol fel hon. A gwyd Cymru'r dyfodol i'r fath sefle a'r hen Gymru gynt yn ei brwydrau dros egwyddorion ? Amser yn unig a ddengys. Ond y mae cael ambell i adgof fel yma o waith y tadau yn sicr o fod yn fath o symbyliad i ninau i wneyd rhywbeth c) ffei) b i'w gweithredoedd hwy. Mae'r Parch. Stanley Jones wedi llwyddo i wneyd cyfrol hapus iawn, ac mae'r desgrifiadau a rydd o'r Teifi a'i dyffryn tlws yn un hapus drcs ben. Pe bae'm i feirniadu yr oil, a ddyvedem yw, mai trueni mawr cedd dwyn allan cyfrol mor rhyddieithol dda ar dtstyn mor brydferth heb yr un darlun ac mewn diwyg mor gyffredin. EASTER MEDITATIONS." (London: A. H. Stockwell). Yn mhlith meibion Cymru a lafuriantyn y pwlpud Seisnig y mae'r Parch W. Edwards, Brentford. Y mae wedi enill parch ei eglwys fel gweinidog da, a pharch y dref lie y gwasanaetha fel dinesydd da. Daw yma ger ein bion fel awdwr Myfyr- dodau'r Pasg: ntu Fuddugoliaeth Aberth" -i gyfieithu teitl ei gyfrol. Y mae'n agos i 100 o dudalenau, wedi ei throi allan yn ddestlus. Cynhwysa 8 o benodau, yn ym- drin a dechreuad Aberth, ag Oen y Pasg, ac ag Aberth Crist) n ei wabanol agweddau. Llytr i'r efrydydd Beiblaidd ydyw, wedi ei ysgrifenu yn gryno ac yn glir ei athraw- iaeth yn iachus, a'i amcan yn efengylaidd. Gwna ymgais deg i esbonio'i bwnc yn ngoleu'r Beibl, ac i gryfhau ffydd y dar- llenydd yn y datguddiad Dwyfol. Gwna les i'r galon a'r meddwl.

YR OLL GELTIAID.

ARDDULL Y GYMRAEG.

[No title]

PWYSIGRWYDD Y TEULU.

Advertising