Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Bwrdd y gCeit.'

News
Cite
Share

Bwrdd y gCeit.' 'Doedd ond y Macwy a Bardd yr Offis ar ol yn Llundain yr wythnos hon. Aeth y gweddill o'r urdd arweinyddol i bedwar ban y byd er ceisio ad. gyfnerthiad i'w cyfansoddiadau erbyn gwaith y gauaf nesaf. A phan ddeallodd y ddau grwt mai hwy oedd ag arwemyddiaeth y cwrdd, yr oedd yn ddigrif eu gweled yn t6rsythu ac yn ceisio ymddangos mai hwy oedd y bodau mwyaf pwysig yn yr holl deyrnas. Ond bu ffrae galed oyn dechreu gwaith y dydd. Mynai'r Bardd mai efe oedd i gael yr arweinyddiaeth am ei fod yn fwy medrus yn y mesurau caethion, ao "roedd hefyd barf ganddo Rhyfedd fel mai rhai hogiau yn meddwl eu bod yn fawr ar ol tyfu barf. Addefodd y Maowy gyda'i wfen ddireidus ei fod yn fwy o ddyn ac fod ei gernau yn fwy blewog na'i eiddo fe, ond 'dyw hyny," meddai, ddim yn un math o barotoad nac yn gymorth i lanw swydd bwysig fel hyn. Mae gan nhad hen fwch gafr a'i gwdyn blew yn fwy na'th eiddo di; ac fe welais asyn Shon y Gof, yr oedd hwnw yn llawn mor gorphol a thi, eto i gyd, ni theimlwn fod y naill na'r llall yn ddigon da i lanw cadair y Gol. pan y mae hwnw ar ei wyliau haf." Goddefodd y Bardd ei gerydd yn dda, a bygyth- iodd y gwnai dalu y pwyth yn ol i'r Maowy pan gai hwnw wrth ei hun ar lan mor y Rhyl ar un o ddydd- iau yr Eisteddfod. Hogyn llawn o fusnes yw'r Macwy bob amser; felly, 'doedd neb yn disgwyl araeth ganddo; ond i wneyd y diffyg i fyny, cafodd y cynulliad gynghorion doeth ganddo ar eu hamrywiol ffaeleddau J. Pearson. Gellwch gael y CELT yn rheolaidd o'r swyddfa am chwe' swllt y flwyddyn, ac os ar ein rhestr wythnosol, anfonir y papyr gyda'r post cyntaf ar ol ei gyhoeddi. W. W. R. Ychydig o weithiau rhyddieithol Jack Glan y Gors sydd ar gael. Mae copian o'r Seren tan Gwmwl" yn llyfrgell Caerdydd ao Aberystwyth, a chyda rhai o'n casglwyr adnabyddus fal Mri. J. H. Davies, Cwrtmawr a Syr John Williams, Barwnig, ond y maent yn dra phrin. Nid oes dim byd ohwil- droadol yn ei weithiau, a phrin y credwn ei fod wedi gorfod ymguddio o'u plegid. T. W. Roberts. Da genym glywed eich bod yn cael amser mor hapus yn ardal y LIan yna, ac yn cael o hyd i ami i drysor hynafiaethol yn yr hen ardal gyfoethog. E. Jones. Y mae eich awgrymiadau yn haeddu sylw. Os nad ydym yn camgymeryd, dyna oedd I bwriad mawr y diweddar Ddr. Parry. Mewn ymgom ag ef, rai blynyddau cyn ei fawr, dywedai y dylai Cymru gael un llyfr canu oenedlaethol; ond druan o hono, torwyd ef i lawr cyn i'r wlad gyduno ag ef yn y bwriad. Mae ein llyfrau canu cynulleidfaol yn wael iawn. Myn pob enwad a cherddor ei ffordd fach gul ei hun o drefnu pob t6n, fel pan geir cy- manfa undebol, y mae'r canu yn druenus o wael. A hyny am fod aelodau y gwahanol enwadau yn dysgu y tonau fel y maent yn eu llyfr hwy. Ofer disgwyl am gael dim progress" oddiwrth gerddorion Cymru yr oes hon. Rosseronian. Diolch i chwi am eich dymuniadau caredig, ac yr oedd clywed eich c&n, Mae'r CELT i fod yn fyw yn lloni'r gwrandawyr yn fawr. Idwal. Na, y mae'r mater yn rhy bersonol. Ni hoffem ddolurio teimladau neb. Tafwyson. Diolch am y ganig, ao mae'n eglur nad yw awyr Llandrindod yn anaddas i ganu ynddi. Ar yr un pryd, rhaid addef fod y testyn yn anaddas. Y mae'r CELT yn rhy swil i gyhoeddi caneuon canmol- iaethus iddo. Gwell ganddo danysgrifiad. Yn ol y Brythonwyr, y mae wedi mynd yn faterolyn noeth.'

I GWOBRAU Y "CELT,"

CYMRY YN NGHOLEG SPURGEON.

[No title]

Advertising