Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

CELT LLUNDAIN.

Gwrthryfel Cymru.

News
Cite
Share

Gwrthryfel Cymru. RHOI GORFODAETH AR Y GENEDL GWRTHOD GWRANDO'N CWYNION- CYHOEDDI RHYFEL. Ceisia'r Llywodraeth wneyd ail Iwerddon o Gymru. Ar ol methu ein gosod fel cenedl o dan droed yr offeiriad, wele gais arall yr wythnos hon i ddwyn gallu yr Eglwys i draws-reoli ein Cynghorau Sirol. Yr oedd- em wedi dangos yn lied eglur eisoes nad oeddem fel gwlad yn myned i blygu i'r iau offeiriadol, nac i oddef ein rheoli gan fan ficeriaid rhagfarnllyd a chul; a phan welodd y Llywodraeth fod holl Gynghorau Sirol Cymru fel un gwr wedi ategu yr hyn a draethid gan ein cynrychiolwyr yn y Sen- edd, ceisiasant ffoi o'u huchelfeydd Deddfol a chwilio am gynlluniau newydd er ymosod ar Ymneillduwyr Gwyllt Walia. Yn eu tyb hwy, y maent wedi llwyddo. Daeth holl allu y Senedd o'u plaid: gwthiasant y Mesur drwodd heb ganiatau ymdrafodaeth deg a chywiriadau gonest arno, ac ni thyciai'r un apel a wnaed ar ran cydwybod y gwrth-Eg- lwyswr Cymreig. Mae'r Llywodraeth wedi ymddwyn atom megis pe baem haid o an- wariaid, ac wedi gwrthod pob tegwch ac iawnder i'n pobl o fewn Ty'r Senedd. Dydd Gwener y 5ed, daeth y Mesur o flaen P syligor y Ty. Nid oedd yn Fesur lliosog ei eiriau: dim ond rhyw un adran eang ydoedd ei gynwys. Er hyny, oddifewn i'r adran hono pentyrid dwy neu dair o eg- wyddorion pwysig,-egwyddorion y dylasid eu gosod ar wahan yn ol barn rhai o wyr mwyaf profedig y Ty. Yr amcan, wrth gawlio y cyfan i un adran, mae'n debyg, oedd atal cyfleusderau i'w ddadleu. Trefnid i osod y cloaduf ar waith yn gynar yn y dydd fel ag i gael gael y gwaith o'r neilldu, a thrwy hyny hwylysu dyfodiad y gwyliau i'r aelodau er mwyn myned i saethu. Ond profodd y cynllun yn aflwyddianus. Gwrthododd nifer o'r aelodau Cymreig gymeryd rhan yn yr ymraniadau, ac o dan arweiniad Mr. Lloyd-George, heriasant bob awdurdod oddifewn i'r Ty i'w gorfodi i dderbyn y Mesur fel un wedi cael ymdrafod- aeth ddigonol arno. G welodd y Toriaid eu bod yn prysuro pethau ar linellau peryglus, a phan enwodd y cadeirvdd rhyw un-ar- hugain o'r aelodau ni syflodd Mr. Balfour na neb gyda'r bwriad o'u hesgymuno o'r Ty. Rhyw fygwth cosp ac ofni ei gwein- yddu a wnaed, a hyny am y gwyddai'r ar- weinwyr yn dda fod Mr. George a'i blaid ar y tir iawn. Ar ol hir ddadleu, ac apelio taer hefyd ar ran y cadeirydd, gwrthododd y Cymry gydnabod y budr-waith hwn o ruthro mesurau pwysig ar y fynud olaf, a chan nas caniateid iddynt amser priodol i ddi- wygio y Mesur, codasant fel un gwr gan adael y Ty mewn dirmyg. Dilynwyd hwy gan y gweddill o'r Rhyddfrydwyr a chaed yr olygfa ryfedd wedyn o'r Weinyddiaeth yn deddfu heb neb i ddyweyd gair yn groes. Dydd Mawrth wedyn caed cynhadledd o'r aelodau Cymreig i vstyried eu safle, ac i benderfynu pa beth i'w wneyd yn ngwyneb y ffaith nas rhoddid y gwrandawiad priodol i lais y bob! yn y Ty. Cytunwyd gvda brwd- frydedd i beidio cymeryd rhan pellich yn y gweithrediadau. Gadewch iddynt" meddai ein harweinydd, "a dangoswn iddynt cyn pen blwyddyn fod y Mesur hwn eto yn llawn mor aneffeithiol a'r Ddeddf Addysg ei hun. Os na adawant hwy i ni ddangos gwendidau y Mesur, yna bydded y cyf- rifoldeb ar y rhai a'i gwthiant drwodd yn anaddfed, ac yn aneallus yn ei gynwys." Dyna mae'r Llywodraeth wedi wneyd. Y mae'r Mesur newydd, ychwanegol yma, yn nglyn a'r Ddeddf Addysg mor mor llawn o anhawsderau a throbyllau ag ydoedd y brif Ddeddf ei hun. Y mae Mr. George wedi dangos fod hono mor ddiwerth fel nas gellir gorfodi y Cynghorau Sirol i'w gweithio o gwbl. Ac y mae'r Ddeddf newydd yma, yn ol barn yr un awdurdod, yn Hawer lliosoc- ach ei gwendidau, er mor fyred ei chynwys, nag ydoedd y Ddeddf a basiwyd yn 1903. Os yw hyn yn wirionedd, ac y mae pob lie i gredu hyny, fe lwydda'r Cymry i chwareutro caled a'r Weinyddiaeth wedi'r holl helynt.

ArSan Hen OfiFe triad.

[No title]