Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

[No title]

Yr Iwerddon i'r Gwyddei.

News
Cite
Share

Yr Iwerddon i'r Gwyddei. Tyred, ferch Toscar, tyred a'r delyn canys yn enaid Ossian ymgyfyd goleuni y gan," meddai Ossian er's llawer dydd. Dar- llenwn y papyrau dyddiol am helyntion yn mhellderau y ddaear—rhyfel yn neheubarth Affrica neu yn y Gorllewin pell, gwrthryfel llafur yn America neu gyffro y Babaeth yn Ffrainc; ond i'r rhan fwyaf o honom y mae yr Iwerddon yn awr yn ynys heb hanes—er mor agos atom-ag eithrio ambell i filachiad o fellten cenedlaethol yn awr ac yn y man neu ddadwrdd aelodau Seneddol am hawliau gwlad sydd bron yn gwbl ddieithr i ni. Pa faint o lofruddiaethau cynhyrfus-heblaw rhai politicaidd-allwn gofio gymerodd Ie yn yr ynys hono; neu gwerylon cyfreithiol neu grefyddol swnfawr ? Ond y mae filachiad y fellten sydd yn awr ac yn y man yn tynu ein sylw at yr Ynys Werdd yn dangos fod rhywbeth yn cymeryd lie -fod gwewyr esgor cenedlaethol yno. Pan y mae y Weinydd- iaeth bresenol yn gallu herio pawb, cawsant eu gorchfygu yn ddiweddar ar fater dysgu y Wyddelaeg i blant yr Iwerddon; a gor- fodir y Bwrdd Addysg i ganiatau y drefn ddwyieithog yn yr ysgolion. Y mae ysgol- ion yr Iwerddon yn brysio dod dan ddylan- wad y Gaelic League-fel y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd. Dysgir y Wydd- elaeg i ryw 200,000 o bobl ieuainc yr Ynys Werdd. A oes cymaint o sel dros y Gym- raeg yn Nghymru ? Y mae gan y Gaelic League ch*ech o drefnwyr taledig a haner cant o athrawon teithiol tra y mae y rhai sydd yn dysgu iaith eu hen wlad heb dal yn ganoedd. Y mae y Feiseanna," cyfarfod- ydd tebyg i'r Eisteddfod yn Nghymru, wedi deffroi bywyd cymdeithasol a meddyliol y genedl, ac wedi dod ag ami i dalent ddisglaer i'r amlwg. Yn y cyfarfodydd hyn ceir cys- tadleuaeth mewn barddoniaeth a rhyddiaeth Wyddelig, chwedlau, can a dawns, chwar- euon byrion ac arddangosfa llafur a chelf. Y mae yn syn fel y mae cariad at hen iaith ei wlad wedi deffro yn y Gwyddel awydd defnyddio a llafurio gydag adnoddau natur yno. Nid yw bellach yn dymuno ymfudo i'r America, a charu pob gwlad ond ei wlad ei hun. Yn wir, y mae y tawch fel pe yn cilio oddiar ei lygaid ac y mae yn dechreu dod i adnabod, fel dyn yn dadebru o glefyd trwm, ei wlad ei hun; ac y mae mynyddoedd a nentydd ei wlad brydferth yn gwenu yn ol arno gyda gwen gynes Wyddelig. CAn yr adar bach bellach yn y Wyddelaeg iddo et; a theimla fod y blodeu yn hapus pan eu gwelant. Y mae yr Iwerddon wedi dod yn gartref iddo ac yn ei gartref y dechreua weithio. Bwriada dau o wyr ieuainc y pwlpud Methodistaidd fyned ar daith ar draws y byd. Y ddau ydynt y Parchn. Maurice Griffith, Llanelli a W. S. Jones, Mach ynlleth, a byddant yn absenol am amryw fisoedd. Am achosi marwolaeth ei wraig yn Nghaer- dydd, yn Mawrth diweddaf, anfonwyd Mr. Lavid Edwards i benyd wasanaeth o ugain mlynedd yn mrawdlys Abertawe ddydd Sad- wrn. Genedigol o Tregaron ydoedd David Edwards yn ogys tal a'i briod. Nos Lun diweddaf bu farw Mr. S. J. Amos, argraffydd, Rhyl, ar ol cystudd maith a phoenus. Efe ydoedd perchenog y Gwyl- iedydd, papyr enwadol y Wesleyaid yn Nghymru. Yr oedd yn Rhyddfrydwr cadarn, yn ddinesydd gweithgar, ac yn fawr ei barch yn Rhyl. Nid oedd ond 52 mlwydd oed. Y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Aber- dyfi, sydd ar ben y rhes yn arholiadau blyn- yddol y Cyfundeb Wesleyaidd drwy Loegr a Chymru eleni. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw Gymro gyrhaedd y safle anrhydeddus hyn yn yr enwad, ac mae'r pregethwr ieuanc hwn i'w longyfarch ar ei lwyddiant.