Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y Byd a'r Bettws.

News
Cite
Share

Y Byd a'r Bettws. A chauwyd v drws." Dyna'r goreu ellir ddyweyd am y Senedd-dymor diweddaf. Addefa pob plaid na fu'r un Weinydd- iaeth mor ddigyn) rch a'r un bresenol! Er fod haid o wyr ieuainc wrth awenau'r Llywodraeth, rhaid dyweyd mai siomiant mawr ydynt i'w cyfeillion. Cwynid gynt mai hen bobl yn unig oedd yn addas i reoli gslad; ac yn wir, y mae llawer i ddyweyd dros hyny, a barnu oddiwrth yr engraifft sydd genym yn Lloegr yn awr. Mwynhau ei hun ar a Cyfandir mae y Brenin Iorwerth, y dyddiau hyn; a chan fod ein harweinydd ninau-Mr. Lloyd- George-wedi mynd i'r un ardal, diau y daw y ddau i gyfarfyddiad a'u gilydd. Byddai cael ymgom a Mr. George ar gyflwr Cymru o dan y Ddeddf Addysg yn agoriad llygaid i'w Fawrhydi debyg iawn. Mae'r wasg Doriaidd wedi cymeryd dydd- ordeb neillduol yn Mr. Lloyd-George yn ddiweddar. Cynghora'r golygwyr ef i beidio niweidio ei ddyfodol drwy fod mor fyrbwyll a chreu anghydfod yn y wlad. Wedi methu ei ladd trwy ei ddifrio, ceisiant yn awr ei hudo a mel-eiriau canmoliaethus. Mae'r mil blynyddoedd oedd y wasg Jingo- aidd wedi addaw i ni ar derfyn rhyfel y Transvaal, heb ddechreu gwawrio eto. Yn 01 adroddiadau o Ddeheudir Affrica, y mae masnach yn wael iawn yno, a chanoedd o bobl yn methu cael gwaith. Er hyn oil, hona'r Llywodraeth fod gweithwyr yn brin, a dygant y Chineaid i'r wlad er mwyn gwneyd gwaith am bris isel. Cwyno am y caledi masnachol mae rheol- wyr gweithfeydd Prydain hefyd, Yr wyth- nos hon cafwyd engraifft o golledion mas- nachol ynglyn a'r bragwyr, Allsopps, y rhai sydd wedi colli rhyw bedair miliwn o arian yn eu hanturiaethau. Nid yw'r wlad yn dod yn fwy sobr; ond y mae gan y werin lai o arian i wario ar ddiodydd meddwol. Ynglyn ag Eisteddfod Rhyl, y mae trefn- iadau wedi eu gwneyd er cael trwydded i werthu diodydd meddwol yn nghae y babell ar ddydd yr Wyl. Pa un ai'r beirdd ai'r cantorion sydd i gael budd oddiwrth hyn nis gwyddom; ond, yn sicr, y mae'n bryd i ni geisio am Eisteddfod sobr. Os mai Mr. Lloyd-George oedd yn siarad amlaf yn y Ty yn ystod y tymor diweddaf, mae'n rhaid addef mai Mr. D. A. Thomas sydd wedi gwneyd y defnydd goreu o'i goesau. Aeth ef i'r loby yn fwy ami na Mr. William Jones hyd yn oed. Dyna hi, pob un o yn ol ei alluoedd, rhai a'u dawn yn eu penau ereill yn eu coesau yw hi yn yr hen fyd yma yn mhob cylch I Rhaid i ni, bobl y papyrau yma, fod yn ofalus iawn pan yn cywiro gwallau pobl ereill. Y dydd o'r blaen 'roedd y Western. Mail yn chwerthin am ben bapyrau Lloegr am droi Ynysddu yn rhyw enw arall, tra 'roedd ef ei hun, rhyw baragraph yn nes yn mlaen yn anurddo Cymanfaoedd Cymru wrth eu galw yn Gymanfaredd Ar ol methu a chyfarfod gofynion ei ystad, y mae holl eiddo Ardalydd Men yn cael eu gwerthu y dyddiau hyn. Cymer amryw wythnosau i fyned trwy holl gynwys ei balas yn Mon; ond nid yw'r Marquis yn malio dim. Mae efe yn mwynhau ei hun yn Ffrainc tra y mae'r holl eiddo yn cael ei osod o flaen y cyhoedd. Daw cynulliad cymysg i'r Gymanfa Oll- Geltaidd a gynhelir yn Nghaernarfon un o'r dyddiau nesaf yma. Yn mysg ereill, bydd Mr. Jenner, yr hanesydd Cernywaidd Mr. W. T. Stead, y newyddiadurwr hynod a byd- enwog; Miss Marie Corelli, y nofelyddes rhyfedd; Mr. Nicholson, llyfrgellydd Khyd- ychen. Ceir gweled p'un ai llwyddo ai di- flanu a wna'r mudiad ar ol y rhes hirfaith o enwogion'' a ddeuant i'r wyl eleni. Dywed hanesydd mai prin y byddai y Rhufeiniaid cyfoethog yn taflu eu golwg o nen eu villas gorwych ar ran dlodaidd y ddinas. Ychydig wyddent mai yno yr oedd y gallu yn gweithio a ail-newidtodd hwy a'u hymerodraeth — sef gallu Cristionogaeth. Flynyddau yn ol, dywedodd Mr. Balfour mai llai na dim oedd Cymru; ond y mae'n debyg mai oddiyno y daw ysbrydiaeth i'r rhengoedd Rhyddfrydol a dry yn angeuol i Doriaeth gul y dyddiau hyn. Parhau i wneyd gwyrthiau mae awdur- dodau Ffynon Gwenffrewi, a daw'r hanes o Dreffynon yr wythnos hon fod llanc ieuanc o Lerpwl wedi cael ei glyw yn ol ar ol bod yn fyddar am flynyddau lawer. Pwy ddywed fod oes y gwyrthiau wedi myned heibio!