Hide Articles List

2 articles on this Page

Oddeutu'r DdBnam.

News
Cite
Share

Oddeutu'r DdBnam. Yr wythnos yma y mae genym hysbysiad pwysig ynglyn a'r CELT i'w wneyd i'n darllenwyr. Yr ydym wedi gwneyd trefniadau i'w helaethu mewn maintioli ac i ychwanegu llawer at ei golofnau fel ag i'w wneyd y papyr goreu ag sydd bosibl at wasanaeth Cymry'r ddinas a charwyr ein lien a'n cenedl yn mhob gwlad. Yn ystod y deng mlynedd y mae wedi gwasanaethu ein pobl, y mae wedi enill safle diail yn mysg papyrau ein gwlad, a cheir ynddo ysgrifau yn achlysurol gan brif len- orion ein cenedl. Y mae llawer o'r rhai hyn wedi addaw rhagor o ffrwyth eu myfyrdodau fel y gellir disgwyl y bydd i'r CELT o hyn allan fod yn bapyr a esyd feddwl y genedl yn uniongyrchol oddiwrth ei phrif arwein- wyr. Rhagor na bod yn babyr cenedlaethol, rhoddir ynddo golofnau arbenig at wasan- aeth y Cymry hyny nad ydynt gynefir a'n hiaith, ac i'r dosbarth hwnw y mae addew- idion am ysgrifau wedi eu sicrhau oddiwrth wyr blaenaf y byd llenyddoI, megys Mr. W. Llewelyn Williams, cyn olygydd y Star, Mr. Harry Jones, golygydd cynorthwyol y Daily Chronicle, Mr. T. Artemus Jones o'r Daily News, ac amryw ereill o ysgrifenwyr i'r prif gylchgronau dwyieithog ein gwlad. Gan fod ein papyr eisoes wedi enill safle anrhydeddus fel y newyddiadur goreu i hys- bysebwyr, bydd yr ychwanegiadau presenol yn hawlio iddo gefnogaeth ychwanegol gan bob dosbarth yn ein dinas. Papyr y genedl fydd y CELT i barhau fel cynt. Ni phleidia na sect grefyddol na phlaid boliticaidd, rhagor na bod yn gyn- rychiolydd teg a diwyro o bob mudiad teilwng o honom fel pobl ac fel pleidwyr rhyddid ac iawnder, ynghyd a hawliau priodol i genhedloedd bychain y byd, o ba rai y saif y Cymry yn y rhes flaenaf. Gyda'r cyfnewidiadau hyn ni fydd ein apel am gefnogaeth unol Cymry Llundain yn ofer. Y maent wedi ein cynorthwyo yn rhagorol hyd yn hyn, ac yn awr ar ol ein galluogi i gerdded yn hwylus, yr ydym ninau yn hollol barod i ad-dalu y cymwynasau hyn trwy sicrhau o oreuon ein pobl i'w hyfforddi a'u dyddori yn y blynyddau a ddel. Gwyliau llawen gafodd y gweddill o'r dinasyddion a arosasant yn y ddinas. Yr oedd cannoedd wedi mynd am dro i'r hen wlad, ac ereill i'r cyfandir, ond er hyn i gyd yr oedd y torfeydd a dynasant tua Hatfield mor lluosog ag erioed, a diwrnod braf a gawsant hefyd. Yr oedd v trefniadau a wnaed yn haeddu pob canmoliaeth. Ond pa ryfedd, oherwydd yr oedd gwvr cyfarwydd wrth y gweithred- iadau, a bellach nis gellir wrth well nifer o reolwyr at y fath amgylchiad na'r swddogion sydd wrth lyw Undeb y Methodistiaid Cym- reig. Can unfarn yr ymwelwyr oedd fod pob peth yn rhagorol. Dydd Iau cyn y gwyliau caed priodas ddyddorol yn nghapel Charing Cross Road pryd yr unwyd Mr. James James, Caerdydd, a Miss Mary Jones, yn wr a gwraig* gan y Parch. Peter Hughes Griffiths. Creodd yr amgylchiad hapus ddyddordeb mawr gan fod y par ifanc yn adnabyddus i lu o gyfeillion yn Nghymru ac yn Llundain. Gwnaeth Miss Jones ddenu Iluoedd o'n cyd- wladwyr yn ein cyngherddau a'n Cymieith- asau Llenyddol gan ei llais swynol a melus, ac y mae Mr. James, yntau tra yn dal y swydd gyfrifol o ymdeithwr dros Messrs. Jeremiah Rotherham & Co. yn Nghymru, drwy ei ymidygaid wir foneddigaidi bob amser weii gwneud pawb yn ffrynd iddo. Y morwynion oedd Miss Maggie a Miss Averina Jones (chwiorydd). Rhoddwyd y briodasferch i ffwrdi gan ei brawi, Mr. Divid Jones, tra y gwasanaethir Mr. Divid James fel y dyn goreu." Ar ol rhoddi'r cwlwm, aeth nifer fawr i Westy H tiborn, lie y cawd ymloddest tra ragorol. Canwyd yn swynol gan Miss Nellie Lewis ac ereill, a chawd areithiau lawer yn dymuno pob llwydd, a llawenydl i'r par dedwydd, ac nis gallwyd cadw y beirdd heb ddwyn allan o ffrwyth eu hawen, ac yn eu mysg canoid eu cefnder 11 Myrddinfab fel hyn — PENILLION. Cyflwynedig i Mr. a Mrs. James ar ddydd eu priolas Gorphenaf 28aiu, 1901, gan eu cefnier, T. M. Jones. Mi welaf gwmni llawen Yn awr wrth fwrdd y wledd, Yn nghanol blodeu addien Sy'n llawa o swyn a hedd Ac heulwen haf yn gwenu Ar fodrwy euraidd gron, A ddododd oariad yn ei lys Ar fys yr eneth Ion. Fy hoff gyfnither Mary A seiniau mwyn ei chan, A ddenodd i'w hedmygu— Do, lu o lanciau glan Ond tanau serch ei chalon Gyffyrddodd dim ond un- Trafaeliwr enwog gwlad a thre'— Ein James efe yw'r dyn. Yn Charing Cross fe'u hunwyd Yn ddedwydd wr a gwraig, Ao yno yr attebwyd Yn gadarn fel y graig, Gwestiynau pwysig bywyd Wrth uno mab a merch Hyd angeu mwy i fyw ynghyd A'u byd yn liawn o serch. u Gwnaf," ebai James yn llawen, Cymeraf hon yn wir, 'Rwyf heddyw yn fy elfen 'Rol disgwyl dymhor hir Gwnaf finau," ebai Mary Heb bryder dan fy mron, Cymeraf James ddaeth at ei air Neu torai'r galon hon. Lwc dda" i'r ddau hawddgaraf, Digwmwl fyddo'u gwybr, A gwenau y Goruchaf Yn llewyrch ar eu llwybr I'w dwyn i'r Ddinas Sanctaidd," Jerusalem y nef, I ganu yn fwy peraidd Yr anthem Iddo Ef." Gorphenaf 26ain oedd dydd cynulliad blynyddol y cenhadon Cymreig a'u praidd i Chingford, a golygfa hardd oedd gweled y canoedd (ar ol cyfranogi o ddanteithion parotoedig yn Hawkewood) yn mwynhau eu hunain dan awelon iach y lie, a thywydd mor ddymunol. Cynhaliwyd y cwrdd arferol dan lywyddiaeth yr archgenhadwr Mr Thomas. I aros trefniad rheolaidd y cwrdd yr oedd y brawd R. Williams yn diddanu y dorf drwy ganu penillion Cymreig yn ol ei drefn arfer- ol ei hun. Wedi hyny dechreuwyd y cyfar- fod drwy weddi gan y cenhadwr Edmund Davies, yna datganodd Misses Parry, Wilton Square, ac Evans, Falmouth Road, a chwior- ydd eraill. Traddodwyd anerchiadau grymus a nodedig bwrpasol gan y Parchn. Richards, Wood Green, ac R. Lloyd Jones, City Road, ynghyd ag annerchiad Saesoneg gan Mr. Dunn. Yr oedd ton y cyfarfod o'r fwyaf dymunol a diau y gwna les. Yr oedd y siaradwyr wedi bod yno y flwyddyn flaenorol, a hwn oedd yr olaf i'r Parch. R. Lloyd Jones cyn iddo symud i Gymru i lanw swydd anrhyd- eddus ynglyn a'i enwad. Gwelsom y brodyr Rees, King's Cross Roberts, Honor Oak Williams, Stoke Newington, ac eraill yn bresenol. Yr oeid edrych ar y dyrfa yn galw i gof wynebiu eraill oedd weii eu symui gan angeu yn ystod y fiwydd/n, ac yn rhybuid I- byddwch chwithau birod." Y mie gan y cenhaion waith miwr i'w gyflawni yn golygu llafur a cherdded (er engraifft, c/mjrer yr East End o Aldgate hyd Manor Park, cv/lch Mr. Williams), y B)ro, Mr. Divies; West End, Mr. Jones Kingsland R^ad, Mr. Divies; ac y mie yn sicr eu b)d yn haedda cefnogaeth yr eglwysi. Dr*v^ genym nad oedd yn gyfleus i S/r John Paleston fod yn bresenol a- herwydi afiecdyd, Dydd Sadwrn diweddaf, Gorphenaf 30, rhoddwyi y cwlwrn prioiasol am Mr. R. J. Evans, 20, Tourrniunt R^ad, Piumstead, a Miss Catherine M. Jervis (Lerpwl), î{aQ. y Parch. Llywelyn Bowyer yn nghapel y Scotch Presbyterians, Woolwich. Gwasan- aethwyd fel y g-was a'r for^yn briod- asol gan Mr. L. D. Lewis, Burrage Road, a Miss F. Williams (Castell-newydd-Emlyn). Daeth nifer fawr o gyfeillion y par ieuanc i'r capel i fod yn dystion i'r ^wasanaeth dyddorol, ac i ddymuno lwc dda iddynt. Aethpwyd o'r capel i dy Mr. a Mrs. Owen, Tourmont Road, lie yr oedd parotoadau ardderchog yn eu aros; ac yr oedd yn atnlwg iawn fod pawb yn mwynhau eu hunain j yn gampus. Yn mysg eraill oedd yn gwas- anaethu wrth y bwrdi yr oedd Mrs. Jervis j (mam y briodasferch) yn dangos y sirioldeb mwyaf. Yr oedd yr anrhegion lluosog a gwerthfawr oedd yno yn dangos fod i Mr" Evans a'i briod hawddgar gyfeillion myn- wesol iawn. Wedi treulio y prydnawn mewn ymgomio a gwrando ar ffrwyth yr awen ag anerchiadau, aeth y "pâr ieuanc i Hastings i dreulio eu mis mel gyda. dymuniadau goreu eu cyfeillion am ett J dedwyddwch a'u llwyddiant.

Advertising