Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y Byd aV Bettws.

News
Cite
Share

Y Byd aV Bettws. Addefai un llaethwr yn ddiweddar y bu- asai yn ddoethach iddo aros gartref i ed- rych ar ol ei fferm a'i fuwch na cheisio saethu (John) Bulls yn Bisley. Nid yw y Sais yn werth" powder and shot." 'Does dim arian o gwmpas, meddir. Mae ysbryd cynilo wedi dod dros y wlad. Ychydig iawn orfu ddod o flaen eu gwell am feddwi ar Wyl Awst. Anfonwyd llythyr Cymraeg i bob aelod o Dy y Cyffredin y dydd o'r blaen i erchi arnynt benodi swyddogion yn Nghymru a allent siarad Cymraeg. Y mae y Sais erbyn hyn wedi dod i deimlo, mae'nddiau, fod yma fyd agos iawn ato nad yw eto wedi ei orch- fygu na'i feistroli-byd yr iaith Gymraeg. Y mae y Cymro wedi gorchfygu ami i iaith. Y mae cartref yr hen Dderwyddon-sir Fon-yn codi i fri mawr fel mangre i dreulio gwyliau'r haf. Cyrcha mwy yno eleni nag erioed. Gellir cael y fantais o fyw mewn ffermdy ar lan y mor yn Mon-mam Cymru. Tra y mae masnach yn wanaidd yn LIoegr a llai yn cyrchu i'r dyfrleoedd Seisnig y mae newyddion calonogol yn dod o Gymru. Y mae prydferthwch dyffrynoedd, rhamant nentydd ac arueheledd mynyddoedd yr hen wlad yn atdynu mwy o ymwelwyr eleni nag erioed. Aeth Cymdeithas Gymraeg Llynlleifiad ar bererindod dydd Llun i fangre He ganwyd Goronwy Owain, bardd mawr y ddeunawfed ganrif, ac eiddo ei noddwyr y Morrisiaid o Bentre Eiranell. Rhoddodd tref Llanerchymedd, yn ol ei hysbryd llengar, groesaw calon iddynt ar eu dyfodiad yno, a darllenwyd cyfarchiad iddynt gan Meilir Mon. Atebwyd hon gan y Parch. J. Williams, llywydd y Gymdeithas Caed ychydig eiriau hefyd gan y Parch. J. T. Job, Bethesda a'r Athraw J. Morris. Jones. 'j Cynhaliwyd Cyngres y Sefydliad Iechydol yn Glasgow yr wythnos ddiweddaf, a chaf- odd cysegredigrwydd y bywyd dynol ei bwysleisio gan y prif awdurdodau. Pasiwyd amryw benderfyniadau gan Un- deb y Bedyddwyr Cymreig, yr wythnos ddi- weddaf, ar y Mesur Trwyddedol, y Ddeddf Addysg, Dadgysylltiad, Cadwraeth y Saboth a'r Iaith Gymraeg, ac felly yn y blaen. Mae Efrog newydd yn brin y dyddiau hyn o gig eidion. Gwyn fyd na ellid all-forio cig lledr teirw Cymru yno.