Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
Yr oedd Owain Alaw a Talhaiarn unwaith yn cynal cyfarfod mewn tref yn Nghymriu a meddyliasant am anfon y "bell man" drwy'r dref i grio'r cyfarfod. Aeth Tal ator gan ddyweyd: "Sion Huws, mae eisio i chi fyn'd i grio noson gyda Tal ac Alaw." I- Tal anwyl," ebai Sion Huws mewn llais athrist, "fedra i ddim crio heddyw wirr achos bod yr hen wraig newydd gael ei chladdu."
Yn oi o'r Gorilewin.
Yn oi o'r Gorilewin. TRO I EMPORIA A DRY CREEK. [GAN MISS ELLINOR WILLIAMS, CASTLE-ST.] Saboth hyfryd gefais yn Emporia a Dry Creek. Rbag ofn i'r tywydd fy atal boreu Sul aethum nos Sadwrn gyda H. Hughes, un o flaenoriaid eglwys y wlad, ac er fy mawr fudd deallais fod Mrs. Hughes yn gyf-* nither i'n cyfaill hoff gartref, sef y Parch. Evan Williams, Rhos, un o'r gweinidogion goreu fedd yr enwad Bedyddiedig yn yr Hen Wlad. Mae amryw o'r teulu yn byw yn ymyl eu gilydd yn Dry Creek. Bwriadwn fyned i aros atynt a threulio Sul arall yn eu cartref. Cawsom dorf o bobl boreu Sul, y ddau en- wad yn ymuno, y Parch. Mr. Morgan, gwein- idog parchus yr Anibynwyr, un o fecbgyn Llundain flynyddau yn ol. Aelod ydoedd yn eglwys Radnor Street, Chelsea. Cyn i mi orphen yn y cylch daeth y new- ydd fod fy mam yn beryglus sal, a galw am danaf i'r Dwyrain, lie y daethum mor fuan ag y gellais. Nid aiff o'm cof y cydymdeim- lad a'r tiriondeb a dderbyniais gan drigolion Emporia a'r cymydogaethau, pan yr oedd cwmwl trallod yn hofran uwch fy mhen. Aroswn y dyddiau olaf gyda Mr. a Mrs. Edward O. Davies, brodorion o Cemaes, Maldwyn, ydynt hwy. Bu Mr a Mrs Davies a'r buggy allan am ddau ddiwrnod yn myned a mi o dy i dy i weled y brodyr a'r chwior- ydd. Er hyny, methais a chyrhaedd pawb, ond mae genyf wahoddiad cynes i fyned yno eto. Wel, os yr Arglwydd a'i myn, feallai fod y pleser hwnw yn fy aros. Nos Fawrth yr anerchais olaf yn Saesneg; cwrdd y bobl ieuainc yn neillduol ydoedd i fod, ond yr oedd yr hen frodyr John Wil- liams, Jacob Jones, Robert Davies a Robert Roberts yn ieuanc y noson hono, ac yn bre- senol; hen frodyr a chwiorydd ereill nad ydynt yn gallu mwynhau Saesneg i'r graddau a Chymraeg, ond mae crefydd yn ein dysgu i fod yn foneddigaidd o hawdd ein trin, ac i gofio fod dyfodol yr eglwys yn dibynu ar y plant. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. Mr. Whitby, gweinidog parchus yr Anibyn- wyr yn Emporia. Canodd y cor yn effeithiol iawn o dan arweiniad T Lewis God be with you till we meet again." Yn swn y geiriau yna y terfynodd fy ymweliad ag Emporia. GALWAD ADREF. Am ddau o'r gloch y boreu aeth Mr. Ed- ward Davies a mi i'r orsaf i gychwyn am cartref. Yr oedd brysneges wedi dod am i fyned mor fuan ag y gallaswn. Yr oedd rhyw gyfuniad o dywyllwch o'm hamgylch ar yr awr hono, y meddwl yn bryderus, mantell ddu y nos yn gordoi y ddaear, y wybren uwchben heb na lloer na seren i'w gweled ar ei bron. Fflachiai ambell i fellten nes peri i mi feddwl fod y coedydd ar dan am eiliad. Yr oedd pobl y ddinas yn dawel yn mreichiau cwsg, ond ambell un fel fy hunan ag amgylchiadau yn eu gorfodi i deithio. Bu cwmni y Santa Fe R.R yn hynod garedig yn hwvlusu pethau i mi fyned heb golli amser. Yr oedd cryn ddyryswch ar y llinell. Teithiais trwy wlad ddi-derfyn, rhanau o tua chwech o Dalaethau. Pasiem ddinasoedd gwychion, trefydd afrifed, ac afonydd dychrynllyd yn llawnion o ddyfr- oedd afon y Missouri mor llydan a Llyn Tegid, ac afon fawr y Mississippi, lleyr oedd y badau mawrion yn chwareu arni, ac ar ei hymylon yr oedd Ilwyni o helyg ystwyth yn wylo eu dagrau i'w dyfroedd gwylltion. Pan y daethom at afon Illinois, yr oedd y bont fwaog wedi myned o drefn. Dyna lie bu y tren hir yn aros, tra bu y dynion yn trwsio. Yr oedd tanau mawr ar y ddaear, coed cryfion yn llosgi yn rholiau ynddynt, a hyny mewn trefn i'r gofiaid allu twymo eu harfau i drwsio y peiriant aruthrol. Mewn canlyniad i'r arosiad hwnw yr oeddwn yn rhy hwyr yn cyrbaedd Chicago i mi allu galw i weled Bismark a Bob, er mor hyfryd fuasai eu gweled hwy a Uu mawr ereill o'm cyfeill- ionyn y ddinas enwog. Teithiais hyd yn Youngstovn am ein bed yn ddiweddar, ac fe gollais dren Pithburg, a rbaid oedd aros am rai oriau er cymaint fy nymuniad i fyned yn mleen. Nid oedd dim i'w wneyd ond galw i weled y Parch. J. T. Lloyd. Gwnaeth yr esgob Bed) ddiol a'i anwyl btiod eu goreu i helpu byrbau jr orian hirion. Wedi pob peth cyrhaeddais i Johnstown erbyn naw o'r gloch nos Iau, He ceis fy mam yn sal,a'r plant yn drallodus. Yma yr wyf yn bresenol.
CAWOD YR HAF.
CAWOD YR HAF. Yr huan a buna, Mae'r wybren yn gJaf, Ond maethlawn disgyna Mwyn gawod yr haf. Bu'r ddaear mewn nychdocl Dan boethder yr hin, Ond wele, daeth cawod A mel ar ei min. Hi rydd o'i digonedd Drwy ddwylaw fy Naf Angyles trugaredd Yw cawod yr haf. Edmyga y coedydd Ei dafnau diri', Diolchant yn ddedwydd Am newydd bur li. 0 dan ei hireiddiwch Daw'r gerddi yn braf, Adloni prydferthwch Wna cawod yr haf. Ymhoffa y mynydd Ei byw ddafnau bras, A braid d nad yw'r creigydd Am feddu gwisg las. Adfywia y dolydd O'ent unwaith yn glaf, Ca'nt iechyd o'r newydd Drwy gawod"yr haf. 0 dan ei defnynau Ymlona yr ýd, Ca' hithau ei wenau Yn dal yr un pryd. Meithrina'n ddigynhwr' Yr hael gnydau da, Sirioli'r amaethwr Wna cawod yr ha'. Ti rinfawr weinyddes Gwyrdd lwybrau wnei di, Adfywiol arglwyddes Yn gynes dy li, H. LL. W. HIRDDYDD HAP. Ar hiraf ddydd o'r flwyddyn Eisteddais yn yr ardd, I syllu ar y wybren A gwylio'r wawrddydd hardd; Y'nghanol dwfn dawelwch Mae'r nos yn cilio draw, A'r gwlith fel mantell ganaidd A bywyd yn ei law. Y lloer edrychai'n welw A'r ser yn boddi'n brudd- Y mae rhyw swyn heddychol Yn 'r awr sy'n doriad dydd Dedwyddaf awr ei fywyd Yw hon i'r gweithiwr blin,- I'r doeth amaethwr hefyd Mae'n awr o felus hun. I dori'r mawr dawelwoh, Fe gana'r ceiliog coch, Ac ereill yn h6r ateb Yn uchel ac yn groch; A'r eos mwyn gwireugoch Yn canu yn y gwydd Y fran, a'r dryw, a'r fronfraith Yn lion ar doriad dydd. Mae cerddfa'r cor asgellog A swyn Mehefin gwiw, Yn foreu gyda'r wawrddydd Rhyw ail Baradwys yw Nid oes un gwrthsain yma Mewn dadwrdd adar man— Pob un yn rhoddi'n reddfol Ei fawl foreuol giia. Per flodau'r coedydd ffrwythlon, A'r teg rosynau hardd, Ddiwyllant y wenynen Ofalus yn yr ardd Amrywiol ydyw natur A chreulawn lawer pryd Yn byw trwy fywyd ereill Mae pob peth yn y byd. Fel mae yr Yw a'r Celyn Yn lloni'r gauaf du, Y blodau a'r gwyrddlesni Brydfertha'r haf i ni; A boed i'r mawr amrywiaeth Ein dwyn i ganfod Duw Fel unig darddle bywyd Y greadigaeth wiw. Caerludd. GWYDDFRYN.
UNDEB CENEDL.
UNDEB CENEDL. Boreu dydd Iau, cyn y diweddaf, fel yr oedd Prifweinidog Rwssia yn myned trwy' yr ystryd ) n ei gerbyd i ymweled a'r Czar fe ddaeth adyn o ddyn carpiog, bier, budr ac afiach allan o fwyd-dy cyfagos ac fe daflodd flwch ffrwydrol nes y chwythwyd y cerbyd a'r Prifweinidog yn chwilfriw, bron megis y tywod ar Jàn y mor. Ffrwydriad ofnadwy Y mae natur yn aruthrol yn eft gweithrediadau. Ond beth am yr ystorm, y gynddaredd ddieflig, y ffrwydriad ofnadwy oedd yn enaid yr adyn pan y gwnai y fath beth. Nid oedd y maluriad allanol ond' arwydd o'r Hid, y gelyniaeth a'r adgasedd oedd yn bodoli yn ysbryd yr adyn. Yr oedd yr ystorm tufewn yn gyfartal i'r ffrwydriad y tuallan. Nid oes gan neb ryw air da i'r Prifweinidog. Dyn caled, creulon ydoeddr meddir. Eie geisiodd ladd rhyddid Finiaid; efe oedd achos y llofruddion erchyll yn Kishineff. Fflangellai y tyddynwyr a char- charai y gweithwyr. Yr oedd ei law yn haiarn a'i galon yn ddur. Nid oedd ym- ddangosiad llwm y dyn a'i lladdodd yn gadael i ni gredu ei fod wedi cael llawer o hapusrwydd mewn bywyd. Fe gyfarfydd- odd y ddau adyn hyn fel y cyferfydd yr elfenau yn yr awyr ac y daw o hyny ddrycciix ofnadwy o fellt a tharanau sydd yn creu distawrwydd trwy bob man ac yn codi braw yn nghalon dyn ac anifail. Y mae cysyllt- iad dyn a dyn yn ofnadwy a difrifol. Mor syml a defnyddiol yw yr halen. Ond yn yr halen syml y mae yna elfen ag sydd yn un o'r pethau mwyaf ffrwydrol sy'n wybyddus i ddyn. Pan yn rhan o'r halen y mae yn unol a deddfau natur ac yn ddiniwed a defnydd- iol. Ond tyner ef allan o'i berthynas ac y mae yn arswydus o ddinystriol. Nid oes eisieu ond darllen y papyrau dyddiol i weled fod yna gysylltiadau mor agos rhwng dyn a dyn ag sydd rhwng el- fenau natur. Y mae cenedl yn un cyfan- gorph. Y mae yr aelodau yn frodyr i'w gilydd. Pa un bynag a yw brawdoliaeth dyn a dyn wedi ei ysgrifenu yn llyfr credoau y byd ai peidio, y mae y peth yn ffaith er cyn dyddiau Cain. Ar rai adegau pan yn unol a deddfau ysbrydol ei fodolaeth y mae yn rhoi bod i hapusrwydd a gogoniant ar- benig (I r adegau ereill, pan nad yw, canlyn y galanas mwyaf brawychus. Ni ellir rhoddi llythyr ysgar i aelod oddiwrth y genedl mwy nag y gellir ysgar mab a merch, rhieni a phlant heb boen a difrod. Nid amodau wedi en rhoddi ar bapur sydd yn cysylltu dyn a'i genedl ac nid cytundeb wedi ei ysgrifenu gan gyfreithwyr sydd yn uno mab a merch ond rhyw uniad fferyllol yn nyfnderoedd yr enaid. Y mae cenedl yn ymborthi ar fywyd yr aelodau eu gwaed hwy a dywalltwyd mewn hunanaberth yw ei maeth. O'r ochr arall, gofal mamol y genedl fel cyfangorph sydd yn meithrin rhinwedd a gogoniant yr aelodau. Ac y mae dyn sydd yn anafu yr aelod lleiaf a distadlaf o'r genedl yn taro a'i fwyell galon fyw y genedl. Y mae cenhedloedd bychain trwy weu ei bywyd a gweadau gwroldeb rhinwedd, gwel- ediad doeth a gofal am a meithriniad pob un o'r aelodau wedi codi iddynt eu hunain golofnau ag y mae amser bron a methu eu dileu. Y mae dyfodol cenedl y tuhwnt i brofiad yr hen a breuddwydion yr ieuanc. Y mae pob gweddi yn cael ei hateb, ac fe ddaw deheadau cenedl i fod fel yr ymagor gwawr y boreu.