Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Atal y Gormeswyr.

IGADAEL CYNLAS.

Dirywio'r Eisteddfod.

News
Cite
Share

Dirywio'r Eisteddfod. Dyma farn Idriswyn ar y man Eistedd- fodau lleol Cymreig fel eu cerir yn mlaen heddyw:—" Nid cariad at lea a chan sy'n cymhell dynion i ymffurfio'n bwyllgor i gyn- hal y cyfarfodydd hyn: nid dymuniad am weled Cymru yn dod yn fwy hyddysg yn y gelfyddyd gyfriniol a'i llenyddiaeth yn cael ei chyfoethogi; nid awydd am ddarganfod talentau a rhoddi cyfle i athrylith fwrlymu allan; na, gwneyd arian yw eu nod! Ac fe ymgymera nifer o ddynion hollol ddibrofiad ac nad oes ganddynt un wreichionen o gyd- ymdeimlad a llenyddiaeth na'r ddirnadaeth leiaf am n6d ac amcan Eisteddfod ond rhathrant i barotoi rhaglen a dewis beirn- iaid, &c., ac i gyhoeidi y cynhelir Eistedd- fod fawreddog' y pryd a'r pryd yn y fan a'r fan. Ni chydnabyddir llenyddiaeth; men- tra ambell bwyllgor i gynyg cadair' gan feddwl y tyna seremoni y cadeirio lawer o bobl ynghyd; wrth ddewis y darnau i'r corau meibion, gofelir eu bod wrth fodd y corau fyddo'n debyg o gystadlu; pan yn pender- fynu ar y beirniaid, os oes rhai o arwein- yddion y corau yn y cymydogaethau cylch- ynol wedi pwdu' wrth y beirniaid Cymreig, rhaid cael Sais neu Ffrancwr, costied a gostio; ac os credir y gwna Cymro y tro, fe gaiff yr isaf ei bris y gwaith, dim o bwys beth yw ei wybodaeth na'i safle fel cerddor, os bu rywdro yn arwain cor ei hunan. An- fynych y dewisir darnau o weithiau ein cerddorion ein hunain, ac anamlach byth y gwelir Cymry yn beirniadu yn yr Eistedd- fodau mawreddog' a phresawl hyn; ni chefn- ogant ddim ond ysbryd cystadleuol yn ei fan iselaf; ac nid oes neb ar eu mantais ond y beirniaid dieithr—ca'nt hwy dipyn o'r bras- der—a'r pwyllgor sy'n llogellu'r gweddill elw i ryw ddybenion hollol anghydnaws ag am- can yr hen sefydliad. Yn wir, a dyweyd y gwir yn blaen, waeth heb ei gelu, y mae'r cynulliadau hyn yn fwrn ar Gymru ac yn fwy o waradwydd na chlod iddi; ac ni wna un dynoethiad, pa mor wawdlyd a miniog a galluog bynag a fyddo, eu hysgubo o'r tir heb i'n llenorion a'n beirdd a'n cerddorion ymuno yn mhob rhan o'r wlad i godi yr hen gyrddau cystadleuol eto i'w bri cyntefig ac i barotoi ein hieuenctyd i gystadlu yn yr Eisteddfod, a phenderfynu na fyddo dim a wnelont a'r cystadleuaethau a gamenwir y dyddiau hyn yn Eisteddfodau

GWYL GENEDLAETHOL RHYL.

DAMWAIN MEWN GLOFA.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH