Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

OddoutuPr Ddinas* -

News
Cite
Share

OddoutuPr Ddinas* Y mae genym i gydnabod derbyniad nifer 0 lythyrau ynglyn a'n bwriad o helaethu'r CELT, ac yr ydym yn ddiolchgar i'w hawd- wyr un ac oil am eu dymuniadau caredig. Yn ystod ei yrfa, y mae'r CELT wedi gwneyd llu mawr o gyfeillion selog; a'r rhai oedd ffyddlonaf ynglyn a'i gychwyniad yn agos i ddeng mlynedd yn ol-ydynt ei gefn- os;wyr pybyraf yn awr wrth ei weled yn rhoddi cam pwysig arall yn ei hanes. Ni fu erioed o'r blaen bapyr yn Llundain at wasanaeth y Cymry, am dymor mor hir a'r CELT. Bu pob ymgais a wnaed farw yn gynar, a hyny, yn benaf, am nad oedd eu cychwynwyr yn deall gofynion nac yn ad- nabod Cymry y ddinas. Cydnabyddir bellach gan hysbysebwyr fod y CELT yn un o'r cyfryngau goreu at gyr- haedd pob gradd a dosbarth o'n cydgenedl yn Llundain, ac mae'r gefnogaeth gynyddol a roddant i ni yn barhaus yn brawf o hyn. A gawn ni, hefyd, gynorthwy'n derbynwyr yn hyn o beth, drwy gydnabod yn yr ym- holiadau a wnaent gyda'n hysbysebwyr mai y CELT a bia'r clod o'u ceisiadau. Nid ydym ninau heb dderbyn cynghorion rhai doethion yn ystod ein tymor; ond fe wyddem yn dda pe's gweithredem yn ol Ilawer o honynt y buasai'r CELT wedi ei ladd er's talm. Fe wyddom ein ffaeleddau yn dda ynglyn a'r CELT, ond gwyddom hefyd yr anhawsderau ynglyn a'u gwellhad; ar yr un pryd, ni chollir yr un cyfle genym er gwneyd y papyr yn un o'r rhai goreu a mwyaf dylanwadol yn ein hiaith. 0 un i un, mae ein pregethwyr yn myned am dro i'r hen wlad. Clywsom yr wythnos hon fod Parch D C Jones yn mynd i draethau Penfro er mwynhau o'i seibiant haeddianol. Da genym ddeall, hefyd, fod y Parch. J. E. Davies, M.A., yn enill budd oddiwrth ei dawelwch yn ei ardal enedigol. Gwelir fod cyfarfodydd arbenig yn cael eu cynal yn ystod y Sul (yfory) yn Nghapel Noddfa, Tottenham. Pregethir yno gan y Parch, a Mrs. Griffiths, Bethebara, Penfro; a sicr y rhoddir croesaw cynes iddynt gan breswylwyryr ardal. Y mae'n dda genym ddeall fod yr achos Bedyddiedig yn myned ar gynydd yn Tottenham ac y ceir eglwys gref yno yn fuan iawn. Yr oedd yn llawen genym glywed oddi- wrth Miss Ellinor Williams (Castle Street) o'r America yr wythnos hon, a deall ei bod yn cael amser hapus iawn i bregethu efengyl sobrwydd i deulu 'Newyrth Sam. Y mae ei mham oedranus yn parhau yn wael iawn, ac y mae Miss Williams gartref yn Johns- town ar hyn o bryd yn goTalu am gysur yr hen wraig svdd gyda'i mheibion a pherth- ynasau ereill yn y rhan hono o fyd. Awst 4, bu farw yn dra sydyn yn May House, Aberdyfi, yn 57 oed, Mr. John Wil- liams (diweddar o Merrick Square, S.E.). Tua dwy flynedd yn ol ymadawodd Mr. Williams o'r brifddinas oherwydd gwaeledd iechyd ei anwyl briod, ac ymsefydlodd yn Aberdyfi. Yr oedd ef yn bur adnabyddus i Gymry Llundain. Bu yma am dros 30 mlynedd, ac ymaelododd yn Jewin, lie y bu'n aelod gweithgar a selog gyda phob achos da. Cymerai ddyddordab mawr yn y bobl ieuainc b b amser a gwnai ei oreu er eu gwneyd ) n gysurus yn Jewin. Derbyniodd y Gymdeithas Lenyddol iawer o help ganddo. Bu yn athraw ffyddlon yn yr Ysgol Sul, a foyw iog ac ymroddgar ydoedd ef bob amser gyda'i ddosbarth, gan geisio cario y genadwri gartref er lies y disgybl. Wedi hyny fe symudodd i eglwys Fal- mouth Road, lie y bu yr un mor ymroddgar a gvteithgar a selog dros yr achos yn ei holl adranau; hefyd, gwasanaethodd yr eglwys hon yn ffyddlon iawn fel blaenor hyd ei ymadawiad o'r ddinas. Yr oedd yn Gristion cywir, yn gyfaill caredig a ffyddlon-ac yn un oedd bob amser yn gwneyd ei oreu dros achos yr Iesu yn y brifddinas. Yn mysg y rhai buddugol am y gradd o B.D. yn arholiadau diweddaf Prifysgol Llun- dain gwelwn enw Mr. Emlyn H. Davies, B.A., o'r New College, Hampstead. Mab i Mr. E. Davies, Albert House, Machynlleth, yw'r gwr ieuanc, ac y mae yn bwriadu myned i'r weinidogaeth Anibynol. Dydd Llun diweddaf claddwyd Mr. Wil- liam Williams, yr argraffydd enwog o Moor- gate Street. Yr oedd yn gymeriad adnab- yddus yn ardal Highbury, ac yn fasnachwr cyfrifol yn y ddinas. Mab ydoedd i'r cen- hadwr enwog, Williams o Aromanga. Da oedd genym weled Mr. D. Edwards, gynt o'r Daily News, yn edrych mor siriol y dydd o'r blaen ar ol ei gystudd maith a phenus. Y mae Mr. Edwards yn graddol enill nerth ac yn abl i fyned allan drwy gymorth ffon, ac ar ol y tywydd pleserus presenol hyderwn y'i gwelir mor hoyw ag erioed cyn diwedd yr haf. Mae absenoldeb gwyr ieuainc medrus fel efe o'r cylchoedd Cymreig trwy gaethiwed cystudd yn golled dirfawr i ni fel cenedl yn y ddinas yma. Pregethai Elfed yn ei hen gartref, capel Blaenycocd, ddydd Sul diweddaf, pryd y daeth cy nulliadau mawr i wrando arno. Er ar ei wyliau, nid oes hedd i'r bardd-bre- gethwr hwn o Lundain. Cwynir fod offeiriaid Cymru yn cael tal isel iawn ac mai prin digon a roddir iddynt i gadw corph ac enaid ynghyd. Ond a barnu oddiwrth y nifer achosion yn y llysoedd yn Llundain yn ddiweddar, y mae mwy o helynt ar ol arian offeiriaid na neb bron. Yr wyth- nos hon caed engraifft o anghydwelediad ynglyn a'r cyfoeth a adawyd ar ol gan gler- igwr o ddeheubarth Ceredigion. Yn ol pob argoelion, fe geir digon o arian at golofn newydd James Hughes erbyn y Pasg nesaf. Gwneir casgliadau yn y capelau Methodistaidd Cymreig ar Sul penodedig, ac yna fe drefnir y cyfan er mwyn dador- chuddio y golofn yn ystod Cymanfa'r Pasg nesaf. Dyna fwriad presenol y cyfeillion sydd ynglyn a'r mudiad. Mae'r Parch. D. C. Jones, gweinidog eg- lwys Anibynol y Boro, wedi newid ei bres- wylfod. Ei gyfeiriad o hyn allan fydd 119, Burton Road, Brixton, London, S.W. Cyfarfyddodd gwr y CELT a hen wr, Cymro gwladaidd yr olwg arno, yn nghyffiniau yr Uchel Lys yn Chancery Lane dydd Mawrth, a gofynodd iddo yn Nghymraeg gwlad y Cardis: 0 b'le ma'r achos hwn yn dwad?" Speak Inglis man" oedd ei ateb. I was come from Cilie I" Gwarchod pawb, os mai dyna'r fath Saesneg sydd yn Ciliau Aeron, beth all eu Cymraeg fod ? Dydd Gwener, Awst 5ed, claddwyd John Richard Lloyd (baban Mr. a Mrs. Lloyd, 117, Virginia-rd.) yn Ilford; a dydd Mawrth diweddaf y claddwyd Margaret Jane Mary (geneth fach Mr. a Mrs. J. E. Evans, 68, St. George's-rd.) yn Abney Park. Gweinydd- wyd yn y ddau angladd gan y Parch. D. C. Jones. Estynwn ein cydymdeimlad a'r rhieni yn awr eu galar. Bydd cyfeillion lliosog Mrs. Jones, 66, Rosemary Road, Peckham, yn falch o ddeall ei bod yn gwella ar ol cystudd peryglus. Disgwylir y bydd tymor y Senedd drosodd yr wythnos hon ac y caiff yr aelodau eu gwyliau haeddianol. Cyn y Sul bydd yr aelodau Cymreig yn gwasgar i bob cyfeiriad. Aiff Mr. Lloyd-George a'i frawd (Williim George) ynghyd a dau gyfaill am dro i'r Yswissdir, ac i St. Beattenberg lie yr arhos- ant dair wythnos, gan ddychwelyd mewn pryd i'r Eisteddfod. Disgwylir, hefyd, i'r Wyl yn Rhyl, Mri. Frank Edwards, William Jones, Herbert Lewis ac ereill. Llawen genym gofnodi llwyddiant Mr. W. Williams, Fort Road, Bermondsey. Yr wythnos ddiwedjaf apwyntiwyd ef i swvdd o ymddiriedaeth o dan y Westminster City Council. Brodor o Benuwch, sir Aberteift, yw Mr. Williams. Yn flaenorol i'w ddyfod- iad i Lundain, treuliodd tua deuddeng- mlyn- edd yn Pontnewynydd. Tra yn sir Fynwy, enillodd brif wobr yr arholiad sirol dair gwaith. Ar hyn o bryd, y mae yn aelod ffyddlon a gweithgar yn eglwys Falmouth Road, ac y mae ei ddefnyddioldeb a'i siriol- deb yn gviffaeliad gwirioneddol i'r achos yn y lie. D/muawn iddo oes hir i lanw ei swydd newydd bwysig ac i wasanaethu ei gydgenedl yn y brifddinas. Cyfeiriad y Parch. R O. Williams, gwein- idog newydd eglwys Holloway, yw 20, St. George's Avenue, Tufnell Park, London, N. Mae'r Mri. W. H. Everett, Bell's Build- ings, Salisbury Square, newydd gyhoeddt rhestr o'r papyran Cymreig a ddosberthir ganddynt, ac y mae'n gyflawn iawn. Gellir cael unrhyw newyddiadur gan y goruchwyl- wyr hyn, a danfonir hwy i bob rhan o fyd ar dderbyniad archeb. Daw'r newydd fod y cyfreithiwr ieuanc, Mr. Horace Davies (mab y Cynghorwr W. Davies o Battersea), ar gymeryd iddo ei hun gydmar bywyd. Y ferch ieuanc yw Miss Kensey, nith i Mr. a Mrs. Francis Wallog, sir Aberteifi. Llwydd i'r undeb pan ddel. Yn mhlith enwau y rhai llwyddianus yn arholiad diweddaf matriculation ynglyn a Phrifysgol Llundain, gwelwn en w Miss Lily Roberts, Stoke Newington, yr hon basiodd yn y Dosbarth I. Nid yw Miss Roberts ond prin deunaw oed, ac y mae i'w llongyfarcb ar ei medr a'i diwydrwydd. Cynyddumae nifer ein hoffer/nwyr cerdd- orol, a chyn hir bydd catrawd gref o fechgyrt a merched medrus yn ein plith. Deallwn fod Miss Gertrude O wen, merch Mr. a Mrs. E. Owen, Kedburn st, Chelsea, yn efrydu yn llwyddianus ar yr organ o dan gyfar- Mr. D. Ridell Hunter, A.R.C.O., ac addawa ddod yn chwareuvddes fedrus iawn. Llwydd- iant iddi yn y gelf ddefnyddiol hon. Ar derfyn ei thymor operataidd yn Llun- dain cafodd Miss L. Teify Davies y dydd o'r blaen gynygiad hael i fyned ar daith gerdd- orol drwy Ddeheudir Affrica am tua phuta* mis; ond gan fod ei galwadau cartrefol mor lliosog y mae wedi gwrthod y cynyg. Wedi gwneyd enw mor rhagorol mewn opera, y mae'n amlwg y daw galw am wasanaeth Miss Davies yn ami yn y prif wyliau. Yn f cwmni a fwriedir anfon i Affrica, hi oedd wedi ei dewis i chwareu" Carmen," ond bydd raid newid y trefniadau yn awr gan nas gall fyned. Y dydd o'r blaen cafodd y beirniacf, yr athraw, a'r cyfansoddwr cerddorol enwog, Signor Alberto Randeggar, Its I o longyfarchiadau ar ddathliad jiwbili ei ddyfodiad i Lundain. Ystyria fod y Cymry yn llawer gwell cantorion na'r Saeson ac foa y Celtiaid oil yn canu yn fwy eglur na hwy* Tra yr oedd caniadaeth offerynol wedi llwyddo yn Lloegr, nid oedd canu a'r lIals wedi mynd ymlaen am nad oedd y Saeson wedi cael addysg briodol yn eu hiaith eit hunain nac yn llafurio digon. Disyn wyr oedd y rhan f wyaf o eiriau caneuon Lloegr.