Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Paham mae Masnach yn Wan?

News
Cite
Share

Paham mae Masnach yn Wan? Os nad yw cvrw yn gryfach nag arfer, y mae y flaith fod llai o hono yn caei ei yfed yn brawf eglur fod yr yfwyr yn brin o arian. Ond o ran h)ny, pa eisieu piawf: y mae pavby dyddiau hyn yn cysuro eu hunain gan ddyweyd fod masnach yn wan. Nid yw yn eglur pa gysur sydd i w gael o hyn, os nad ihyw gied ddirgelaidd fod yr awr dyw- yllaf yn agosaf i'r dydd. Llawer o geisio egluro r achos sydd. Y rhyfel yn y Dwyrain, y rhyfel yn Neheubarth Affrica; ysfa'r Cyng- horau trefol a sirol i fod yn hatl ar bwrs y wlad a benthyca arian yn ddiderfyn y cyi- oethogion yn arllwys eu harian am y tegan newydd ond costfawr-y motor car; dim digon o aur i gyfateb i veithgarwch mas- nachol y wlad. Dyna rai o'r rhesymau a roddir. Ond, beth by nag yw yr achos, neu yr achosion, y mae cymdeithas yn bur glaf; a chylchred- iad ei gwaed yn afreolus a gwan. Pan y mae gweithrediadau masnach mor eang, mor gymhlethedig ag yw yn ein hoes ni, nid y ihyfeddod yw eu bod yn dyrysu yn eu plethi ar rai adegau ond fod pethau yn myned yn mlaen cystal. Y mae y cyflog wythnosol sy'n ofynol i fwydo teulu gweithiwr mewn ardal weithfaol yn Ngh) mru wedi teithio yn ami o bellderau y ddaear. Dyddorol iawn fyddai, pe gallai y geiniog ddweyd ei hanes, fel y treiglodd o un cwr i'r wlad i'r llall. Ac y mae'r holl weithrediadau amrywiol, pleth edig, yma yn cael eu dal ynghyd gan un elf en ysprydol-sef cred. Dywedodd Mr. Chesterton, dro yn ol, mai y cyngor inasnachol goreu oedd yr adnod honor Ceisiwch yn gyntaf Deyrnas Dduw a'i gyfiawnder Ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg." Dywediad rhyfedd yn sicr, ar yr olwg gyntaf. Byddai yn S) n iawn gan bobl y Stock Exchange feddwl y gellid cael cyngor mewn adnod ar y ffordd oreu i fasnachu. Yn wir, fe dybir yn bur gyffredin fod crefydd a masnach yn bethau anghyfathrachol ac fod yna gagen- dor anherfynol rhwng pethau bydol a pheth- au ysprydol. Y mae y swn aur ac arian a chopr a geir mewn adroddiadau blynyddol y capelau fel pe yn perthyn i fyd hollol wahanol i fyd crefydd, er ei fod mewn cy- sylltiad anorfod a hwy. Dywed pobl smart y byd fod yn amhosibl cario masnach yn mlaen ar egwyddorion y Bregeth ar y Myn- ydd, rhan o ba un yw yr adnod dan sylw. Y mae Mr. Chesterton yn dyweyd nid yn unig y dylid peidio anghotio yr adnod wrth fas- nachu ond-ac yn hyn y mae ei newydd-deb -nad yw yn ddichonadwy cario masnach yn mlaen ar yr un egwyddor arall heblaw yr un sydd yn yr adnod hon. Y cwestiwn yw, a yw yn bosibl cael cyfoeth, anrhydedd, clod, parch a phethau goreu a blasusaf y byd hwn heb i ryw raddau, yn gyntaf ac yn brif beth, geisio cyfiawnder teyrnas nefoedd. Y mae llawer yn ceisio; llawer o short cuts y mae meddwl dyn yn ei gynllunio i gael cyfoeth a pharch. Rhyfeddol mor ddeheuig yw y cynllwyn a'r cynjlunio sydd, ond pan y dygir y bobl hyn o flaen eu gwell methu wna eu cynlluniau a sef) 11. Er mawr waeddi a churo tympanau, nis gellir cael enwogrwydd ond trwy wir wrhydri. Gwir y gellir cael lliw a lledrith enwogrwydd, ond nid yw y dyn yn teimlo ei fod yn enwog; nid yw yn enwogrwydd iddo ef. Paham ynte, y mae masnach yn wkn ? Digon tebyg mai y rheswm yw nad ydyw masnach yn ddigon y sprydol; o achos yr ysprydol yw y peth byw hwnw ag sydd yn cydio mater wrth fater a'i wneyd yn enaid byw, iach a chryf. Y mae eisieu ysprydoli masnach eisieu rhoi unwaith eto'n ngweith- rediadau masnachol dynion fiydd, a gobaith a chariad, fel y ca' dyn lie bynag y bo, beth bynag a wna, y boddhad dwyfol hwnw a elwir crefydd. Nid tylodi sydd yn rhoi ing ac nid cyfoeth sydd yn rhoi cysur ond y rhywbeth- hwnw, beth bynag ei gehir-x mae geiriau yn pallu ei ddesgr,fio-gelviir, ef weithiau teyrnas nefoedd, pob gair ddaw o enau Duw, enaid, dyledswydd—ond beth by nag ei g elwir,—y peth hwnw sy'n cydio )n nhanau enaid dyn ac yn rhoi cyv»air a cherdd iddynt. Yn lie h)n, gwelir dyn ag sycd yn meddu gallu naturiol at fod yn grefftwr yn gadael llwybr ei ddyledswydd ac yn troi yn fasnachwr heb )r un rheswm ond fod mwy o arian i'w wneyd, fe dybia, yn y c) feiriad hwnw. Gwelir, hefyd, fechgyn hoffus yn cael eu gwthio i fod yn fcddyg, cyfreithiwr neu rywbeth arall nad yw eu calon ddim yn y peth, am yr un rheswm ond eu bod, le dybir, yn alwedigaethau pur respectable. Y canlymad yw, y mae enaid y bechgyn yn marw a'u corph yn myned yn ysglyfaeth i ddioi gadarn. Yr enaid yw enaid masnach, a phan fo hwnw farw, er i'r corph fod yn fyw, fe fydd marw masnach. Fe ddengys Shakespere fod pob trychineb corphorol a thymhorol yn dechreu yn yr enaid. Cyn i fraich gadarn Othelo ddi- ffrwytho, yr oedd ei enaid wedi marw. Y mae ofn yn lladd Cassius, ac yna efe a anafa yn farwol ei gorph a'i gleddyt. Ac heddyw, ddydd ar ol dydd, y mae y cri torcaIonus yn cael ei gyhoeddi gan y trueiniaid sydd yn dianc trwy y Tafw) s, nad yw bywyd yn werth ei fyw. Gwrthryfelant yn erbyn y bydol- rwydd sydd yn gwerthu yr enaid am gyf- oeth, mewn byd ac eglwys.

GWASANAETH SABOTHOL CYMREIG…

[No title]