Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Y Cynghor Rhyddlrydlg Cenedlaethol…

News
Cite
Share

Y Cynghor Rhyddlrydlg Cenedlaethol Cymreig. I'R GAD I'R GAD I'R GAD GYDWLADWYR,—Mae gweitbrediadau di- weddar Ty'r Cyffredin wedi profi yn ddiam- beuol fod yn mryd y Llywodraeth i osod ar wAr Cymru iau ormesol sydd wedi ei chyn- llunio gan yr offeiriaid. Y mae eu pender- fyniad i dreisio yr hen wlad yn gymaint, fel y maent wedi damsang ar freiniau'r Senedd yn y fath fodd digwilydd fel ag i orfodi yr boll blaid Ryddfrydig, o dan y gwr Anrhyd- eddus H. H. Asquith, A.S., i ymdaith allan o'r Senedd-dy fel gwrthdystiad cyhoeddus- peth na ddigwyddodd erioed o'r blaen yn hanes y Senedd. Gweinyddodd siroedd Cymru y Ddeddf Addysg newydd yn ol y llythyren fanylaf. Profodd hyny i'r Llywodraeth nad oedd y aldeddf yn debygol o gyrhaedd amcan eu meistri offeiriadol; ac, o ganlyniad dygwyd i fewn Fesur Gorfodol-cyntaf yn hanes Cymru ddiweddar; ac erbyn hyn y mae y mesur yn ddeddf, a'r Llywodraeth heb gym- aint a rhoi cyfle i'w ddadleu. Deddf ydyw sydd yn dwyn oddiar y werin bob peth tebyg o ddiogelu addysg anenwadol effeithiol, ) n unol a dyhead dyfnaf Cymru. Mae'r Llywodraeth wedi cynyg at roi mewn grym ddymuniadau'r esgobion a'r offeiriaid, hyd yn oed lie y mae'r dymun- iadau hyny yn amlwg wrthwynebol i les y plant, a lies uchaf gwir addysg. A oddefwn ni hyn yn ddistaw ? Nid oes ond un atebiad yr ydym mor bell wedi gorchfygu y Llywodraeth ar dir Deddf Addysg 1902 ac oni chawn ni yn awr dderbyn yr her newydd hon, ac ymladd y frwydr hyd ei diwedd ? Golyga hyn lafur caled, llawer o aberth, undeb perffaith, ac ymlyniad ffyddlon i'r arweinwyr a amlinell- odd y cynlluniau sydd wedi dyrysu cyn- llwynion awdwyr y Ddeddf Addysg, ac sydd eto yr un mor ddiwyd, a chyda'r un argoel- ion am fuddugoliaeth, yn tynu allan gyn- lluniau y frwydr sydd o'n blaen. Mae ein llywydd—Mr. D. Lloyd-George, A.S.-eisoes wedi casglu dros bum' cant o bunau at fil punau y Drysorfa Ymosodol; ac yn awr yr ydym yn deisyf ar i bob carwr rhyddid yn Nghymru, ac yn mhob gwlad arall hefyd, nid yn unig i wneyd y swm uchod i fyny, ond i gyfranu yn helaeth ac ar unwaith, tuagat gario allan yr ymgyrch hon yn egniol a llwyddianus. Cofier, hefyd, ein bod drwy hyn yn ym- ladd yn ail-osodiad treth yr yd, gwaddoliad y tafarnwr, ac adferiad caethwasiaeth Bry- deinig yn Affrica. Anfoner cyfraniadau i EDWARD THOMAS (Cochfarf), Cadeirydd y Pwyllgor Cenedlaethol, Caerdydd. C. E. BREESE, Morfa Lodge, Porthmadog (trysorydd). WALTER H. HUGHES, Pontypool (ysgrifenydd).

[No title]

Bwrdd y 6 Celt.9

BLODWEN.

EISTEDDFOD Y RHYL.

[No title]