Hide Articles List

2 articles on this Page

Qdsieufu'r DdSnasm

News
Cite
Share

Qdsieufu'r DdSnasm Da genym ddeall fod y Parch. J. E. Davies, Jewin, yn gwella yn rhagorol, ac fod awelon iachus dyffryn y Tywi yn barod wedi gwneyd II dyn newydd o hono. Y mae ein cynulleidfaoedd eisoes yn dech- reu newid eu gwedd. Mae gwynebau iachus glan y mor wedi cymeryd lie y gwynebau teneuon Llundeinig. Daw'r newyddion o lanau mor Cymru mai tywydd cymysglyd geir yno yn awr. Gwlaw a tharanau vw'r adroddiadau er's rhai dyddiau bellach. Ónd na foed i neb gwyno, y mae yr haf wedi ad-enill ei gymeriad am eleni beth bynag. Oherwydd diweddarwch y tymor, nid aiff llawer o'r dinasyddion i 'Steddfod fawr Rhyl. Mae'r Finsent wedi gorfoi gohirio adeg ei seibiant yntau eleni, a bydd yn barod i awr dawel ar laa yr heli wedi gorphen a sere- moniau yr Orsedd yn Rhyl. Er hyny, y mae'r beirniaid Llundeinig yn brysur wrth eu gwaith y dyddiau hyn, a gobeithiant fod yn barod erbyn agoriad yr Wyl. Clywsom fod Elphin eisoes o dan law y meddyg ar ol darllen rhyw ddwsin o ddramas," a chan fod rhagor ar ol, ofnid yr aethai o'i hwyl vn lan. Ni synem ei weled ar ben Primrose Hill y Sul nesaf yn ceisio actio rhai o'r cymeriadau y mae wedi bod yn darllen am danynt yn ddiweddar. Mae Elfed, hefyd, wedi mynd i ymddangos yn fyfyriol iawn. Ceisia glorianu rhwng ymgeiswyr y Gadair, a 'does dim gair i'w glywed oddiar ei wefus heb ei fod yn ym- wneyd a'r hyppyntau a'r cyhydeddau neu'r draws o gysswllt ewinog. 0 ie, gwaith pleserus yw beirniadu. Gwelsom Mr. Llewelyn Williams y dydd o'r blaen fraich-yn-mraich a un o nofelwyr mawr y dydd yn ardal Aberteifi, a deallwyd mai ceisio awgrymiadau oedd pa safon i osod ar nofelwyr nesaf Cymru. Yr oedd un o hogiau y golf links wrth ei sawdl yn dwyn pecyn mawr ar ei gefn, a chredai pawb mai baich o ffyn y golfwyr oedd ganddo ond, erbyn ymholi, caed allan mai storïau Eis- teddfod Rhyl oeddent, a'r rhai hyny yn dra llawn o arwyr i gyd. Pa un ai oherwydd ei fod wedi darllen y nofelau newydd hyn, neu ynte yn siomedig am lacrwydd arwrol ynddynt caed Mr. Wil- liams ei hun yn actio yr arwr tranoeth yn un o heolydd tref Aberteifi. Pan ar ganol y ffordd, wele gerbyd yn rhedeg yn orwyllt. 'Roedd y ceffyl wedi dychrynu yn arw, a dwy foneddiges yn y cerbyd mewn perygl o'i heinioes. Yn sydyn, wele Mr. Williams yn neidio allan ac yn gafaelu yn y ceffyl gan ei atal ar ei yrfa wyllt. Rhaid i Mr. Williams vsgrifenu nofel ar yr amgylch- iad anghyffredin hyn ei hun Ar ol ei ymweliad a Chymru, y mae Esgob Llundain wedi gwella llawer. Cyn myned yno yr oedd wedi colli ei gwsg yn llwyr, ond y mae yn abl i gael hun dawel yn awr. Trefnir priodas Mr. J. Arthur Price, bar- gyfreithiwr, Lincoln's Inn, a Miss Emily Foster o Hengwm, Dyffryn, merch y di- weddar Major M. Foster, J.P., o Egryn Abbey i gymeryd lie ar y 27ain o Fedi, yn Eglwys Llanaber, Abermaw. Y mae Mr. Arthur Price yn adnabyddus iawn i Gymru y ddinas id ysgolhaig Cymreig gwych a chenedlaetholwr grymus, a phan ddaw yr amser fe fydd y ddau yn medi llongyfarch- iadau lawer a chalonog. Mewn cysylltiad a'r ganmoliaeth Fren- hinol i Mr. Trevor Evans, yr hwn gafodd ei anrhydeddu yn bersonol gan y Brenin a'r Frenhines ar fwrdd y Royal Yacht, erys geiriau caredig y Frenhine* —I never heard a better tenor "-yn gompliment parhaol i Gymru gerddorol. Mae y Frenhines, fel y gwybyddir, yn gerddores o'r radd flaenaf, ac fe fydd barn ei Mawrhydi am y tenor Cymreig disglaer yn beth i'w gofio. Drwg genym ddeall fod yr Hybarch J. Williams, rheithor Penegies, yn analluog i wasanaethu yr Eglwys, ar ol oes hynod weithgar yn ngwinllan ei Ar^l vydd, oher- wydd henaint a methiant. B11 am yspaid hir yn weinid )g ff Id IllWrl, haelfrydig a haff gan bawb o'r plwyfolion. Gwasanaethodd am ddeng mlynedl ar hugain ynglyn a'r Genhad leth Gymraig yn Llundain, ac ym. adavvodd a'r 8-ifdimn, H/draf 1883. CAN BRIODASOL. Mr. David Roberta, Wesbbouraa Grove, W. (gynt o Llanrwst, air Ddinbych) a Miss Mary Pierce, St. David's Cottage, Padliugton, W. (gynt o Llanfihangel Geneu'r Glyn, Oeredigioa. 3 Mae'r boreu llawen wedi dod, Boreu-gwyn y briodas; A rhaid i'r awen farddol fod Ar d&n, mae'n destyn addas. Mae llysoedd anian heddyw'n lan, A'r blodau hardd yn gwenu; Mae cor y llwyn yn lion eu can Ar ddydd priodas Mari. 0 D limbych draw edrychodd serch I -,orlan Ceredigion A K^valodd yno dyner ferch, Un hoff wrth fodd ei galon. Un dydd sisialai ef yn lion Y'nghlust y gwridog rian; s Y mae rhyw drymder yn fy mron, Nid da bod dyn ei hunan.' Pan byddai Mari'n canu can, 'Roedd ysbryd pawb yn lloni; Ond calon Dafydd oedd ar d&n, 0 gariad at ei Fari. Yn nhref Caerludd aeth serch yn filam, Dwy fynwes llawn o gariad; Dydd cysegredig gwyn dinam Yw hwn, yn nodi'r uniad. Boed serob y mab, a serch y ferch, Bob dydd yn tyfu'n fwy-fwy; Yn grwn, heb fwlch, yn glaer heb erch, A phur fel aur y fodrwy. Eiddunwn iddynt bob mwynhad, Cysuron byd yn helaeth Tywyned arnynt nefawl rad, A gwenau teg rhagluniaeth. Caerludd. Gwyddfryn. Y mae gan y Llydawiaid sydd yn Paris- fel Cymry y Brifdiinas, eu cymdeithas len- yddol a gwladgarol a elwir J abadas," yr hon a wobrwya y cynyrchion goreu ac a'u cyhoedda yn eu cylchgraym,BretonedParis. Pan oedd y tren rhad o Lnndain i Dde- heudir Cymru ar ddydd Gwyl y Bane di- weddaf yn dychwelyd nos Lun trwy Gaer- dydd, digwyddodd hen Gymro fod yn yr orsaf. Pan welodd ddau gerbyd hir yn llawn o ddynion ieuainc, daeth i'r pender- fyniad mai perth yn yr oeddyntigor meibion Llundain oedd wedi bod yn cystadlu yn Nghaerfyrddin ac Abertawe. Mentrodd siarad a rhai o honynt, a buan y sylwodd fod un o honynt yn siarad Cymraeg prydferth anarferol—yr iaith yn bur a'r parabhad yn ystwyth a diledrith; a bu mor hyf a gofyn iddo yn mha ran o Gymru yr oedd ef wedi cael ei eni a'i fagu. O," meddai yntau, '• Ffrancwr wyf fi, wedi fy ngeni a'm magu yn Ffrainc; Kietrex Dumais yw fy enw ond am fy mod yn ymdroi cymaint yn mysg Cymry, yr wyf wedi mabwysiadu y cyfenw Thomas." Wei, beth sy'n cyfrif eich bod yn siarad Cymraeg mor dda ?" oedd gofyn- iad nesaf y gwr o Gaerdydd. O," atebai yntau, bu'm am flynyddau'n byw yn nhref Bangor ac fe syrthiais mewn cariad a'ch hiaith chwi, a dysgais hi yn berffaith." Nid oedd amser i holi rhagor ar y Ffrengwr- Gymro yn unig cafwyd allan mai i eglwys y Bedyddwyr yn Castle Street yr oedd yn perthyn. Aeth y tren i ffwrdd, ac aeth y [ I Cymro airef i'w wel/ i freuilw/dio gweled estroniaid yn euro y CymlÝ ac yn dal y svydd3gietha 1 mv/af eiillfawr ya y wlad am eu b) I yn rhigirach ysgMisiJio.i Cyrn- reig. Ieuaactyd Cyairu, a ydych ya fodi- Ion i hyay gymayd He ? Mr. JDhrt Wllliln;, Ab;rd/fi 1 Miirick Square, S.F-Dirn.ii-i Me-i. William? a'r teulu gyfl vyn) en diolcti?ic^cti diffaacit i'r holt gyfeilli)a s/i l wili aml/gn ea cvd- yaileiailal 1 hw y i eu pr jfeiigiath sy lya a c.iw--rw, a'i gai I m nasgillaat gylnab^d ya b,-rso-i)l y nifer five o lythyrau a anfo.iw/d yn giredi^ at/nt. 0 ER OOF SEROHOG Amydiweddar Thorax Williams, Castle Street, E., yr hwn a hunodd nos Sidwra, Awst 20fed, ac a or- weddodd Awst 25 un, yn Naahaad. Naturiol yw doigryn o alar, O'r galon dyneraf, a byw, Mae'n rhywbeth naturiol a llachar, Fel gwlithyn anfonwyd gan Dduw. Y Cymrawd caredig a. hunodd, Yn Iesu, yr hunodd efe, Tra ar yr hen ddaear fe droediodd Ei gamranau yn union i'r ne'. Canolbwynt dirgelion ei galon Oedd lesu, a'i Groes iddo ef, Ac heddyw esboniwyd dirgelion Ail-fywyd ya nghanol y nef. 'Roedd deddf cysylltiadau daearol Yn denu dynoliaeth i lawr, Deddf uwch oedd yn llaw yr Anfeidrol, Mwynhau ei chysuron wna'n awr. Y nef fyddo'n nodded i'r teulu, Y weddw a'r plant sydd ar ol, Oer loes ydoedd colli'r pan-teulu Ond Ceidwad a'i ceidw mewn col; Yn nghanol ei fywyd defnyddiol Ehedodd ef adref at Dduw, Gan adael ei Eden ddaearol Am Eden dragwyddol i fyw. DARON JONES.

Advertising