Hide Articles List

2 articles on this Page

-y CYMRO LLUNDEINIG AR EI…

News
Cite
Share

-y CYMRO LLUNDEINIG AR EI WYLIAU HAF. Y Cymro Llundeinig sy'n ysgafn ei fron Pan genfydd y coed yn blaguro, Wrth weled y blodau, sibryda yn lion Mae tymor fy ngwyliau yn gwawrio Pan daena yr hafddydd ei swynion diri', Nes deffro pob telyn ddaearol, Ei galon a ddywed, Hen Walia i mi, A'i hoffus lanerchau dymunol." A Yn brysio i'r orsaf ryw foreu fe'i cawn 0 ganol Caerludd a'i gofalon, Ei wyneb yn siriol, a'i fynwes yn llawn 0 bob rhyw swynhudol adgofion 'Rol cyrhaedd yr orsaf fach wledig ddi-nod, Rhwng bryniau Gwyllt Walia fynyddig, Ei ddagrau a dreiglant, tra'n teimlo ei fod Yn nghanol cyfeillion caredig. I'r bwthyn bach gwledig wrth ochr y bryn O'r orsaf cyfeiria ei gamrau, II Y coedydd o'i gwmpas, a'i furiau teg gwyn Enynant ar dan ei deimladau :Mae'n cofio mai dyma'r hen fwthyn bu ef Yn treulio'n chwareugar ei febyd, Heb feddwl gwnai dwndwr un dinas na thref Weddnewid fiurfafen ei fywyd. Yn ystod ei wyliau yn fynych fe'i cawn Hyd lethrau'r mynydd-dir yn rhodio, Ar gasglu'r man flodau foreuddydd a nawn Nid ydyw un amser yn blino Yn sibrwd y gornant, a murmur y don A Cymru'n agosach i'w galon, Ac iaith ei wladgarwch yw—"Bydded i hon Hyd byth fod yn gartref y Brython." LAZARUS. Anfoned Lazarus ei enw a'i gyfeiriad i ni a chaiff ei haner-goroni yn y cynulliad nesaf. Yn nghystadleuaeth Gwyliau'r Haf," deallwn tnai enw priodol Creuddyn "-awdwr yr ysgrif ar Llandudno, yr hon a gyhoeddwyd yn ein rhifyn am y 9fed o'r mis hwn-yw Mr. J. R. Jones, 58, Moorgate Street, ac yn y cwrdd diweddaf daeth Mrs. Jones i 3101 y pres mewn llawenydd, oherwydd teimlai y gallai hi a'r teulu gael pythefnos ar lan y mor 'nawr, pan mae'r gwr yn gwneyd mor rhagorol oddiwrth ei Synyrchion llenyddol. HANER-CORON AM DDIMEU. Rhydd y Gol. haner-coron bob wythnos am y serdyn post a gynwys yr hanesyn Cymreig goreu, addas i golofn "Oddeutu'r Ddinas." Rhaid i't ca-rdiau ddod i law erbyn bareu dydd Mercher yn yr Wythnos, ao enw a ohyfeiriad yr anfonydd ar bob Un. Cyfeirier y cardiau Gol. Oddeutu'r Ddinas," 211, Gray's Inn Road, W.C. ADGOFION Y G WYLIAU.—GWOBR. Erbyn diwedd mis Awst bydd y nifer liosocaf 0 wyr y CELT wedi bod ar eu gwyliau yn Nghymru. Er Jttwyn sicrhau rhai o'u hadgofion am y gwyliau, ao ,enyn ynddynt ddyddordeb yn y lleoedd a fynychir Sanddynt, rhoir gwobr 0 haner gini amyr ysgrif oreu o Adgofion am Wyliau Haf 1904. Dylai'r ysgrif fod 0 fewn tua dwy golofn o'r CELT '413 yn ddesgrifiadol o'r lie neu'r lleoedd a ymwalwyd a hwy, -ynghyd a hanes digwyddiadau o ddyddordeb 1 Gymry Llundain. Er mwyn rhoddi mantais i'r cystadleuwyr, cania- ieir hyd y lOfed o Fedi i anfon yr ysgrifau i fewn. •Noder ar yr amlen Adgofion," a ohyfeirier hwynt i ^1- y GELT, 211, Gray's Inn Road, W.G. D. James. Caiff y mater a nodwch ein sylw cyn yechreu'r tymor gauafol. Nis gellir disgwyl cyfnew- Idlad ar hyn o bryd pan y mae cynifer o'n pobl ya y Vvlad. E. J. Holborn. Nid oes un rheswm paham y rhaid cQ,nu unawdau Seisnig yn ein oedfeuon Cymreig ar y Sul. Mewn gair, buasai'n ddoethach i'n oantorion geisio meistroli'r alawon syml Gymreig cyn ^echreu ar y clasuron Seisnig. Byddai oanu can yn dda, yn llawer mwy o foddhad na rhoddi dadganiad oyffredin o gan anhawdd a chlasurol. TV. Bonnes. Ni ddywedodd y CELT mai trwy bre- gethu y gwnaeth y diweddar Barch. Evan Jones ei gyfoeth mawr. Etifeddodd y rhan fwyaf o'r arian °ddiwrth ei frawd-yn-nghyfraith—y gwr hwnw a fcdwaenid yn y ddinas, rhyw bymtheng mlynedd yn 01, Wrth yr enw How's trade." Gyssondeb. Os mai llaethwr ydych, dylech fod yn gWybod anhawsderau'r fasnach. Ond os mai mas- nachwr mewn cangen arall ydych, carem wybod a ydyw eich masnach chwi yn berffaith rydd oddi- Wrth dwyll ? Llinos Wyre. Croesaw eto'n ol. 'Does modd claddu yr awen fe fyn hono ddangos ei hun pan fo testyn teilwngogan. Bodfal. Diolch am y g&n ond pan geisiodd Alaw £ >ren ei chanu yn y cwrdd, aeth allan o diwn yn bollol. Tystiai'r Alaw fod y geiriau yn rhy fyr yn y llinellau olaf. Hwyrach mai poethder yr hin oedd yn gyfrifol am hyny. TV. 0. Davies. Wel ydynt; y mae pregethw/r y CELT yn glyfar fel yr awgrymwch; ond nid, feallai, yn ddigon clyfar i bregethu mewn dau gapel ar yr un aWr. Bai D--l y wasg oedd hyny feallai: nid yw'r Swr bach hwnw eto wedi ymgydnabyddu digon a'r i ddeall eu rheolau. Ond y mae gobaith ac"er hyd yn oedd y pentawyn hwnw.

Advertising