Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

CELT LLUNDAIN.

Gwrthryfel Cymru.

ArSan Hen OfiFe triad.

News
Cite
Share

ArSan Hen OfiFe triad. Wrth bregethu efengvl hunanymwadol y Gwr o Nazareth i breswylwyr Ciliau Aeron, canolbarth Ceredigion, bendithiwyd y di- weddar ficer-y Parch. J H. Davies, a chyf- oeth lawer. Rhag i sothach y byd hwn fod yn dramgwydd i neb, gosododd y cyfan yn ofalus o'r neilldu, ac ar log da wrth gwrs; a gofalodd na themtiodd yr un gwr a chardod, waeth pa mor haeddianol yr achos. Cafodd ofal morwyn ofalus yn ei hen ddyddiau, ac addawodd iddi dri chant o bunau ond iddi edrych ar ol ei gysuron teuluol pan oedd ef yn fethedig a gwan ar groesi'r terfyn. Caf- odd yr hen forwyn yr addewid ar bapur, a bu'r hen ficer farw, a galar fu ar ei ol. Erbyn hyn, anghofir y galar, ac y mae yr ardalwyr yn son yn awr am raniad y cyfoeth oedd ganddo. Dywed ei etifeddion nad oeddent yn rhwym o dalu y tri chan' punt, am nad oedd yr hen wr wedi cael eu gwerth, ac nad oedd, feallai, yn ei iawn bwyll pan wnaeth yr addewid. Y canlyniad fu, dygwyd yr achos o flaen yr Uchel Lvs yn Llundain. Dydd Mawrth, bu siarad cryf o'r naill ochr a'r llall ac ar ol gwrando y tystion yn y ddwy iaith ac o'r ddwy ochr, penderfyn- odd y Barnwr Kekewich fod y ferch i gael y tri cha' punt ynghyd a'r costau, ac os oeddid am godi y mater i lys uwch y dylid rhoddi rhybudd o hyny cyn pen pythefnos. v;

[No title]