Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

[No title]

News
Cite
Share

GRADDAU CERDDOROL. Beth amser yn ol bu un o bapyrau y b) d crefyddol Seisnig yn gwneyd dadleniadau rhyfedd ynglyn a'r teitlau difudd a diwerth a wisgid gan rai o'n pregethwyr; a cham i'r iawn gyfeiriad yd- oedd hefyd. Yn awr y mae'r Cerddor yn ceisio gwneyd yr un peth a'n cerddorion, er mae'n araf a gofalus iawn y gwna'r gwaith. Yr arweinwyr ) n y mudiad yw un o'r cym- deithasau cerddorol yn Llundain, neu yn hytrach u Undeb y Graddolion Cerddorol," a bu y rheiny mewn gohebiaeth yn ddi- weddar a Chymro o Lerpwl. Dywed y Cymro hwnw na waeth i neb p'le y cafodd efe y teitl, ac nad oedd erioed wedi gofyn caniatad yr Urdd i wiso yr un oddiwrthynt. GWERTH Y GRADDAU. Nid y graddau, wedi'r cyfan, sydd yn gwneyd cerddor o ddyn. Gwyddom am amryw o gerddorion yn rheng flaenaf y gelf yn Nghymru heddyw ydynt yn wir feistriaid ar eu gwaith ac yn hawlio parch am eu galluoedd er hyn oil, nid oes ganddynt mo'r teitlau mwyaf elfenol. O'r ochr arall, adwaenem rai a honant fod yn Mus. Docs, a'r cyffelyb, nas rhoddem fawr obwysar eu gallu cerddorol na'u dawn feirniadol. 0 nage, nid y llythyrenau hirion sydd yn gwneyd y cerddor. GORNESTAU CORAWL. 0 dipyn i beth, y mae'r cynulliadau lleol yma, a elwir yn Eis- teddfodau, yn myned yn ornestau canu o'r fath fwyaf diles i ddatblygiad cerddorol ein plant. Yn yr engreifftiau a gaed Gwyl y Banc, nid oeddent ond rhyw redegfeydd corawl o'r fath waethaf; ac mae'n amlwg na roddir un pwys ar gerddoriaeth fel celf, eithr yn unig gosodir rhyw her-ddarnau ystrydebol i glegar arnynt byth a hefyd a chredir y ceir y goreuon o'n gwlad i gefnogi y fath sothach a hyn. CYMRY FEL CENEDL GKRDDGAR. Dyma eiriau gohebydd Llais Llafur ar ein gallu cerddorol fel ei dadlenir yn y byd Eistedd- fodol:— Tuedd sydd yn y Cymro i foddloni ar dipyn o lais da, darllen off' yn weddol rwydd a gwybod y gwahaniaeth rhwng 1 dwbl pia' a dwbl forte.' Os ceir y tri pheth hyn, yna y mae y Cymro, nid yn unig yn ganwr, ond yn arweinydd Y nefoedd drugarhao wrth wlad sydd yn medru goddef peth fel hyn! Diolch tod teimlad gwrthwynebol i'r hen safon arwynebol dwyllodrus hon yn cael ei feithrin yn Nghymru, ac fod ami gerddor yn ddigon gonest i ddyweyd y gwir yn ddi- dderbynwyneb wrthym er i hyny fod yn glwyf i'n balchder cenedlaethol." SIGNOR RANDEGGER. Dywedir gan rai fod y beirniad cerddorol hwn wedi cael derbyn- iad tra anffafriol yn un o Eisteddfodau GNyl y Banc pwy ddydd. Ar ol ei ddyfarniad ar y corau meibion yn Abertawe, aeth rhai o aelodau y corau anfuddugol mor anfoesgar a'i hwtio, a bygwth ei daro hefyd. Myn rhai gohebwyr fod y pwyllgor wedi gyru i ym- ofyn heddgeidwaid er amddiffynfa i ben y Signor, ond gwada efe ei hun y cyfan. Ac addefa i rai waeddi hwre, ac i ereill ddangos eu hanghymeradwyaeth, ond ni fu efe mewn perygl o fath yn y byd. YR YSBRYD CYSTADLEUOL. Er i'r papyrau chwyddo yr helynt yn Abertawe, y mae yn eglur fod yna berygl y daw yr un ysbryd i fewn i'n gwyliau cerddorol ag a welir yn ami ar faes y bel-droed. Yno, y mae'n fath o arferiad i gicio'r referee os na fydd ei ddy- farniadau yn unol a llais y dorf; ac, feallai, os ceir llawer o'r gwobrau mawr yma i ddenu cystadleuwyr, mai y pres, ac nid y canu, fydd yn mynd a bryd yr aelodau. Os felly, ni fydd yn syndod genym glywed am ym- osodiad yn awr ac eilwaith ar y rhai fyddo yn y swydd o feirniaid.

Yr Iwerddon i'r Gwyddei.