Hide Articles List

3 articles on this Page

Jones y Rheol Euraidd. I

News
Cite
Share

Jones y Rheol Euraidd. I Dyna fel yr adnabyddid y diweddar Mr. Samuel Milton Jones, maer Toledo, gan bobl yr America ac y mae ei hanes yn haeddu coffa arbenig. Gwir mai mewn haner gwawd y rhoddid iddo y teitl gan laweroedd, ond dyna arferiad yr hen 1yd materol hwn o ymddwyn at ei chymwynaswyr tra yn fyw; ac yn awr, ar ol ei gladdu we Ie genedl gyfan yn dechreu clodfori ei rinweddau. Y ffaith yw yr oedd y 4 Golden rule Jones yn mhell o flaen ei oes fel yr oedd Robert Owen, y Sosialydd Cymreig gynt; a thra y pery y cyd) mgais gwancus presenol am gyf- oeth ac awdurdod, nis cyfrifir dyngarwyr o safle Mr. Jones ond megis hurtiaid cymwys i'w cadw dan glo, am nas gwnant y goreu drostynt eu hunain. Ond cenhadaeth y Cymro pellenig hwn sydd i lwyddo yn y pen draw, ac os bydd rhaid aros am ganrif neu ragor eto nid oes eisieu gwangaloni, y mae'r rheol, hwyr neu hwyrach, yn sicr o ddod i fabwysiad cyffredinol. Ganwyd Mr. Jones yn agos i Beddgelert, sir Gaernarfon, mewn ty bach ceryg a elwid Ty Mawr,' Awst 3, 1846, yn fab i dyddynwr tlawd a weithiai hefyd yn y chwarel. Pan oedd Sam yn dair oed ymfudodd y teulu i'r America, a chynorthwywyd ef i groesi gan garedigrwydd ei gyfeillion a'i gymydogion. Disgwyliai y tad well byd ac esmwythach gyrfa yno nag yn ei gartref yn Arfon. Tlodaidd iawn oedd amgylchiadau y teulu a chyfleusterau addysg yn brin iawn yn y gymydogaeth. Cafodd Sam tua 30 o fisoedd o ysgol, a phan yn ddeg oed cyflogwyd ef i ffermwr am dri dollar y mis. Eto yr oe4d yn awyddus iawn am fwy o addysg. Yn 14 oed, yr oedd yn gweithio mewn melin lifio, ond yn fuan aeth i weithio ar agerfad ar y Black River, rhwng Lyons Falls a Carthage. Ychydig ddyddiau wedi hyny yr oedd Sam yn Titusville, Pa., gyda 15c yn ei logell a llawgod fechan yn ei law heb ffrynd yn y lie. Ymdarawodd ar orchwyl i yru peiriant gyda chyflog o bedair dollar y dydd, yr hyn a'i cychwynodd ar ei yrfa. Yn 1875 ym- briododd a Miss Alma Beinice Curtiss, Pleasantville, yr hon a fu farw ddeng mlyn- edd ar ol hyn, gan adael tri o blant. Ar ol marwolaeth ei briod, symudodd Jones yn 1886 i Lima, 0., lie y tarawodd ar un o'r ffynonau olew mwyaf yn y Dalaeth, yr hon a ddechreuodd gyda 600 o farilau y dydd. Yr oedd Mr. Jones yn un o gychwynwyr cyntaf yr Ohio Oil Company. Yn 1892 ym. briododd a Helen L. Beach, Toledo, gan symud i Toledo. Yn fuan dyfeisiodd rai cynlluniau peirianol a sefydlodd weithfa i'w gwneyd, dan yr enw Acme Sucker Rod, Co., yr hon a elwir yn bresenol yn Golden Rule Factory, ac yn hon y dechreuodd gymwyso yr egwyddor euraidd yn rheoleiddiad y weithfa a'i weithwyr. Cawsai pawb waith heb ymchwiliad pwy oeddynt, os y byddai lie. Gweithient 50 o oriau yr wythnos, a rhenid.5 y cant o'r enillion yn ychwanegol at y cyflogau ben y flwyddyn, a chododd ystafell giniawa ragorol i'r gweithwyr. Tro- wyd rhan o'r tir yn bare i'r plant, ac i gynal cyfarfodydd yn yr haf. Ai efe a'i weithwyr am bicnic yn yr haf, a bu yn foddion i dynu llawer o ddarlithwyr da yno i addysgu a dyddori y bobl. Yn 1897 enwyd ef am Faer, oherwydd ymrafael yn y rhengoedd Gwerinol, ac ethol- wyd ef er gwaethaf y pleidiau ereill. Ni roddodd ei weinyddiad foddlonrwydd i'r politicwyr oherwydd na choleddai eu cyn- Uwyn; ac felly gwrthwynebwyd ef gan y politicwyr a'u pleidiau. Bygythid ef rhagllaw y gorchfygid ef yn yr etholiad dilynol, ond rhedodd Mr. Jones ar docyn anibynol, ac yn yr ymdrech enillodd bob is- ranbarth o'r ddinas ond un, a chafodd 70 o bob cant o holl bleidiau y ddinas. Yn 1901 ail-benodwyd ef eto drwy ddeiseb a chan i'r blaid Ddemocrataidd adael ei le yn wag ar ei thocyn, etholwyd Mr. Jones yr ail waith gyda mwyafrif o 3,000. Yn 1903 penodwyd ef drwy ddeiseb eto, ac er fod y Gwerinwyr a'r Democratiaid yn ei erbyn gydag ymgeisydd, enillodd gyda mwyafrif o 2,850. Yn 1899 enwyd ef am Lywodraethwr Ohio, ac er iddo golli y dydd, cariodd Toledo a Cleveland gyda mwyafrifoedd mawr, Yr oedd i aros yn ei swydd hyd 1906. Dilynir ef yn y swydd gan Robert Finch, llywydd cyngor y ddinas, yr hwn a roes allan gy- hoeddeb yn datgan galar y ddinas ar ol ei hoff Faer, ac yn tretnu arwyddion gweddus o alar hyd ar ol ei angladd. Priodol iawn y dywedwyd am dano yr edrjehai dros ben politics i galon y bobl. Nid oedd yn hoffi y peirianau politicaidd, a dyna paham y rhedai am Faer heb gymorth y peirianau. Ei awydd oedd gwasanaethu y bobl. Edrychai gyda drwgdybiaeth ar y politicwyr wrth greftt. Yr oedd yn efrydydd mawr o'r Beibl, ac yno y cafodd ei egwyddor ysblenydd a'i ffugenw bendigedig. Yr oedd yn gas ganddo bob twyll a chyn- llwyn cymdeithasol a pholiticaidd, a dyna paham y carai gael y wasg i fewn i bob tiafodaeth. "Let the newspaper boys in!" ebe efe. Yr oedd pob math o blant Adda, anafus, anffodus a diwerth yn ngolwg cymdeithas yn groesawus ganddo, oblegid 'roedd y Rheol Euraidd yn ei galon, a chawsai pob math sirioldeb oddiar wyneb y Maer. Ni fwriai neb allan o'i olwg, am y rheswm ei fod yn dlawd ac anffodus. Eí bolitics oedd cael trefn gymdeithasol well na'r un bresenol, sef sefydlu Brawdoliaeth Gristionogol. Yr oedd ei swydd fa yn agored i bawb. Rhoddai ei gyflog fel Maer yn ngofal cyfaill yn fisol i'w ranu rhwng y tlodion a'r angenus, yn ol eu gyfarwyddiadau, a rhoddai lawer o arian yn fisol yn ) chwanegol at hyny. Ni wyr y byd am lawer o'i garedigrwydd. Ni wyddai ei law aswy haner yr hyn a roddai ei ddehau. Yr oedd yn Gristion gwych. Ei uchelgais oedd sychu i raddau ei allu ffynon poen a thrueni y teulu dynol. Y mae byd o'i feddwl yn yr ymadrodd hwnw, These are Americans (sef y tlodion a'r anffodusion) and they are part of our responsibility." Yr oedd yn Gymro o waed coch cyfan ac yn siarad Cymraeg. Carai farddoniaeth, cerddoriaeth a syniadau byw fel y Celt; yr oedd yn weithiwr caled a breuddwydiwr disglaer ar un waith a gallwn anturio dy- weyd iddo farw yn ferthyr. Yr oedd ei galon yn llawn tosturi dros ei ryw. Ni ellid gosod dim prydferthac h a gwirach ar faen ei fedd na'r gwawd-enw a roddwyd iddo, sef GOLDEN RULE JONES."

.Bywyd Cenedl.

8 wrdd yf Oelf. P