Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Jones y Rheol Euraidd. I

.Bywyd Cenedl.

News
Cite
Share

Bywyd Cenedl. Dacw y fesen fechan wedi syrthio i'r ddaear. A y tyddynwr heibio heb sylwi. Y mae y peth yn digwydd mor ami. Gorch- wylion beunyddiol bywyd sydd yn llenwi ei feddwl ef. Ond yn y fesen fach y mae yna ronynyn o'r tan anesboniadwy hwnw a elwir bywyd. Y mae cell bywyd-anfeidrol yn ei bychander-yn gafael yn nghyfansoddiad natur, a chydag ewyllys a nerth a phender- fyniad yn crynhoi adnoddau ac elfenau y ddaear o'i hamgylch, yn eu ymffurfio yn rhan o honi ei hun, ac yn ngwyneb yr ystormydd a'r dryccinoedd sydd yn ym- wylltio o'i hamgylch y mae yn ail-eni rhan o natur ac yn ei gwneyd yn eirias byw o ymgorphoriad-a elwir y dderwen fawr, frigog. Y mae rhywbeth rhyfedd wedi cym- eryd lie. Y mae yr hyn oedd farw wedi myned yn fyw-elfenau oeddynt mewn oer- ni unigedd ac yn llawn amcanion hunanol, personol, wedi colli pob hunan-ymgais yn mywyd unol y dderwen. Y mae yr un peth yn wir am genedl. Nid yw bywyd yn twyllo neb. Os yw dyn yn hau i amcanion by chain, cul, crebachlyd, y mae ei gynhauaf yr un mor druenus. "Quick returns and small vrofit" ydyw arwyddair llawer yr oes hon. Ac, yn wir, tila a gres- ynus yw y profit. Y mae yn iawr o faintioli ondy mae y gwerth neu y rhinwedd sydd ynddo yn wanaidd. Ateb bywyd i ddymun- iadau d) n os yw yn eu gwir ddymuno. Y mae y neb sydd yn ceisio golud yn ei gael, y neb sydd yn amcanu at anrhydedd yn ei dderbyn, yr hwn sydd yn chwilio am ddy- lanwad yn dod o hyd iddo. Y mae clod, enw, parch, anfarwoldeb, pethau bach per-- sonol lei yna, yn dod i ran y bobl sydd yn ymegnio am danynt. Y wir, y maent yn derbyn eu gwobr." Ond ar rai adegau y mae yr ymsyniad o genhadaeth cenedl yn dod dros yr aelodau nes y mae arian yn troi, yn sothach; clod, uchelgais ac anrhydedd fel1 efydd yn gwag dincian; ac anfarwoldeb personol yn mynd yn chwareu plant yn y farchnadfa. Y mae yr awydd am gyfranogi' yn mywj d uchel ac eang cenhadaeth y gen- edl yn tarfu pob bias at bethau bach per- sonol fel yna. Abertha y dynion eu cyfoeth a'u clod, eu huchelgais a'u dylanwad per- sonol, a brysia y merched i ymddiosg o'u gemau a'u tlysau er mwyn y llawnder bywyd y mae y genedl yn addaw iddynt. Dywed hanesiaeth fod hyn wedi digwydd cyn hyn; fe all ddigwydd eto. Anhawdd, yn wir, ydyw dyfod i, nac aros yn hir mewn awyrgylch mor ysbrydol. Fel rheol, dywed dyn: Na 'rwyf am edrych ar ol fy hun." A hunanol- deb oer, cul, y mae yn ei fedi. Ac y mae ei welediad mor gul ag yw ei galon o v. àn. Ond nid oes dim da yn cael ei golli. Rywdro. ac yn rhywle, y mae yr had a syrthiodd ar adenydd natur ac a ddiflanodd megis yn yr eangder anferth yn dod yn ol wedi addfedu yn ffrwyth, a'r llafurwr, er y tuhwnt i'r hyn a alwn ni yn amser a lie, yn gweled o ffrwyth ei lafur. Y mae cenedl, pan yn ysbryd ei chenhad- aeth, yn myned yn rhywbeth mwy na thorf o bobl, na chasgliad o ddynion: y mae yn eirias byw, fel y corph dynol yn anterth ei fywiogrwydd pan y cyll pob aelod ei hun- anymwybyddiaeth personol yn undeb y cy- fan. FeIIColumbus a'i wyr, yn edrych arfydy dyfodol, er llid brenhinoedd a gwawd y" bobloedd, er rhuo o'r mor i'w herbyn ac er cellwair y gwynt, chwarddiad yr ystorm a brad y cydforwyr, y maent yn mordwyo a'u hamcan yn ddiysgog a'u bwriad yn ddiwyro nes cvrhaedd tir eu dymuniad-Canaan,. addewid eu dyhead.

8 wrdd yf Oelf. P