Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

PROVINCIAL PAPERS IN LONDON.

Y Byd a'r Bettws.

News
Cite
Share

Y Byd a'r Bettws. Penderfynwyd yn Nghymanfa Ddirwe sto Gwynedd i wneyd ymdrech at gael cau y tafarnau yn gynt yn Ngogledd Cymru. Y mae dau o ysgolheigion gwych yr Almaen ar ymweliad a Gogledd Cymru ar hyn o bryd, fe ddywedir. Fe gollodd Hynafiaethwyr Cymru bwynt wrth beidio gwahodd Mr. Chamberlain i'w cynulliadau eleni. Buasai yn werth ei adgoffa o'r hen ddydd- iau gynt, hyd yn oed ynglyn a'r hen fywyd syml Cymreig o dan y deddfau yd. Mae Morien wedi bod yn curo yn arw ar Mr. Willis Bund am iddo feiddio egluro rhai enwau Cymreig. Da iawn Morien. Y mae rhyw rith o synwyr yn eich egluriadau ch wi; ond am y gwyr dierth yma- wel, dyn a'n helpo wir. Yn ol adroddiad yr Hynafiaethwyr, gall- esid meddwl fod ardal Aberteifi yn llawn o'r meini ogam yna. Cerfio eu henwau ar gerig, ac nid yn nghalonau eu cyd-ddynion, gallem feddwl, oedd prif nodwedd y Cardis yn yr oesau gynt. Fe dorodd y Proffeswr Anwyl gymeriad y Cardi yn chwilfriw y dydd o'r blaen. Yr oeddem yn credu fod ganddo beth parch at goffa y marw ond dangosodd y doeth- awr o Aberystwyth ei fod yn defnyddio beddfaen pwysig yn bost llidiart yn ardal Aberteifi. Mae"mynd"ar y gweithfeydd gl6 yn awr, a dylai pobl y deheubarth fod yn llawen. Ar waethaf pob cri gwrthwynebol gan Mr. Chamberlain a'i lu, y mae masnach yn myned ar gynydd yn y Deheudir. Yn ychwanegol at gynhauaf da i'r amaeth- wyr yn Ngogledd Cymru, y mae gwyr glan y mor wedi cael tymor eniUfawr iawn hefyd. Yn Aberystwyth, Bermo, Pwllheli, Conwy a lleoedd llai, yr oedd yn amhosibl cael gwely i ddieithriaid gan mor llawn oedd pob ty. Mewn rhai o'r llanerchau, bu raid troi cerbydau y rheilffordd yn drifan dros nos i lawer o'r ymwelwyr. Mae y rheilffordd ysgafn o Aberystwyth i Bont y Gwr Drwg wedi cael tymor prysur iawn, a chluda ganoedd o ymwelwyr yno yn barhaus; ac am reilffordd yr Wyddfa> ni fu'r un tymor yn fwy bywiog. 1, WI Y mae rhai beirdd yn Llundain ar waetha y mwg a'r twrw yma. Yn rhifyn Eistedd- fodol o'r Geninen, ceir pryddest dra hapus o waith y Parch. J. Garnon Owen, Tottenham,. ynghyd ag amryw englynion o waith yr awenbarod Llywelyn." Beth amser yn ol, bu son fod llwch aur wedi ei ddarganfod yn ngenau defaid o Awstralia; ac yn awr ysgrifena cigydd o Benrhyndeudraeth i'r papyrau Cymreig i ddyweyd fod yr un peth gwerthfawr i'w weled yn ngenau defaid Meirion. Ar yr un pryd, nid aur yw pobpeth melyn. Y mae" Mary Davies a Mynyddog" Llydaw, sef M. a Mme. Botrel i ymddangos yn nghyngherdd yr 011-Geltiaid diwedd y mis hwn yn Nghaernarfon. Y mae eu deu- awd, "Pa le Petit Doigt"(gyda bys bach) yn codi hwyl mawr ymysg y Llydawiaid. Y mae pawb sydd yn rhvwun, ar lkn y Fenai y dyddiau hyn. Heblaw Uu yr 011- Geltiaid o bob llun a lliw, y mae Baden Powell, Kubelik ac Arthur Roberts wedi gweled mwg ceginau M6n," ac nid y lleiaf o honynt, Little Mary." Y mae Mr. O. M. Edwards yn dwyn allan y ddegfed o gyfrolau bychain y clasuron Cymreig; y gyfrol bresenol yw gweithiau Robert Owen, Abermaw, yr hwn a gladd- wyd yn 1885 yn Victoria, Awstralia. Bu farw o'r darfodedigaeth pan ond yn ugain oed. Erys Mr. Joseph Hocking, y nofelydd. Seisnig, mewn ffermdy yn agos i Forfa Nefyn ac ar foreu Sul aeth i glywed ped- war o Gymry yn ceisio cynal gwasanaeth Seisnig. Methiant truenus ydoedd. Aeth y nos i'r un lie, ac, er na ddeall ef Gymraeg, gyrodd canu Pen Calfaria ef i grwydro yn min yr hwyr gyda natur; pan oedd y gwynt wedi myned i orphwys, a'r adar, yr ymlusgiaid a'r blodau wedi pendympian;. pan a'i goleuni y bythynod allan un ar ol y llall, tra y safai y mynyddoedd fel gwylwyr o'u deutu, ac yn y tawelwch dychmygai glywed c6r y nef yn canu Pen Calfaria Nac aed hwnw byth o'm cof.