Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y Byd aV Bettws.

News
Cite
Share

Y Byd aV Bettws. Blinodd y Sais ar ormesu'r Gwyddel, a thry ei olwg yn awr at Gymru. Ond dang- osodd plant Gwalia ddydd Gwener mai nid llwfriaid ydynt hwythau chwaith, Rhyfedd mor ddifudd fu'r Senedd-dymor presenol, ac eto wele'r Llywodraeth ar ei heithaf yn ceisio pasio mesur nas gall fod ond yn llythyren farw yn Nghymru. Cafodd y Toriaid fuddugoliaeth fawr, meddent hwy, yn Reading. Llwyddasant i dynu mwyafrif y Rhyddfrydwr i lawr i 230 o 239. Wel, mae'n dda fod rhywbeth yn eu calonogi yn y dyddiau blin hyn. Pleidleisiodd Esgob Llandaf dros Fesur y Tafarnwyr y dydd o'r blaen yn Nhy yr Arglwyddi. Aeth ei frodyr o Dyddewi a Llanelwy i'w erbyn. Hwyrach y cred efe mai cyfeillion y pechaduriaid oedd y ddau wr grasol hyn, ac mai efe yn unig ydoedd cyfaill y publicanod Ar bwnc Addysg, y mae'r blaid Gymreig wedi dod yn unol iawn yn ddiweddar ac, ar y cyfan, y mae'r aelodau yn dod i ganlyn cynllun doeth Mr. Lloyd-George heb lawer o rwgnach. Gwelant fod yr etholiad cyff- redinol wrth y drws ac na thai iddynt fod yn Whigiaid hunanfoddhaol pan y mae y wlad mor eithafol o Radicalaidd. Ar ol ei frwydr galed yn Nhy'r Gleber ddydd Gwener, yr wythnos ddiweddaf, aeth Mr. Lloyd-George a'r Finsent ac ereill am dro i lan mor y Sowth. Yr oedd eisieu tipyn o awyr iach a seibiant ar ol yr ornest hynod a gaed ar lawr Ty'r Cyffredin. Bu arddangosfa amaethyddol yn Aberyst- wyth yr wythnos ddiweddaf-y gyntaf o dan nawdd y Gymdeithas Amaethyddol Gymreig -a phrofodd yn un lwyddianus iawn. Daeth miloedd o bobl yno o bob parth o Gymru. Yr oedd y Brenin wedi anfon rhai o'i ani- feiliaid yno i'w dangos. Dywedir fod lleoedd glkn mor Cymru yn llawnach eleni nag arfer ac fod yr ymwelwjr Seisnig yn dechreu cydnibod llanerchau cartrefol o'r diwedd yn hytrach na rhedeg ar draws y Cyfandir am drip rhad. Y mae'n galondid i weled y Sais yn dod i geisio helpu'r Cymro i dalu'r trethoedd trymion a osodwyd arno yn ddiweddar. Cyfaill y ffarmwr yw Chamberlain Beth bynag, dyna oedd ei honiad y dydd o'r blaen pan yn siarad wrth ddeng mil o honynt yn Mhalas Welbeck. Ei ffordd o wella cyflwr amaethyddiaeth yw gosod treth ar yd ond rywfodd neu gilydd, ni fyn y wlad mo'i gynllun. Mae adgof o'r hen amseroedd eto yn nghof rhai o'n preswylwyr. Ni ddylai fod cof gan wleidyddwr. Nid oes dim gan Chamberlain, a dyna y rheswm paham y mae mor boblogaidd. Ar ddech- reu yr yrfa bresenol o blaid y dorth ddrud, dywedai nad oedd amaethyddiaeth o un pwys i Loegr: y gwneuthurwr, y manufac- turer, oedd asgwrn cefn y wlad. Erbyn hyn, gan fod y gwneuthurwr wedi ei adael, try at yr amaethwr, a dywed mai efe yw'r gwr pwysicaf yn y deyrnas. Druan o Joe Mae'r Cadfridog Booth yn up to date nid yn unig yn ei grefydd eithr yn ei weith- redoedd hefyd. Yr wythnos hon aeth ar daith bregethwrol mewn car modur. Bu Dr. Pan Jones a'i van er's talwm ar hyd a lied Cymru, ond yr oedd yn rhy araf o un rheswm. Beth pe buasai i'r Dr. ddilyn esiampl y Cadfridog Booth yn awr ? Y Parch. John Evans, Abermeurig, oedd yn gweinidogaethu yn eglwys Walham Green y Sul diweddaf, a chaed pregethau nerthol ganddo, yn llawn efengyl a hwyl Gymreig. Da oedd gan lu o'i gyfeillion yn Llundain ei weled yn dal mor hoyw ac ieu- anc ei wedd ar waethaf ei flwyddi llafurus. Mae un arall o bregethwyr Cymru ar fyned trosodd i'r 'Merica. Derbyniodd y Parch. D. M. Richards, M.A., Capel Coch, Llanberis, alwad oddiwrth eglwys yn Utica, ac y mae wedi ateb yn gadarnhaol. Yn nghymanfa chwarterol Methodistiaid Calfinaidd Deheubarth a Mynyw a gynhal- iwyd y dydd o'r blaen yn Nhredegar o dan lywyddiaeth y Parch. W. Jenkins, Aberdare, caed cwrs o ymdrafodaeth ynghylch uno colegau duwinyddol y Bala a Threfecca ac adeiladu un addysgle yn Aberystwyth. Tra yr oedd yr holl gyfarfodydd misol (ag eithrio Dwyrain a Gorllewin Morganwg a Phenfro y rhai oeddynt am i ymholiadau pellach gael ei wneyd) o blaid yr uniad, yr oedd yn amlwg fod arweinwyr y Cyfundeb wedi cael eu dylanwadu gan bendefyniad Ty yr Arglwyddi yn achos eu brodyr Presbyter- aidd yn Ysgotland ac am gael oediad er i'r lleiafrif addfedu eu barn ac er mwyn cael cyngor cyfreithiol cadarn. J Y mae Mr. David Davies, Llandinam, wedi addaw rhoddi deuddeg mil tuagat yr adeilad newydd yn Aberystwyth ac, hefyd, talu dwy ran o dair o gyfangost yr adeilad ar yr amod fod y Cyfundeb yn cadw coleg y Bala yn unig,. ac nid Trefecca, fel ysgol barotoawl i efryd- wyr am y weinidogaeth. Modd bynag, 'roedd Mr. Davies erbyn hyn wedi amlygu nad oedd yn erbyn ysgol barotoawl yn Nhrefecca. Ar ol cwrs o ymddiddan oddiwrth ba un yr amlygwyd fod pwyllgor y Gogledd yn dangos gor-awydd a gor-sel dros yr uniad,. tynodd yr Henadur S N. Jones, Abertillery ei welliant, sef fod y Gymocithasfan gweith- redu ar bleidlais y mwyafrif dros uno y colegau, yn ol, ac ar gynygiad Dr Cynddylan Jones pasiwyd yn unfrydol i benodi pwyllgor i wiieyd ymchwiliad pellach. Naturiel yw i'r deheuwyr fynu cael coleg Trefecca yn gyfartal mewn urddas a'r Bala. Ond tra y mae symudiadau amser wedi codi yr ysgolion canolraddol a'r colegau cenedl- aethol sydd yn gwneyd y ddau goleg paroto- awl yn afreidiol, nid ofer i Gymru fyddai cael un ysgol yn y Bala ac un yn Nhrefecca os cerid hwy ymlaen gyda'r un hunanym- wadiad, diwydrwydd, ac ymroad yn y dyfodol ag a nodweddwyd hwy yn y gorphenol.