Hide Articles List

6 articles on this Page

Y Cynghor Rhyddlrydlg Cenedlaethol…

[No title]

Bwrdd y 6 Celt.9

News
Cite
Share

Bwrdd y 6 Celt.9 Cyn ymwahanu am y gwyliau daeth torf barchus ynghyd o gylch y Bwrdd, yn benaf er llongyfarch y Gol. a'r perobenogion ar y trefniadau newydd oedd- ent wedi wneyd erbyr y gauaf dyfodol. Hysbysodd y doethawr iddynt fod y rhagolygon yn galonogol iawn ac fod y Cymry yn unfarn o blaid cefnogi y mudiad newydd. Nid heb ystyriaeth fanwl oedd y cyfan wedi ei benderfynu ac 'roedd gweled parod- rwydd y fath nifer o ysgrifenwyr i lanw colofnau y papyr o wythnos i wythnos yn hwylusu y trefniadau yn ddirfawr. Yn ychwanegol at y dysgedigion sydd eisoes wedi addaw, byddai gohebwyr lleol yn mhob ardal trwy Gymru yn gyru eu nodiadau ami ar brif symudiadau y genedl. Ameenid rhoddi crynhodeb byr a chywir o bob digwyddiad fyd4 yn ymwneyd A chenedl y Cymry yn ogystal a chrybwylliadau am blant Gwalia yn mhob rban o ddagar. Mae gan y CELT lu o gyfeillion yn mhob llan a phentref, ac ma.e ei dderbynwyr cyson o wledydd tramor yn addaw eu newyddion arbenig i ni eto o dro i dro. "I chwi'r gwleidyddwyr" ebai'r cadeirydd gan anerch yr aelodau Seneddol oeddent yn bresenol. Y mae genym, fel cenedl, i ddioloh am eich gwaith rhagorol tros ein gwlad yn Nhy'r Gleber yn ystod y tymor a aeth heibio. Boed i chwi gael pob mwyn- had o'r seibiant a'r heddwch ydych wedi gyflawn enill trwy eich Ilafur caled. Yr ydych o'r diwedd wedi dysgu pregeth fawr y CETT ar hyd y deng mlynedd diweddaf yma trwy uno eich rhengoedd i weithio fel un gwr tros hawliau arbenig Cymru. Caed prawf rhagorol eisoes o beth ellir wneyd pan gymerwch eich harwain gan Gymro a wyr beth yw ein cenhadaeth a'n gofynion fel pobl. Pan yr ym- gynullwch eto i ofalu am hawliau Cymru, hyderaf y bydd i chwi anghofio pob man wahaniaethau a chladdu pob rhithin o eiddigedd y naill at lwyddiant y llall, a pharhau i gydweithio er dyrchafiad cyffred- inol ein bywyd cenedlaethol. Cofiwch mai trwy godi yr hen wlad y mae i chwi esgyn grisiau anhydedd hefyd, ac na chyrhaedda yr un o honoch binacl a chlod drwy barhau i fychanu y rhai a gydnabyddir heddyw fel goreuwyr ein pobl. Undeb a theyrngar- wch a lwyddant yn y pen draw, am hyny boed i ohwi gofio hyn yn eich cynhadleddau dyfodol ac yn y brwydrau sydd raid i chwi eu hymladd yn y man." Ar hyn ymadawodd y llu a chaed y gweddill o'r cyfarfod yn gwrdd busnes "-ys dywed rhagleni'r cymanfaoedd enwadol. S. B. John. Yr ydym wedi danfon y papyr yn ol eich cais, a gobeithio y cewch wyliau hapus yn nhawelwch y mor yna. W. Davies. Nid oes dim newydd-deb yn eich ysgrif Tro i Landrindod." Gwir yr enwch amryw o wyr Llundain oeddent yno yr wythnos ddiweddaf, ond ai nid oedd rhywbeth gwerth eich sylw yno heblaw gwyr mawr y ddinas yma ? Hwyrach fod y tywydd poeth a gywsoch yno wedi gwneyd pawb yn rhy ddiog i siarad am neb na dim rhagor na phasio barn am wisgoedd y rhianod a 'cigars' y pregeth- wyr ifenc. W. M. (Kentish Town). Buasai'n dda genym gy- hoeddi eich llythyr onibae ei fod mor anghywir o ran ffeithiau. Hwyrach mai wedi darllen areithiau yr esgobion Cymreig ydych yn unig, ac er mai esgobion ydynt ni charem ddyweyd eu bod bob amser yn gywir mewn ffeithiau. Mae gwyr mawr dysgedig yn gwisgo spectol rhagfarn a phlaid yn ami. Astudiwch yr ochr arall o'r pwnc a chewch fod llawer i ddyweyd dros gynllun Mr. Lloyd-George. Edmygydd. Nid oeddem am friwio teimladau neb o honoch chwi wyr y gan, pan yn condemnio gwobrau mawr i gorau mewn eisteddfod. Os mai gwelJa canu a chodi safon cerddoriaeth yn ein gwlad yw amcanion y cystadleuaethau hyn, yna fe ddylai fod digon o gariad ynoch at y gwaith heb- law'r swyn o enill gwobr fawr yn y fargen. 0 dipyn i beth, fe ddaw'r un ysbryd i fewn i'r gor- nestau canu yma ag a welir yn awr ar feusydd y rhedegfa yn Lloegr. M. Lloyd, Daeth yr arian i law yn ddiogel, a diolch am eich cefnogaeth ffyddlon. Haner coron am ddimeu. O'r wlad y daw'r nodion goreu ar gerdyn post bob wythnos. Mae bechgyn a merched y ddinas ar eu gwyliau, ac felly yn abl i anfon eu nodiadau yn hwyliog a di-lol. Yr wyth- nos hon caed y nodyn goreu oddiwrth Mr. J. Row- lands, Melin Gerrig, Machynlleth, i'r hwn yr an. fonwyd yr haner ooron. GWOBRAU Y "CELT." HANER-CORON AM DDIMEU. Rhydd y Gol. haner-coron bob wythnos am y cerdyn post a gynwys yr hanesyn Cymreig goreu, addas i golofn Oddeutu'r Ddinas." Rhaid i'r cardiau ddod i law erbyn boreu dydd Mercher yn yr wythnos, ao enw a chyfeiriad yr anfonydd ar bob un. Cyfeirier y cardiau Gol. Oddeutu'r Ddinas," 211, Gray's Inn Road, W.C. ADGOFION Y GWYLIAU.—GWOBR. Erbyn diwedd mis Awst bydd y nifer liosocaf o wyr y CELT wedi bod ar eu gwyliau yn Nghymru. Er mwyn siorhau rhai o'u hadgofion am y gwyliau, ac enyn ynddynt ddyddordeb yn y lleoedd a fynychir ganddynt, rhoir gwobr o haner gini am yr ysgrif oreu o Adgofion am Wyliau Haf 1904. Dylai'r ysgrif fod o fewn tua dwy golofn o'r CELT ac yn ddesgrifiadol o'r lie neu'r lleoedd a ymwelwyd a hwy, ynghyd a hanes digwyddiadau o ddyddoideb" i Gymry Llundain. Er mwyn rhoddi mantais i'r cystadleuwyr, canift- teir hyd y lOfed o Fedi i anfon yr ysgrifau i fewn* Noder ar yr amlen Adgofion," a chyfeirier hwynt 01. y CELT, 211, Gray's Inn Road, W.C.

BLODWEN.

EISTEDDFOD Y RHYL.

[No title]