Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Atal y Gormeswyr.

IGADAEL CYNLAS.

Dirywio'r Eisteddfod.

GWYL GENEDLAETHOL RHYL.

DAMWAIN MEWN GLOFA.

News
Cite
Share

DAMWAIN MEWN GLOFA. Bu damwain alaethus mewn glofa new- ydd yn ardal Ynysddu, Mynwy, ddydd Sad- wrn diweddaf. Er ys peth amser, y mae cwmni newydd yn ceisio dod o hyd i'r wythien 16 gyfoethog sydd odditan yr ardal, ac wedi bod yn tyllu i'r gwaelodion. Yr oeddent wedi cyrhaedd y dyfnder o 17° 0 latheni gyda'r gwaith, ac yn gofalu fod mur cadarn yn cael ei adeiladu i'r pwll fel y torent ef i lawr; ond oherwydd y gwlaw a gaed ychydig ddvddiau yn ol, credir fod y ddaear wedi rhyddhau llawer, a'r canlyniad fu i ddarn o ochr y shift syrthio i lawr rhyw 'chydig funydau cyn chwech o'r gloch ddydd Sadwrn, a chladdu y fintai o weithwyr oedd- ent yn prysur barotoi i osod eu hoffer o'r neilldu am y dydd. Llwyddodd un o'r gweithwyr gael ei gludo i ben y pwll a rhoddi yr hanes, a thyrodd llu o ddwylav caredig at y genau er ceisio gwneyd a allent er achub y trueiniiiid ar y gwaelod. Yr oedd 17 wedi eu cuddio, ac aed ati ar fyrder i glirio drwodd er dod o hyd i'r trueiniaid. Yn mhen ysbaid, llwyddwyd i dynu deg o'r bobl allan, amryw o honynt wedi derbyn niweidiau trymion; a thra y ceisid achub y 7 ereill oeddent eto ar ol, daeth arwyddion fod rhagor o ochr y pwll ar syrthio, a bu raid i'r gweithwyr ffoi i'r awyr agored, ac nid cynt y cyrhaeddasant fan diogel nag y caed cwymp mawr arall, yr hyn a wnaeth yn amhosibl iddynt achub eu brodyr. Ar ol hyn, bu raid adgyweirio ochrau y pwU, ac er gwneyd hyny yn ddiogel bydd angen am lawer o lafur a gofal. Rhaid fydd haner llanw yr holl geudod cyn byth y gellir sicr- hau yr ochrau, a dywedir y cymer hyny tua mis o amser fel y mae'n berffaith amlwg nas gellir gobeithio dod o hyd i'r dynion mwy- ach yn fyw.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH